3.4.14 Saith ‘P’

Mae’r Model Pedwar Cam (Four P’s yn Saesneg) wedi cael ei ymestyn i saith P dros y blynyddoedd diwethaf. Os ydych yn teimlo eu bod yn ychwanegu gwerth at eich dadansoddiad yna defnyddiwch y model saith cam P.

Y tri cham P ychwanegol yw:

  • pobl
  • tystiolaeth ffisegol
  • proses.
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 18 Y Saith Cam

Mae’r elfen pobl yn cydnabod bod darparu gwasanaethau (yn wahanol i weithgynhyrchu) yn cynnwys rhyngweithio personol rhwng y cyflenwr a’r cwsmer. Rhaid talu sylw arbennig felly i agweddau, ymddygiad a phersonoliaeth y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau. Mae’r nodwedd hon yn arbennig o berthnasol i fusnesau bach sy’n gwmnïau gwasanaeth yn bennaf ac sydd mewn cyswllt rheolaidd â’u cwsmeriaid (fel arfer ar lefel rheolwr-berchennog/ entrepreneur).

Mae’r rhan fwyaf o’r cynigion i gwsmeriaid bellach yn gyfuniad o gynnyrch a gwasanaeth. Golyga hyn fod nodweddion diriaethol ac anniriaethol. Er bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau yn seiliedig ar brofiad diriaethol, emosiynol (e.e. awyrgylch a naws tŷ bwyta) ceir agweddau ffisegol pwysig hefyd (e.e. sut mae’r bwyd yn edrych, ansawdd yr addurno ac ymddangosiad y rhai sy’n gweini). Bydd yr ardal lle y lleolir y tŷ bwyta hefyd yn rhoi tystiolaeth ffisegol o lefel yr ansawdd a gynigir.

Gan fod gwasanaethau fel arfer yn cael eu darparu pan fo’r defnyddiwr yn bresennol, mae’r broses a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth hefyd yn rhan annatod o’r hyn y mae’r cwsmer yn talu amdano. Er enghraifft, ceir gwahaniaeth sylweddol rhwng pryd gwasanaeth arian mewn tŷ bwyta crand a byrgyr a brynir mewn siop bwyd brys. Bydd defnyddiwr sy’n chwilio am broses gyflym yn ffafrio’r siop bwyd brys, ond bydd y defnyddir sy’n chwilio am noson allan yn ffafrio proses arafach y tŷ bwyta o bosibl.

Tasg 22: Parwch y C gyda’r P cywir

Mae fersiwn arall o’r model pedwar cam ‘cwsmer’ (four P’s) sy’n ‘canolbwyntio mwy ar y cwsmer’.

Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.

  1. Yr hyn sydd ei angen a’i eisiau ar y cwsmer

  2. Cost i’r cwsmer

  3. Cyfleustra

  4. Cyfathrebu

  • a.Lle

  • b.Hyrwyddo

  • c.Pris

  • d.Cynnyrch

Yr atebion cywir yw:
  • 1 = d
  • 2 = c
  • 3 = a
  • 4 = b

Tasg 23: Marchnata ar gyfer eich busnes

Dewiswch y model pedwar cam, y model saith cam neu’r model pedwar cam cwsmer.

Ystyriwch y cynnyrch neu’r gwasanaeth yr ydych yn gobeithio ei lansio.

Ar gyfer pob rhan o’r cymysgedd marchnata ystyriwch beth fydd yn gweithio i’ch busnes newydd chi. Byddwch yn ymwybodol o gyfyngiadau posibl o ran adnoddau ond peidiwch â chyfyngu eich hun wrth gyflawni eich nodau.

3.4.13 Model archwilio rhwydwaith

3.5 Marchnata cymdeithasol