3.2 Y llwybr prynu

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 15 Y llwybr prynu

Mae’r diagram hwn yn dangos y llwybr y bydd prynwyr yn ei ddilyn wrth benderfynu beth i’w brynu.

Mae pwysau cystadleuol yn dylanwadu ar bob un ohonom pan fyddwn yn prynu rhywbeth. Efallai y byddant yn amlwg, fel hysbyseb neu hyrwyddiad uniongyrchol, neu’n llai amlwg, fel sylwadau gan ffrindiau a theulu. Felly caiff y syniad o ‘angen’ ei blannu a bydd yn tyfu hyd nes bod y cwsmer yn barod i ystyried pryniant yn fwy difrifol. Caiff gwybodaeth ei chasglu cyn y gellir gwneud dewis ac yn y pen draw, caiff pryniant ei gwblhau. Mae’r diagram yn dangos nad yw’r broses wedi’i chwblhau hyd nes bod yr adborth wedi’i brosesu fel gwybodaeth a all effeithio ar ddewisiadau prynu yn y dyfodol. Bydd y cylch adborth hwn yn digwydd bob tro y caiff pryniant ei wneud.

Mae’r llwybr yn caniatáu ar gyfer pob math o ddylanwad – fel cydweithwyr, ffrindiau, teulu, profiad blaenorol ac ati. Gall rhai busnesau fod yn fwy agored i bwysau cystadleuol a dylanwadau cymdeithasol nag eraill. Mae’r rhain i gyd yn ffactorau sy’n annibynnol ar y cwmni sy’n gwerthu’r nwyddau neu’r gwasanaethau ac yn dangos yr angen am asesiad amgylcheddol cyfredol da (gweler sgan amgylcheddol) fel y gallwch ddeall pa ddylanwadau sy’n debygol o effeithio ar eich cwsmeriaid.

Mae penderfyniadau prynu gwerth uwch yn dilyn yr un llwybr ond, fel arfer, caiff mwy o amser ei dreulio’n ymchwilio i’r gystadleuaeth ac yn casglu data o gymharu â phryniannau gwerth isel.

Gwerthu i sefydliad mawr

Os ydych yn gwerthu eich cynhyrchion neu’ch gwasanaethau i sefydliad mawr, boed yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat, bydd y cwsmer am gael gwybodaeth am eich rhinweddau chi a’ch cwmni a rhinweddau’r cynnyrch neu’r gwasanaeth rydych yn ei gynnig. Gall y broses hon gymryd cryn dipyn o amser a chynnwys nifer o bobl, hyd yn oed os mai dim ond un person fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Bydd angen i chi ganfod pwy fydd yn dylanwadu ar y penderfyniad yn ogystal â phwy fydd yn gwneud y penderfyniad.

Er bod hyn yn llafurus, gall fod yn fuddsoddiad gwerth chweil. Er enghraifft, os ydych yn fenter gymdeithasol sy’n gweithio i leihau gwastraff, mae cytundeb lefel gwasanaeth â’r awdurdod lleol i roi cyngor ar leihau gwastraff neu hyd yn oed ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi yn debygol o roi mwy o ddiogelwch i chi na cheisiadau diddiwedd am grantiau. Noder, os hoffech werthu i’r sector cyhoeddus, dechreuwch drwy fynd i wefan GwerthwchiGymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Mae diagram y llwybr prynu yn dangos bod y broses yn parhau ar ôl y gwerthiant, wrth i’r cwsmer werthuso’r hyn y mae wedi’i brynu. Bydd y gwerthusiad hwn naill ai’n cael dylanwad cadarnhaol neu negyddol ar y tebygolrwydd y bydd y cwsmer yn prynu eto gan y gwerthwr. Peidiwch â thanbrisio pwysigrwydd argymhellion llafar fel rhan bwysig o’r gwaith o lansio ac adeiladu’r busnes.

3.1.1 Anghenion cwsmeriaid

3.2.1 Camau’r broses mabwysiadu arloesedd