Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Thursday, 28 March 2024, 8:48 PM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2024 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Thursday, 28 March 2024, 8:48 PM

Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru

Cyflwyniad

Cewch eich cyflwyno i nodweddion y cyd-destun Cymreig a fydd yn datblygu eich dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i fod yn ymarferydd effeithiol yng Nghymru. Wrth astudio, byddwch yn dod i ddeall datganoli a'i effaith ar ddeddfwriaeth, polisi ac, yn y pen draw, ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Byddwch hefyd yn ystyried rhai agweddau pwysig ar anghenion iaith a dewis iaith. Cewch eich cyflwyno i rai o'r rolau a'r tasgau a gyflawnir gan ymarferwyr, sut mae deddfwriaeth a pholisi cymdeithasol yn effeithio arnynt a sut y maent yn seiliedig ar y codau ymarfer a'r sylfaen gwerthoedd proffesiynol.

Mae'r uned hon yn cynnwys darnau wedi'u haddasu sy'n berthnasol i KZW113 Foundations for social work practice

Mae'r uned hon hefyd ar gael yn Saesneg ar OpenLearn.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.

Deilliannau dysgu

Ar ôl astudio'r uned hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • datblygu dealltwriaeth o ystyr y gair 'cymdeithasol' mewn ymarfer gwaith cymdeithasol
  • ystyried effaith y cyd-destun Cymreig ar ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru er mwyn gweld pa werthoedd ac agweddau sy'n sail i ymarfer gwaith cymdeithasol.

1. Cyd-destun cymdeithasol defnyddwyr gwasanaethau

Ffigur 1 Pobl wrth groesfan cerddwyr (h) Brasil2/iStockphoto.com

Yn ogystal â deall y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol ac uniaethu â nhw fel unigolion unigryw, mae angen i weithwyr cymdeithasol hefyd werthfawrogi effaith ffactorau cymdeithasol ehangach ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau. Mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda rhai o'r grwpiau mwyaf ymylol yn ein cymdeithas, a all fod yn wynebu tlodi, anfantais a gwahaniaethu. Heb ddeall sut a pham mae cymdeithas wedi'i rhannu mewn ffordd nad oes gan unigolion fawr ddim rheolaeth drosti, byddai'n hawdd beio unigolion am amgylchiadau na wnaethant eu dewis. Mae tlodi a dosbarth cymdeithasol wedi'u cydnabod ers tro yn ffactorau mawr sy'n effeithio ar siawns bywyd pobl, ac mae themâu cyfarwydd iaith, ardaloedd gwledig, cydraddoldebau a thlodi yn effeithio yn y pen draw ar fywydau bob dydd defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr (Williams, 2001, t. xiii) yng Nghymru a thu hwnt. Felly, mae angen i weithwyr cymdeithasol ddeall y materion hyn er mwyn gweithio'n effeithiol gyda phobl Cymru i geisio dod o hyd i ffyrdd y gallant wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

2. Beth yw 'cyd-destun Cymreig' gwaith cymdeithasol?

Mae'n bwysig bod pob gweithiwr cymdeithasol yn deall y cyd-destun, ble bynnag y bo'n gweithio. Mae themâu fel ardaloedd gwledig, tlodi, diwydiannu ac ymfudo ac allfudo yn effeithio ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a'r gwasanaethau a gânt yng Nghymru gymaint ag y maent yn Glasgow neu yng Nghernyw. Fodd bynnag, ni fydd y nodweddion hyn yr un peth ymhob lleoliad neu wlad, neu hyd yn oed o fewn gwledydd, ac mae'n hollbwysig bod gweithwyr cymdeithasol yn datblygu dealltwriaeth o effaith y nodweddion cymdeithasol a demograffig hyn ar fywydau'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw.

Er enghraifft, gwelwyd dirywiad diwydiannol sylweddol yng nghyn-gadarnleoedd diwydiannol cymoedd y De dros y ganrif ddiwethaf, gyda cholledion swyddi anochel. Gall gweithwyr cymdeithasol ystyried effaith y dirywiad hwn ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau neu ofalwyr sy'n byw yn yr ardal hon. Gallwn gyferbynnu'r sefyllfa hon â rhywun sy'n byw mewn ardal wledig yn y canolbarth, sydd wedi'i hynysu'n gymdeithasol ac sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael sy'n golygu ei bod yn anodd defnyddio gwasanaethau, neu brofiad teulu sy'n ceisio lloches sy'n byw mewn ardal wasgaru fel Abertawe, Casnewydd neu Wrecsam. Yn amlwg, bydd gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwahanol anghenion gwahanol, a rhan bwysig o rôl gweithiwr cymdeithasol yw ystyried cwestiynau'n ymwneud â'r cyd-destun wrth iddo asesu anghenion person a gweithio gydag ef i benderfynu sut i'w diwallu.

Er bod gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau a bod ganddynt lawer yn gyffredin â'i gilydd o ran gwerthoedd a moeseg ledled y DU a thu hwnt, mae'r gwasanaethau y maent yn eu darparu a'u dealltwriaeth o'u proffesiwn yn dibynnu ar werthoedd llywodraeth y wlad y maent yn gweithio ynddi. Yng Nghymru, mae syniadau ynghylch y ddarpariaeth les wedi dechrau dilyn trywydd gwahanol i wledydd eraill y DU.

Mae'r broses ddatganoli wedi rhoi cyfrifoldeb deddfwriaethol llawn a chyfrifoldeb am lunio polisïau i Lywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, mae'n hanfodol bod ymarferwyr gwaith cymdeithasol yn gwybod pa ddeddfwriaeth, polisi neu strategaeth sy'n rheoli'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu, neu pa ddarn o ddeddfwriaeth y byddant yn ei ddefnyddio wrth gyflawni eu swyddogaethau statudol yng Nghymru.

Mae iaith hefyd yn rhan bwysig o'r cyd-destun Cymreig gan fod 19.8% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2011). Er bod llawer o ieithoedd i'w clywed ledled y wlad, sydd hefyd yn haeddu sensitifrwydd ac y mae'n rhaid eu trin yn unol ag arfer da, mae dwy iaith swyddogol Cymru (Cymraeg a Saesneg) yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus ac, yn benodol, ar wasanaethau lles.

Gweithgaredd 1: Beth yw'r 'cyd-destun Cymreig'?

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon

Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon.

  • Edrychwch ar y cwestiynau isod a nodwch eich ymatebion.
  • Ers faint rydych chi wedi byw yng Nghymru?
  • A ydych chi'n byw mewn cymuned wledig neu drefol?
  • Pa newidiadau sy'n digwydd yn eich cymuned a beth sy'n eu hachosi?
  • Pa wahaniaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud?
  • Sawl darn o ddeddfwriaeth Gymreig y gallwch chi eu henwi?
  • Beth yw eich dewis iaith?
  • Beth yw eich profiad o'r iaith Gymraeg?
  • A ydych chi'n gwybod faint o siaradwyr Cymraeg sy'n byw yn eich ardal?
  • A ydych chi erioed wedi gweithio gydag unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth Cymraeg?

Gofynnwch rai o'r cwestiynau hyn i gydweithwyr, ffrindiau neu deulu.

A wnaeth rhai o'r ymatebion eich synnu ac os felly, sut?

Trafodaeth

Efallai ichi gael eich synnu faint roeddech yn ei wybod (neu beidio) am y cwestiynau hyn. Mae rhai myfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr gwaith cymdeithasol, sydd wedi gwneud y gweithgaredd hwn wedi cael eu synnu nad oeddent hyd yn oed wedi meddwl am y mathau hyn o gwestiynau o'r blaen. Nid oedd gan lawer ohonynt unrhyw syniad faint o siaradwyr Cymraeg a oedd yn byw yn eu hardal na hyd yn oed a oedd eu llwyth achosion yn cynnwys unrhyw siaradwyr Cymraeg. Mewn rhai grwpiau, ysgogodd y cwestiynau drafodaeth eithaf dwys, er enghraifft, am hanes teuluol a hunaniaeth bersonol, gwerthoedd personol a phroffesiynol a materion gwleidyddol.

Mae angen i weithwyr cymdeithasol fod yn ymwybodol o'r cyd-destun sy'n berthnasol iddynt hwy oherwydd, yn amlwg, mae mwy nag un 'cyd-destun Cymreig'. Mae dyfodiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches, er enghraifft, wedi cyflwyno heriau newydd i rai cymunedau ac ardaloedd ac mewn rhai ardaloedd eraill, er nad ydynt yn ffenomenon newydd, mae'n bosibl nad yw anghenion iaith defnyddwyr gwasanaethau neu ofalwyr Cymraeg wedi cael eu diwallu bob amser. Mae angen i weithwyr cymdeithasol fod yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol i gefnogi eu hymarfer gwrthwahaniaethol a chael gafael ar y cymorth a'r gwasanaethau cywir i ddiogelu lles y bobl hyn.

Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn ystyried ymhellach sut y gall fod yn bwysig i weithwyr cymdeithasol ystyried ffactorau cymdeithasol a demograffig.

Gweithgaredd 2: Ffeithiau a ffigurau: ystyried ffactorau cymdeithasol

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y dasg hon

Darllenwch grynodeb o'r adroddiad 'Monitro tlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru 2013', gan Sefydliad Joseph Rowntree (JRF, 2013).

Dewch o hyd i un darn o wybodaeth am effeithiau tlodi yn y crynodeb nad oeddech yn gwybod amdano o'r blaen. Gwnewch nodiadau cryno ar sut y gallai'r wybodaeth hon fod yn bwysig i weithwyr cymdeithasol.

Trafodaeth

Mae'r adroddiad yn dangos er nad yw cyfran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel yng Nghymru wedi newid rhyw lawer dros ddegawd, mae cyfran yr aelwydydd sy'n gweithio ac sydd ar incwm isel wedi cynyddu ers dechrau'r 2000au. Fodd bynnag, roedd cyfran y teuluoedd sy'n hawlio budd-daliadau mewn-gwaith neu allan-o-waith yn amrywio ledled Cymru, gyda niferoedd uchel o deuluoedd yn y Gorllewin, y Gogledd-ddwyrain a'r Dwyrain yn cael budd-daliadau mewn-gwaith. Yng nghymoedd y De roedd y niferoedd uchaf o deuluoedd a oedd yn hawlio budd-daliadau allan-o-waith.

Gyda chanran uwch o'r boblogaeth oed gwaith yn anweithgar (26.5%), roedd Cymru yn uwch yn y categori hwn na'r Alban a Lloegr a 3.5% yn uwch na chyfartaledd Prydain.

Mae'n drawiadol bod nifer fawr o bobl sy'n gweithio bellach mewn tlodi. Mae cysylltiad hirsefydledig rhwng tlodi ac iechyd a lles, ond eto i gyd mae annhegwch ataliadwy yn parhau (ac yn wir, yn cynyddu) ledled Cymru, ac mae'r rhain yn 'gofyn am ymrwymiad di-ball i sicrhau nad yw lle mae rhywunyn byw na’i amgylchiadau cymdeithasol yn arwain at ansawdd bywyd is nac atfarwolaeth gynamserol' (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2009).

Gan fod Cymru yn gymdeithas hynod o anghyfartal (Williams, 2011, t. 116), mae'n amlwg bod angen i weithwyr cymdeithasol sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r annhegwch hwn a wynebu'r her o weithio mewn ffordd wrthwahaniaethol. Byddwch yn dysgu mwy am ymarfer gwrthwahaniaethol yn Adran 4.

Mae gwefan Sefydliad Joseph Rowntree yn adnodd ardderchog i drafod ac ymchwilio llawer o agweddau ar waith cymdeithasol, ac efallai y bydd y wefan hon yn ddefnyddiol ichi ar adegau eraill hefyd. Gallwch hefyd gymharu ffigurau ledled y DU ar y wefan hon.

3. Deddfwriaeth, polisi a gwerthoedd: cylch gorchwyl gwaith cymdeithasol

Deddfwriaeth a pholisi

Caiff gwasanaethau gwaith cymdeithasol eu hariannu a'u darparu ar sail deddfwriaeth (gyda dyletswyddau a phwerau a gaiff eu gweithredu gan awdurdodau lleol). Mae cyfreithiau penodol yn darparu fframwaith i awgrymu sut y gall neu y dylai gweithwyr cymdeithasol ymyrryd ym mywydau pobl. Gall newidiadau mewn llywodraeth neu bolisi llywodraethol arwain at newidiadau mewn deddfwriaeth sy'n effeithio ar rôl gwaith cymdeithasol, sy'n destun trefniadau craffu gwleidyddol yn aml. Datblygodd gwaith cymdeithasol yn dilyn consensws ynglŷn â darpariaeth les ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a arweiniodd at sefydlu'r wladwriaeth les. Mae'n destun dadlau rheolaidd ymhlith gwleidyddion ac yn y cyfryngau ynghylch y graddau y dylid defnyddio arian cyhoeddus i dalu am gymorth o'r fath.

Datganoli

Ffigur 2 Adeilad y Senedd

Yn y Ddeddf Llywodraeth Cymru (1998) gyntaf, deddfwyd y dylid sefydlu Cynulliad Cenedlaethol (flwyddyn yn ddiweddarach) ac roedd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg ymhlith yr 20 o feysydd polisi a gafodd eu datganoli i Gymru. O dan yr ail Ddeddf (2006), gwahanwyd y corff gweithredol (y llywodraeth) oddi wrth y corff deddfwriaethol a rhoddwyd mwy o bwerau deddfwriaethol i Lywodraeth Cynulliad Cymru (neu Lywodraeth Cymru fel y'i gelwir nawr). Yn y ddeddf hon, deddfwyd hefyd y gallai Cymru gael pwerau deddfu llawn yn y dyfodol, heb fod angen rhagor o ddeddfwriaeth. Yn 2011, ar ôl refferendwm, pleidleisiodd poblogaeth Cymru dros roi pwerau deddfu sylfaenol i Gymru. Felly, mae gan Gymru erbyn hyn ei phroses ddeddfu ei hun mewn 20 o feysydd datganoledig, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol (Llywodraeth Cymru, 2012).

Ers 1998, felly, mae deddfwriaeth a pholisi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi datblygu safbwynt Cymreig, unigryw. Mae traddodiad o gymryd rhan a gweithio mewn partneriaeth bob amser wedi bodoli ym maes datblygu polisi iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond yn sgil datganoli crewyd amgylchedd lle gallai'r 'Ffordd Gymreig' symud ymlaen, gan ddarparu atebion Cymreig i broblemau Cymreig (Williams, 2011). O ganlyniad, mae gwasanaethau yng Nghymru wedi newid o fodel marchnad o ddarparu gofal, gan anelu yn lle hynny at fodel o ‘Gyffredinoliaeth Gynyddol’ (Drakeford, 2007) – hynny yw, gwasanaethau i bawb (lle mae'r holl ddinasyddion yn rhanddeiliaid) ond gan roi pwyslais penodol ar y mannau lle mae'r angen mwyaf. Mae hyn wedi arwain at (a bydd yn parhau i arwain at) newidiadau anochel i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru wrth iddynt gefnogi dinasyddion Cymru, gan gynnwys oedolion sy'n agored i niwed a phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau. Bydd y newidiadau hyn yn cynnwys deddfwriaeth a pholisi, ymarfer gwaith cymdeithasol a gwasanaethau, anghenion ieithyddol a diwylliannol ac, wrth gwrs, dirwedd sy'n newid yn gyson o ran pobl Cymru a'u hanghenion, eu dymuniadau a'u dyheadau.

Caiff y 'Ffordd Gymreig' ei hadlewyrchu mewn polisi a deddfwriaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chaiff yr angen i ddiwallu anghenion pobl Cymru ei gynnwys yn yr holl bolisïau a deddfwriaeth a gaiff eu llunio gan Lywodraeth Cymru. O ran plant, pobl ifanc a theuluoedd, er enghraifft, mae mwy o ymrwymiad i ymgorffori egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhob polisi a deddfwriaeth. Comisiynydd Plant Cymru oedd y sefydliad hawliau dynol annibynnol cyntaf yn y DU a sefydlwyd yn benodol ar gyfer plant. Penodwyd dau Gomisiynydd arall ers hynny - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Un o rolau'r tri chomisiynydd yw hyrwyddo hawliau dinasyddion yng Nghymru.

Mae ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau lleol sy'n rhoi pwyslais ar gydweithredu yn hytrach na chystadlu, a phartneriaeth yn hytrach na her (Williams, 2011, t. 26), yn golygu y bydd gwaith cymdeithasol, a ddarperir drwy adrannau gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol, yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar unigolion yng Nghymru. Bydd gwaith cymdeithasol yn hollbwysig er mwyn darparu atebion Cymreig i broblemau Cymreig.

Yn y Papur Gwyn ar Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011), nodwyd yn glir flaenoriaethau gweithredu Llywodraeth Cymru i greu 'gwasanaethau cymdeithasol sy’n safonol, sy’n ymateb i anghenion ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn' (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011, t. 3), gan ystyried newidiadau demograffig ac ariannol a 'r[h]oi lle mwy canolog eto igyfraniad proffesiynol gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasolyn y gwasanaethau hynny' (t. 28). At hynny, yr uchelgais yw, drwy weithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr i gynllunio a darparu gwasanaethau, y gellir sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ar y cam hwn yn y broses o ddarparu gwasanaethau. Fel hyn, caiff defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr eu hystyried yn bartneriaid gyda llywodraeth leol, gan helpu i gyd-gynhyrchu gwasanaethau yn hytrach na dim ond derbyn yr hyn a roddir iddynt. Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) yn ceisio mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y Papur Gwyn ac mae’n cyfrannu tuag at y broses o drawsnewid gofal a chymorth cymdeithasol yng Nghymru ers dod i rym yn Ebrill, 2016. Gwneir hyn drwy weithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau i nodi eu hanghenion a phenderfynu pa fath o wasanaethau fydd yn cynnal ac yn gwella eu lles ac yn hyrwyddo eu hannibyniaeth orau (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, 2012). Mae'r gwaith partneriaeth hwn sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n rhoi sylw i lesiant pobl fel unigolion, fel rhan o'u teulu ac fel rhan o'u cymuned, yn nodwedd unigryw o'r agenda polisi a deddfwriaethol yng Nghymru.

Drwy fynd i wefan iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru, dewch o hyd i strategaethau, adroddiadau a dogfennau Cymreig eraill sy'n ymwneud yn benodol ag amrywiaeth o grwpiau defnyddwyr gwasanaeth, ac mae gwefan yr Archifau Gwladol yn cynnwys dolenni i Fesurau (deddfwriaeth a grëwyd cyn 2011) a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn edrych ar yr hyn sydd gan bolisïau a deddfwriaeth yng Nghymru i'w ddweud am ddarparu gwasanaethau i grŵp penodol o ddefnyddwyr gwasanaeth.

Gweithgaredd 3: Adlewyrchu'r 'Ffordd Gymreig' mewn polisïau

Timing: Dylech dreulio tua 20 munud ar y dasg hon

Byddwch yn edrych yn fyr ar y strategaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles yng Nghymru, sydd ar gael ar y we-dudalen: 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’.

Mae'r dudalen hon yn amlinellu prif themâu'r strategaeth. Ewch i waelod y dudalen a lawrlwythwch y strategaeth ei hun. Darllenwch y crynodeb gweithredol (tudalennau 5-10) a gwnewch rai nodiadau byr ar sut mae'r rhain yn adlewyrchu'r 'Ffordd Gymreig' yn eich barn chi, yn enwedig o ran gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau/gofalwyr. Sut allai'r strategaeth effeithio ar y cyhoedd yn gyffredinol a thargedu anghenion penodol?

Trafodaeth

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn yr 21ain ganrif. Mae'n adeiladu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) (2010), sy'n gosod dyletswyddau cyfreithiol ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol i wella'r cymorth sydd ar gael i bobl â salwch meddwl, a dylid ei ystyried ar y cyd â Law yn Llaw at Iechyd (2011), y strategaeth ar gyfer y GIG yng Nghymar, a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011), a grybwyllir uchod.

Y strategaeth hon yw strategaeth iechyd meddwl a lles gyntaf Cymru, ar gyfer oedolion a phlant, ac mae'n canolbwyntio ar hybu iechyd meddwl da, atal problemau iechyd meddwl, a gwella gwasanaethau iechyd meddwl. Drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau (gyda chynllun cyflawni), mae'r strategaeth yn ceisio ystyried datblygiadau o safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth a sicrhau bod ei hamcanion yn fesuradwy.

Mae gan bobl Cymru rôl bwysig i'w chwarae yn yr ymgyrch i fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu, ac mae'n rhaid cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd disgwyl i wasanaethau cymdeithasol ac iechyd gydweithio mewn ffyrdd newydd er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau ym mywydau pobl a all effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid cyflawni'r bwriadau beiddgar hyn gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd a bydd hyn yn anodd o gofio'r toriadau cyllidebol presennol. Serch hynny, gellid dadlau bod y gwerthoedd sylfaenol, sy'n cynnwys hawliau dinasyddion, gwrando ar lais defnyddwyr gwasanaethau a symud oddi wrth fodel marchnad o ddarparu gofal yng Nghymru, yn gyfle braf i ddychwelyd i werthoedd y proffesiwn gwaith cymdeithasol. Wrth ichi feddwl am hyn, efallai yr hoffech ystyried a ydych yn cytuno â'r farn hon ai peidio.

Bydd y rhaglen ddeddfwriaethol yng Nghymru yn parhau i fynd rhagddi'n gyflym, gydag agenda sy'n gynyddol wahanol i wledydd eraill y DU. Mae'r cyfrifoldeb am ymyrryd ym mywydau pobl, a hynny'n groes i'w dymuniadau weithiau, yn golygu ei bod yn hollbwysig bod gweithwyr cymdeithasol yn gyfarwydd â'r cyd-destun deddfwriaethol a'r cyd-destun polisi yng Nghymru, gan mai dyma sy'n ategu ac yn llywio eu hymarfer ac, yn y pen draw, yn effeithio ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.

Gwerthoedd

Mae gan bob un o bedair gwlad y DU ei rheoleiddiwr ei hun ar gyfer y proffesiwn gwaith cymdeithasol. Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yw'r rheoleiddiwr yng Nghymru. Caiff ymarfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ei lywodraethu gan y Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol sy’n cynnwys safonau rheoleiddio ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yn eu gwaith o ddydd i ddydd tra bod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC, CGC 2011), sy'n nodi safonau y cytunwyd arnynt o gymhwysedd ar gyfer y proffesiwn. Mae dogfen arall, 'Y Gweithiwr Cymdeithasol' http://www.cgcymru.org.uk/ canllawiau-ymarfer-i-weithwyr-cymdeithasol/ (CGC, 2014) yn cynnwys canllawiau ymarferol i weithwyr cymdeithasol cofrestredig a dyma'r canllaw cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'n cynnwys diffiniad rhyngwladol o waith cymdeithasol ac yn ymhelaethu ar y Côd Ymarfer Proffesiynol, ond mae diben rheoleiddiol iddo hefyd oherwydd gall unrhyw weithwyr cymdeithasol cofrestredig nad ydynt yn ei ddefnyddio golli eu cofrestriad.

Mae'r dogfennau hyn yn adlewyrchu ideoleg a gwerthoedd Llywodraeth Cymru o ran sut y dylid gwneud gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, caiff diben gwaith cymdeithasol ei ddiffinio gan fwy nag athroniaethau a chredoau llywodraethau neu gynulliadau gwledydd unigol; mae sefydliadau sy'n cynrychioli gweithwyr cymdeithasol hefyd yn hyrwyddo safbwyntiau ar y rôl broffesiynol. Cafodd y diffiniad canlynol o waith cymdeithasol ei gyhoeddi ar y cyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Gweithwyr Cymdeithasol (IFSW) a'r Gymdeithas Ryngwladol Ysgolion Gwaith Cymdeithasol (IASSW) yn 2001. Dyma'r diffiniad o waith cymdeithasol y mae CGC hefyd yn ei ddefnyddio yn ei ganllawiau ymarfer a nodir uchod:

[Mae'r proffesiwn gwaith cymdeithasol yn] hybu newid cymdeithasol, datrys problemau mewn perthnasau dynol a grymuso a rhoi rhyddid i bobl i wella lles. Drwy ddefnyddio damcaniaethau ynghylch ymddygiad dynol a systemau cymdeithasol, mae gwaith cymdeithasol yn ymyrryd lle mae pobl yn rhyngweithio â’u hamgylcheddau. Mae egwyddorion hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn hanfodol i waith cymdeithasol.

(IFSW, 2012)

Cwblhawyd adolygiad o'r diffiniad hwn a chyflwynwyd fersiwn newydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol IFSW/IASSW ym mis Gorffennaf 2014:

“Social work is a practice-based profession and an academic discipline that promotes social change and development, social cohesion, and the empowerment and liberation of people. Principles of social justice, human rights, collective responsibility and respect for diversities are central to social work.  Underpinned by theories of social work, social sciences, humanities and indigenous knowledge, social work engages people and structures to address life challenges and enhance wellbeing.

The above definition may be amplified at national and/or regional levels”.

IFSW, 2014

Mae'r fersiwn newydd yn adeiladu ar y pwys a roddwyd yn yr hen ddiffiniad ar gyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod cymhlethdod gwaith cymdeithasol yn fyd-eang. Mae gofal cymdeithasol yn ymwneud â helpu unigolion a chydweithio â chymunedau i herio strwythurau cymdeithasol a allai greu anfantais a bygwth lles. Mae hwn yn ddatganiad grymus o'r rhan 'gymdeithasol' ehangach o gylch gorchwyl gwaith cymdeithasol, yn wyneb disgwyliadau o'r proffesiwn sy'n newid yn gyson.

Gweithgaredd 4: Codau moeseg cenedlaethol a rhyngwladol

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon

Ewch i wefan Ffederasiwn Cenedlaethol y Gweithwyr Cymdeithasol.

Daliwch y cyrchwr dros y tab 'Resources', yna cliciwch ar 'Policies', sgroliwch i lawr ac edrychwch dros y 'Statement of ethical principles'. Gwnewch nodiadau ar bwyntiau allweddol y datganiad hwn, yn eich barn chi.

Ar waelod y sgrin, ewch i'r adran 'National codes of ethics' a dewch o hyd i god moeseg y DU ar gyfer gwaith cymdeithasol, a gafodd ei ddatblygu gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain. Canolbwyntiwch ar y cyflwyniad (t. 4), ac yn enwedig y datganiad bod gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cyfyngu gan yr adnoddau sydd ar gael a'r polisïau sefydliadol sydd ar waith mewn cymdeithas. Mae hyn yn cysylltu'n benodol ag ystyriaethau polisi cymdeithasol.

Mae hon yn ddogfen hir sy'n awgrymu 17 o egwyddorion y dylai gweithwyr cymdeithasol eu dilyn ac yn nodi sut y dylai ymarferwyr lynu wrth werthoedd craidd yn eu hymarfer. Ar hyn o bryd, dim ond brasddarllen y ddogfen y dylech ei wneud.

Ceisiwch ddod o hyd i enghraifft o'ch profiad bywyd neu'ch profiad gwaith eich hun sy'n dangos yr her o rymuso a hyrwyddo lles pan fo adnoddau'n brin.

Sut allai gweithiwr cymdeithasol ddefnyddio Côd Ymarfer Proffesiynol - Gofal Cymdeithasol Cymrui lywio ei ymarfer pan fydd yn wynebu cyfyng-gyngor fel hyn?

Trafodaeth

Rhoddodd ymarferydd gwaith cymdeithasol enghraifft dda o'r cyfyng-gyngor hwn pan ddisgrifiodd ymdrech i helpu plant a oedd yn ceisio lloches ar eu pen eu hunain, a oedd yn cael eu dal mewn canolfan gadw ac a oedd wedi profi trawma difrifol. Dywedodd iddo deimlo ei fod mewn cyfyng-gyngor proffesiynol wrth gytuno i weld plant a oedd yn cael eu cadw. Dywedodd gweithiwr cymdeithasol arall wrthym ei bod yn anhapus iawn â pholisi ei hawdurdod lleol o ailgartrefu teuluoedd digartref gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'r man lle roeddent yn byw yn Llundain, yn enwedig pan roedd hyn yn golygu y byddai'r plant yn gorfod gadael eu hysgol, eu ffrindiau a'u teulu. Teimlai fod y polisi hwn yn gwbl groes i bopeth a wyddai am yr hyn sydd ei angen ar blant a theuluoedd, ond bod disgwyl iddi weithio gyda rhieni i ddod o hyd i ysgolion newydd mewn cymunedau nad oeddent yn gwybod dim amdanynt. Roedd hyn yn un enghraifft o'r ffordd y mae polisi cymdeithasol yn effeithio ar waith cymdeithasol, yn ei barn hi.

4. Rolau gwaith cymdeithasol ar waith

Yn yr adran flaenorol, gwnaethoch ystyried y fframwaith cyfreithiol a pholisi ehangach ar gyfer gwaith cymdeithasol ac edrych ar sut y gall gwerthoedd proffesiynol gael eu herio neu hyd yn oed weithiau eu cefnogi gan ddatblygiadau polisi cymdeithasol neu ddatblygiadau cyfreithiol ar y pryd. Serch hynny, gall gweithwyr cymdeithasol ddatblygu a defnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o leoliadau a chyda llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau gwahanol, ac mae ganddynt gyfleoedd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd iawn.

Gweithgaredd 5: Beth sy'n gwneud gweithiwr cymdeithasol da?

Timing: Dylech dreulio tua 10 munud ar y dasg hon

Gwyliwch y fideos isod a nodwch beth mae pob unigolyn yn ei ddweud am nodweddion gweithiwr cymdeithasol da.

Siân Parry, Defnyddwyr Gwasanaeth

Download this video clip.Video player: k113_3_sian_parry.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mr Howell Mudd, Gofalwr

Download this video clip.Video player: cym-k113_3_mrmudd.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Linda Jones, Rheolwr gwaith cymdeithasol

Download this video clip.Video player: hscres_1_linda.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Efallai bod gennych brofiad o ymyriad gwaith cymdeithasol eich hun - a fyddech chi'n cytuno â'r rhain? A allwch chi feddwl am unrhyw nodweddion pwysig eraill?

Trafodaeth

Mae ymarfer gwaith cymdeithasol da yn ymwneud yn bennaf â chydberthnasau (Wilson et al., 2011) ac ymgysylltu'n effeithiol â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac eraill er mwyn eu galluogi i ddweud eu storïau. Meithrin cydberthynas dda yw'r man cychwyn i weithio gyda phobl yn hytrach nag arnynt (Beresford, 2012) a thrwy'r gydberthynas broffesiynol hon mae gweithwyr cymdeithasol yn ymgysylltu ag unigolyn ac yn ymyrryd yng nghymhlethdod ei fydoedd mewnol ac allanol (Wilson et al., 2011).

Mae'r defnyddiwr gwasanaeth a'r gofalwr yn glir iawn ynglŷn â'r nodweddion y dylai gweithiwr cymdeithasol eu harddangos yn eu barn nhw, ac mae'r rhain yn hollbwysig er mwyn meithrin cydberthynas waith dda. Mae pwysigrwydd gwrando a'r nodweddion eraill a grybwyllwyd yn adlewyrchu'r cynhesrwydd, empathi, dibynadwyedd a pharch y nododd Beresford (2012) y mae defnyddwyr gwasanaethau am eu gweld mewn gweithwyr cymdeithasol - hynny yw, yr un math o nodweddion y byddech yn disgwyl eu gweld mewn ffrind ffyddlon. Dyma'r hyn y mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn dweud yn gyson yr hoffent ei weld mewn gweithwyr cymdeithasol. Mae'n bwysig bod gweithwyr cymdeithasol yn gwrando ar hyn ac yn gweithredu arno.

Anfantais a gwahaniaethu

Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i weithwyr cymdeithasol ddefnyddio eu barn broffesiynol i ymyrryd ym mywydau pobl. Efallai mai un o'r rhesymau am hyn yw eu bod yn tybio bod unigolyn yn agored i niwed mewn rhyw ffordd ac efallai y bydd angen gwneud rhai penderfyniadau ar ei ran hyd yn oed. Mae'n bwysig nodi y caiff y syniad hwn o fod yn 'agored i niwed' ei herio'n aml gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'r grwpiau sy'n eu cynrychioli am nad yw'r term yn cydnabod cryfderau pobl a'i fod ond yn canolbwyntio ar un agwedd negyddol ar eu bywydau.

Ffigur 5

Gweithgaredd 6: Pobl sy'n agored i niwed

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon

Meddyliwch am bwy mewn cymdeithas y byddech yn eu cynnwys yn y categori 'pobl sy'n agored i niwed' a pham. Efallai y gallwch ddefnyddio eich profiad gwaith eich hun neu'ch profiadau o gael gwasanaethau.

Trafodaeth

Mae'r bobl sy'n cael gwasanaethau gan weithwyr cymdeithasol yn cynnwys plant, pobl hŷn, pobl â namau corfforol, namau meddyliol neu namau dysgu, pobl sy'n sâl neu'n gofalu am ddibynyddion, pobl â phroblemau cyffuriau neu alcohol, a throseddwyr. Mae hon yn rhestr eithaf hir, ond a yw'r ffaith bod y bobl hyn yn cael gwasanaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn golygu eu bod yn 'agored i niwed'? Mae'n anodd ateb y cwestiwn hwn, yn rhannol oherwydd y ffyrdd gwahanol o ddehongli'r term 'agored i niwed'. Er enghraifft, a yw'n cynnwys pobl a fyddai'n wynebu risg o niwed corfforol neu emosiynol pe na fyddent yn cael gwasanaethau, er eu bod yn gallu deall eu hanghenion a gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain? Yn eich barn chi, i ba raddau mae bod yn 'agored i niwed' yn deillio o anfantais gymdeithasol neu ddiffyg cyfleoedd?

Byddwn i gyd yn defnyddio gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol rywbryd yn ystod ein bywydau - ac efallai y bydd newidiadau mewn polisi cymdeithasol yn ein gwneud yn fwy agored i niwed ar adegau penodol. Er enghraifft, efallai y gall rhywun â phroblemau iechyd meddwl hirdymor ymdopi'n dda â threfniant sy'n cynnwys mynd i weithgareddau yn ystod y dydd mewn coleg lleol. Os bydd y ddarpariaeth hon yn cau oherwydd toriadau ariannol, gall ei iechyd meddwl waethygu. Bydd gallu gweithwyr cymdeithasol i roi help i'r bobl sydd ei angen yn dibynnu ar benderfyniadau polisi cenedlaethol a lleol ynglŷn â phwy sy'n gymwys i gael cymorth. Ar hyn o bryd, caiff asesiadau ynglŷn â phwy sy'n gallu ac nad ydynt yn gallu cael gwasanaethau eu llunio drwy ystyried i ba raddau y mae anghenion yr unigolion yn bodloni meini prawf lleol ar gymhwysedd, y mae'n rhaid iddynt, yn eu tro, adlewyrchu deddfwriaeth gyfredol y wlad honno. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a ddaeth i rym yn Ebrill 2016 wedi cyflwyno dull gwahanol o ddarparu gwaith cymdeithasol, lle mae gweithwyr cymdeithasol a'u cleientiaid yn gweithio'n llawer agosach â'i gilydd gan gydgynhyrchu er mwyn ceisio dod o hyd i atebion. Gwelir sut y gall cydnabod cryfderau a dewisiadau pobl, a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol a dinasyddion yn cydweithio fel partneriaid cydradd ymhob agwedd ar y broses o ddatblygu a darparu gwasanaethau, arwain at ganlyniadau sydd o bwys i'r bobl sydd angen gofal a chymorth.

Ymarfer grymusol

Yng Ngweithgaredd 5 gwnaethoch edrych ar y Cod Moeseg Rhyngwladol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol, sy'n datgan bod angen i weithwyr cymdeithasol ystyried hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol fel egwyddorion canolog i'w hymarfer, yn ogystal â deall sut mae unigolion yn rhyngweithio â'u hamgylchedd. Mae'r cod yn dadlau y dylai gwaith cymdeithasol geisio grymuso a rhoi rhyddid i bobl ac mae'n siŵr bod yn hyn yn golygu meddwl yn ofalus am ddefnyddio termau fel 'agored i newid' i ddisgrifio pobl nad ydynt wedi dewis eu hamgylchiadau ac sydd â llawer o nodweddion ac adnoddau nad ydynt yn 'agored i niwed'. Mae Neil Thompson, awdur ar waith cymdeithasol, wedi cyhoeddi llawer o waith ar edrych y tu hwnt i labeli, stereoteipiau a thybiaethau er mwyn hyrwyddo ymarfer gwaith cymdeithasol grymusol. Yng Ngweithgaredd 8, byddwch yn darllen darn byr o The Social Work Companion (Thompson a Thompson, 2008). Mae hwn yn crynhoi ei safbwynt ynglŷn â sut y dylai gweithwyr cymdeithasol weithio mewn ffyrdd sy'n helpu i rymuso defnyddwyr gwasanaethau ac sy'n herio gwahaniaethu.

Gweithgaredd 7: Ymarfer gwrthwahaniaethol

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y dasg hon

Darllenwch y darn wedi'i olygu isod, a ddaw o The Social Work Companion. Gwnewch nodiadau byr ar y goblygiadau ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

Ymarfer gwrthwahaniaethol

Mae tuedd i wahaniaethu yn erbyn cleientiaid gwaith cymdeithasol, edrych i lawr arnynt, eu trin fel dinasyddion isradd ac, felly, eu trin yn annheg. Mae'n bwysig felly bod gweithwyr cymdeithasol yn ymwybodol o hyn a'i oblygiadau ar gyfer ymarfer.

Yn nyddiau cynnar ymarfer gwrthwahaniaethol, canolbwyntiwyd yn bennaf ar fynd i'r afael â hiliaeth. Ers hynny, er bod hiliaeth yn dal i fod yn fater pwysig ac yn rhan ganolog o ymarfer gwrthwahaniaethol, mae'r ffocws wedi ehangu i gynnwys gwahaniaethu ar sail rhyw, oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol a mathau eraill o anfantais. Ond mewn realiti, wrth gwrs, mae ymarfer gwrthwahaniaethol yn ehangach fyth na rhestr gyfyngedig fel hon, gan ei fod yn cynnwys arferion heriol ac annerbyniol yn erbyn unrhyw grŵp neu unigolyn sy'n cael eu targedu a'u trin yn annheg.

  • Cydnabod arwyddocâd gwahaniaethu ym mywydau pobl - yn enwedig bywydau'r grwpiau difreintiedig hynny rydym yn dod ar eu traws yn aml mewn gwaith cymdeithasol - a pha mor ormesol y gall hyn fod. Yn aml iawn, bydd problemau sy'n ymddangos yn 'bersonol' yn deillio, yn rhannol o leiaf, o wahaniaethu cymdeithasol ehangach. Er enghraifft, gellir cysylltu llawer o'r anawsterau y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn dod ar eu traws â gwahaniaethu, fel anawsterau i gael tai a swyddi. Gall hyn gael effaith sylweddol oherwydd mae diffyg tai a swyddi yn ffactorau pwysig sy'n atal pobl â phroblemau iechyd meddwl rhag delio â'r pwysau sydd arnynt.
  • Fel man cychwyn, dylem sicrhau nad yw ein hymarfer ein hunain yn atgyfnerthu gwahaniaethu o'r fath nac yn ychwanegu ato. Mater o ganlyniadau yw gwahaniaethu, nid bwriadau. Hynny yw, os oes unigolyn neu grŵp yn cael eu trin yn annheg am fod pobl yn meddwl eu bod yn wahanol, y canlyniad (eu bod yn cael eu trin yn annheg a thrwy hynny, eu rhoi dan anfantais) yw'r peth pwysig, waeth beth fo'r bwriadau. Mae llawer o wahaniaethu'n digwydd yn anfwriadol (er enghraifft, dibynnu'n ddiarwybod ar stereoteip), ond nid yw hynny'n newid y ffaith bod gwahaniaethu'n digwydd a'i fod yn annerbyniol. Felly, mae ymarfer gwrthwahaniaethol yn galw am rywfaint o hunanymwybyddiaeth ac yn galw arnom i nodi a oes unrhyw agweddau ar ein hymarfer yn atgyfnerthu gwahaniaethu yn ddiarwybod inni - dad-ddysgu tybiaethau neu batrymau ymddwyn sefydledig sy'n seiliedig ar annhegwch (er enghraifft, bod yn nawddoglyd at bobl anabl drwy fod yn rhy awyddus i 'ofalu' amdanynt, yn hytrach na'u helpu i fod yn fwy annibynnol).
  • Ceisio mynd i'r afael â gwahaniaethu a'i effeithiau andwyol. Mae gwreiddiau gwahaniaethu yn ddwfn iawn ac yn deillio o ffurfiannau diwylliannol a chydberthnasau pŵer strwythurol yn ogystal â chredoau ac agweddau personol. Yn yr ystyr hwn, gall gwahaniaethu fod yn sefydliadol- hynny yw, yn rhan o systemau a phatrymau sefydliadol o ymddwyn neu dybiaethau. Felly, ni allwn ddisgwyl cael gwared ar wahaniaethu yn gyfan gwbl heb drawsnewid y dirwedd gymdeithasol sydd mor ffrwythlon iddo. Mae hwn yn brosiect hirdymor ac yn brosiect y gall gwaith cymdeithasol ond chwarae rhan ynddo dros y blynyddoedd. Felly, mae angen inni ganolbwyntio'n bennaf ar nodau mwy cymedrol, sef gwneud popeth sy'n rhesymol i atal, gwrthbwyso a dileu gwahaniaethu a'r gormes y mae'n arwain ato. Er enghraifft, wrth helpu teulu o bobl dduon i ddelio â'r hiliaeth y maent yn dod ar ei draws yn y system iechyd meddwl a'i herio, gall gweithiwr cymdeithasol chwarae rhan bwysig iawn i fynd i'r afael â hiliaeth ar gyfer y teulu hwnnw (a all fod o gymorth mawr iawn iddo), a gall hefyd wneud cyfraniad bach i herio hiliaeth mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol.

Mae ymarfer gwrthwahaniaethol yn agwedd heriol ar waith cymdeithasol, ond gall methiant i wneud hynny arwain at lawer o broblemau. Nid yw ymarfer gwrthwahaniaethol yn ymarfer arbenigol sydd ond yn berthnasol dan rai amgylchiadau (er enghraifft, pan fo gweithiwr cymdeithasol gwyn yn gweithio gyda chleient du). Yn hytrach, mae'n un o gonglfeini arfer da. Mae angen defnyddio'r ymarfer hwn ymhob agwedd ac ni ddylid ei ystyried fel rhywbeth i'w ychwanegu yn ôl yr angen. Felly, mae'n her fawr. Mae'n rhaid inni felly ddangos rhywfaint o wyleidd-dra yn hyn o beth a chydnabod y byddwn yn gwneud pethau'n anghywir weithiau, ond mae'n hollbwysig ein bod yn ymateb i'r her gystal ag y gallwn - yn unigol ac ar y cyd.

Mae rhai mathau o ymarfer gwrthwahaniaethol wedi bod yn wrthdrawiadol, yn ddogmataidd ac yn or-syml ac nid ydynt wedi ystyried y cymhlethdodau dan sylw. Drwy hynny, maent wedi codi gwrychyn llawer o bobl a fyddai wedi cefnogi ymarfer gwrthwahaniaethol o bosibl. Felly, mae'n hanfodol sicrhau nad yw ymdrechion yn y dyfodol yn y maes hwn yn syrthio i'r un fagl. Ni ddylai addysg a hyfforddiant ar ymarfer gwrthwahaniaethol wneud i bobl deimlo'n euog am eu magwraeth; yn hytrach dylent fod yn brosesau addysgol sy'n ceisio helpu pobl i 'ddad-ddysgu' y tybiaethau, sy'n aml yn wahaniaethol, y maent wedi'u magu i'w credu a mabwysiadu ffyrdd mwy grymusol o weithio gyda gwahaniaethau.

(Darn wedi'i olygu o ‘Theories and theorists’ yn The Social Work Companion, Thompson a Thompson, 2008)

Figure 4
Trafodaeth

Mae'r gwaith darllen hwn yn ymhelaethu ar y syniadau yn y cod moeseg cenedlaethol y gwnaethoch edrych arno yn gynharach, gan ddweud mwy am beth mae gwahaniaethu yn ei olygu mewn bywyd bob dydd. Rhoddir pwyslais ar sut y gall gweithwyr cymdeithasol ddefnyddio eu hawdurdod proffesiynol i adnabod a herio gwahaniaethu a gormes, er enghraifft

  • Rydym yn byw mewn cymdeithas a nodweddir gan wahanol fathau o annhegwch sy'n seiliedig ar ddosbarth, hil, rhyw, rhywioldeb, anabledd ac oedran.
  • Gall y grwpiau hynny y mae anghydraddoldeb yn effeithio'n andwyol arnynt brofi anfantais a gwahaniaethu a thrwy hynny gael eu trin yn annheg.
  • Gall rhaniadau cymdeithasol waethygu siawns bywyd pobl a thanseilio iechyd a lles. (Gwelsoch rai enghreifftiau yng Ngweithgaredd 2.)

Mae llawer o sefyllfaoedd ymarfer penodol lle gallai peidio â herio tybiaethau olygu nad yw pobl yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt - er enghraifft, os bydd gweithiwr cymdeithasol yn credu mai dim ond teulu niwclear traddodiadol yw'r math 'cywir' o deulu, yna gallai ymateb i geisiadau mam lesbiaid am help gydag ymddygiad ei phlentyn sydd yn ei arddegau, gan ddefnyddio rhagdybiaethau am beth sydd wedi 'achosi' anawsterau'r plentyn, heb gael darlun llawn o'r sefyllfa. Neu efallai bod asesiad iechyd meddwl yn cael ei gynnal yn Saesneg am fod y gweithiwr cymdeithasol yn tybio mai dyma sy'n briodol, heb ofyn am anghenion iaith y defnyddiwr gwasanaeth. Yn sgil hyn, bydd gwybodaeth hollbwysig yn cael ei cholli neu bydd y gweithiwr yn ystyried bod y defnyddiwr gwasanaeth yn anghydweithredol neu'n fwy sâl nag y mae mewn gwirionedd. Yn y ddwy enghraifft hyn, mae'n bosibl na fydd pobl sydd angen help yn ei gael, a gallai hyn arwain at ganlyniadau difrifol.

Dadansoddiad PCD Thompson

Ffigur 6 Dadansoddiad PCD Thompson

Mae Thompson yn awgrymu sut y gall gweithwyr cymdeithasol weithio'n unol â'r gwerthoedd proffesiynol o drin unigolion gyda pharch a herio anfantais a gwahaniaethu.

Dyluniodd Neil Thompson fodel i fynd i'r afael ag anfantais gymdeithasol, gan gynnwys gwahaniaethu a thlodi: dadansoddiad PCD (Thompson, 1997, 2006). Mae'r model hwn wedi bod yn ddylanwadol ym maes gwaith cymdeithasol ac mae hefyd yn cyd-fynd yn dda â phyramid Rimmer, y byddwch yn darllen amdano isod. Mae Thompson yn awgrymu bod dylanwadau personol, diwylliannol a strwythurol, fel y mae'n eu galw, yn effeithio ar unigolion a bod y rhain yn cyfuno i effeithio ar y ffordd rydym yn ffitio i mewn i'r byd cymdeithasol. Mae'r hyn y mae Thompson yn eu galw yn ddylanwadau 'diwylliannol' yn cynnwys ymagweddau ehangach y mae pobl yn eu rhannu, fel beth yw ymddygiad derbyniol. Mae materion strwythurol yn cyfeirio at y 'darlun ehangach' o drefn cymdeithas ac yn cynnwys agweddau fel polisi llywodraethol a ffurf y wladwriaeth les. Mae Thompson yn galw ei fodel PCD yn 'ddadansoddiad' am ei fod yn ffordd o ystyried y gwahanol agweddau ar sefyllfaoedd y daw gweithwyr cymdeithasol ar eu traws. Fodd bynnag, mae'n pwysleisio ei bod yn bwysig gweithredu yn ogystal â meddwl. Yn ôl Thompson, mae angen i weithwyr cymdeithasol wneud mwy na deall sut mae ffactorau cymdeithasol a ffactorau eraill yn effeithio ar unigolion; mae angen iddynt weithredu ar y ddealltwriaeth hon er mwyn herio anfantais a rhagfarn. Gall dadansoddiad PCD gael ei arddangos ar ffurf diagram (Ffigur 1), sy'n dangos sut mae'r unigolyn neu'r profiad personol wedi'i amgylchynu gan ddylanwadau diwylliannol a strwythurol.

5. Gwaith cymdeithasol a'r iaith Gymraeg

Ffigur 7 Logo Iaith Gwaith, Comisiynydd y Gymraeg

Gall iaith fod yn agwedd arall ar anfantais ac yn ffynhonnell o wahaniaethu yn erbyn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.

Mae amrywiaeth cynyddol o ieithoedd i'w clywed ledled Cymru, ac mae angen i weithwyr cymdeithasol fod yn effro i anghenion defnyddwyr gwasanaethau sy'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (neu nad ydynt yn siarad Saesneg o gwbl), yn ogystal ag anghenion defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr sy'n siarad Cymraeg. Ers 2011, (pan gyflwynwyd Mesur y Gymraeg (Cymru)), mae dwy iaith swyddogol yng Nghymru (Cymraeg a Saesneg), ffaith sy'n peri her ychwanegol i'r proffesiwn gwaith cymdeithasol.

Gweithgaredd 8: Pwy sy'n siarad Cymraeg?

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y dasg hon

Ar hyn o bryd, mae tua 19% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg, sef 562,016 o bobl. Edrychwch ar y map (Ffigur 8) a Thabl 1 isod, sy'n dangos dosbarthiad siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a defnydd iaith yn ôl oedran (gan gymharu data cyfrifiad 2011 â data cyfrifiad 2001) yn y drefn honno. Ystyriwch y cwestiynau isod.

Faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn yr ardal rydych yn byw a/neu'n gweithio ynddi?

Sut mae hyn yn cymharu â'r ateb y gwnaethoch ei roi yng Ngweithgaredd 1?

Sut mae gwasanaethau yn eich ardal yn darparu ar gyfer siaradwyr Cymraeg?

Sut allai'r math hwn o wybodaeth effeithio ar ymarfer gweithiwr cymdeithasol?

Ffigur 8 Cyfran y bobl (3 oed a throsodd) sy'n gallu siarad Cymraeg, yn ôl awdurdod lleol, 2011 http://wales.gov.uk/ docs/ statistics/ 2012/ 121211sb1182012cy.pdf am fersiwn Gymraeg
Tabl 1 Cymharu 2001 â 2011
Awdurdod Lleol3-15 oed16-64 oed65+Pob oedran (3+)
NiferPwynt

canran

NiferPwynt

canran

NiferPwynt canranNiferPwynt canran
Ynys Môn-894 1.3 -309 -2.2 878 -5.0 -325 -2.9
Gwynedd-1,430 0.5 95 -3.1 489 -5.5 -846 -3.6
Conwy-482 0.7 -32 -1.6 -184 -3.2 -698 -2.0
Sir Ddinbych -189 3.2 -779 -1.8 -556 -4.0 -1,524 -1.8
Sir y Fflint-1,104 -1.5 -27 -0.1 -125 -2.2 -1,256 -1.2
Wrecsam-271 -0.6 -506 -1.0 -669 -4.5 -1,446 -1.7
Powys-841 -0.9 -526 -1.3 -457 -4.8 -1,824 -2.5
Ceredigion             -1,057 1.1 -1,692 -4.0 -205 -7.6 -2,954 -4.7
Sir Benfro-886 -1.6 -299 -1.5 4 -3.4 -1,181 -2.5
Sir Gaerfyrddin1,012 -0.9 -3,795 -6.2 -1,341 -10.5 -6,148 -6.4
Abertawe-5 1.1 -969 -1.5 -1,632 -4.6 -2,606 -2.0
Castell-nedd Port Talbot-487 0.8 -942 -1.9 -1,277 -6.1 -2,706 -2.7
Pen-y-bont ar Ogwr265 0.3 555 0.0 -584 -3.6 -294 -1.0
Bro Morgannwg-519 0.3 702 0.3 12 -0.7 195 -0.5
Rhondda Cynon Taf-954 1.4 2,093 1.1 -1,306 -3.8 -167 -0.2
Merthyr Tudful-501 -1.8 274 0.2 -277 -3.4 -504 -1.3
Caerffili-521 0.8 1,705 1.1 -170 -1.0 1,014 0.0
Blaenau Gwent-1,331 -4.1 267 0.5 -69 -0.7 -1,133 -1.6
Torfaen1,713 -4.8 596 0.9 -22 -0.3 -1,139 -1.3
Sir Fynwy40 2.6 1,014 1.6 38-0.41,0920.6
Casnewydd-1,165 -1.7 1,181 0.9 -149 -0.8 -133 -0.7
Caerdydd-70 1.3 4,211 0.3 90 0.1 4,231 0.0
Cymru-15,657 0.0 2,817 -1.0 -7,512 -3.3 -20,352 -1.7

Trafodaeth

Roedd nifer a chyfran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn 2011 yn llai o gymharu â'r cyfrifiad blaenorol (2001), pan ddywedodd 20.8% o'r boblogaeth eu bod yn siarad Cymraeg. Y prif resymau dros y lleihad hwn yw newidiadau demograffig, mudo (mewnfudo ac allfudo) a newidiadau yn sgiliau iaith pobl (Ystadegau Cenedlaethol Cymru, 2012). Fodd bynnag, mae cyfrifiad 2011 yn dangos cynnydd mawr yng nghyfran y plant ifanc sy'n gallu siarad yr iaith ac ychydig o gynnydd yng nghyfran yr oedolion 20-44 oed hefyd. Nid yw cyfran y siaradwyr Cymraeg ymhlith plant a phobl ifanc mewn grwpiau oedran eraill wedi newid rhyw lawer, ac mae mwy o bobl hŷn yn siarad yr iaith o hyd nag unrhyw grwpiau oedran eraill (er bod y gyfran hon yn gostwng).

Gall hyn effeithio ar wasanaethau i deuluoedd a phlant gan eu bod yn gweithio gyda nifer gynyddol o blant oedran ysgol sy'n siarad Cymraeg. Bydd angen i wasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau i bobl hŷn hefyd fod yn ymwybodol o anghenion iaith. Mae'r gofyniad hwn wedi'i gynnwys hefyd yn y ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol ar gyfer pob grŵp o ddefnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru.

Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall pobl ddwyieithog fynegi eu hunain yn wahanol yn dibynnu ar yr iaith y maent yn ei defnyddio (Altarriba and Morrier, 2004, yn Davies, 2009), a'u bod yn gallu sôn am brofiadau'n well yn iaith y profiadau hynny. Hefyd, gall pobl ddwyieithog ddefnyddio'r gair neu'r geiriau sy'n mynegi'r hyn y maent yn ceisio ei ddweud orau, gan ddefnyddio unrhyw un o'r ieithoedd sydd ganddynt, neu efallai y byddant yn defnyddio eu hail iaith er mwyn ymbellhau oddi wrth faterion a all fod yn anodd eu trafod. Mae dewisiadau iaith yn fater cymhleth ac mae angen ei drin mewn ffordd sensitif.

Mae'n debygol y bydd plant sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, er enghraifft, yn ddwyieithog ac efallai y byddant yn dod o gartrefi di-Gymraeg neu ddwyieithog. Felly, mae'n bosibl y byddant yn siarad un iaith yn yr ysgol ac un iaith neu'r ddwy iaith yn y cartref. Byddai'n bwysig i'r gweithiwr cymdeithasol fod yn ymwybodol o sut, pryd a gyda phwy yr hoffai aelodau gwahanol y teulu ddefnyddio Cymraeg a/neu Saesneg, a sut y gallai hwyluso hyn. Yn ogystal â bod yn ymwybodol o angen ieithyddol, byddai angen iddo wybod hefyd y dylai drin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal (Deddf yr Iaith Gymraeg, 1993) a byddai angen iddo roi'r egwyddor 'cynnig gweithredol' (Llywodraeth Cymru, 2012) ar waith, gan sicrhau ei fod yn nodi anghenion ieithyddol a dewis iaith defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn ei waith bob dydd. Mae'r egwyddor hon yn tynnu'r cyfrifoldeb am ofyn am wasanaeth Cymraeg oddi wrth y defnyddiwr gwasanaeth neu'r gofalwr, a all fod mewn sefyllfa o statws isel a diffyg pŵer yn barod, ac felly efallai na fydd yn teimlo ei fod yn gallu gofyn am wasanaeth Cymraeg.

Yr iaith, deddfwriaeth a pholisi

Ar ôl cael ei hallgáu o fywyd cyhoeddus am gyfnod hir, lleihad yn y defnydd a wnaed ohoni yn yr 20fed ganrif, ac wedyn gyfnod o adfywiad (gyda nifer y siaradwyr yn cyrraedd 20.8% ar ei huchaf erbyn cyfrifiad 2001), cyflwynodd Deddf yr Iaith Gymraeg (1993) ofyniad i'r iaith gael ei thrin ar y sail ei bod yn gyfartal â Saesneg mewn busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder. Sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac roedd yn rhaid i gyrff cyhoeddus lunio Cynllun iaith Gymraeg a oedd yn nodi sut y byddent yn gweithio i ddarparu gwasanaethau dwyieithog a dewis iaith i ddefnyddwyr gwasanaethau pan fo hynny'n bosibl.

Fodd bynnag, nid arweiniodd Deddf 1993 at y cynnydd hirddisgwyliedig mewn gwasanaethau Cymraeg ac roedd defnyddwyr gwasanaethau yn dal i wynebu'r rhwystr deuol o ddisgwyliadau cyhoeddus isel a lefelau isel cyfatebol o ddarpariaeth ddwyieithog (Williams, 2011, t. 52), ynghyd â'r ffaith mai'r defnyddiwr gwasanaeth oedd yn gyfrifol am ofyn am wasanaethau dwyieithog, yn hytrach na'r darparwr. Bron 20 mlynedd yn ddiweddarach, rhoddodd darn arall o ddeddfwriaeth, sef Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Y Llyfrfa, 2011), a ddeddfwyd yng Nghymru drwy'r pwerau a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, statws swyddogol i'r iaith a darparodd hefyd ar gyfer creu Safonau Iaith. Bydd modd i'r cyhoedd yng Nghymru apelio i dribiwnlys ynglŷn â materion ieithyddol a gwasanaethau. Mae i hyn oblygiadau amlwg o ran gwasanaethau cyhoeddus ac ymarfer gwaith cymdeithasol yn enwedig.

At hynny, mae'r cyfrifoldeb am gynnig dewis iaith bellach wedi symud i'r gweithiwr proffesiynol, sy'n gorfod gweithredu'r egwyddor 'cynnig gweithredol' a hynny nid yn unig o dan y strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol Mwy na geiriau (Llywodraeth Cymru 2012), ond fel rhan o'u hymddygiad proffesiynol (CGC, 2014). Mae'r strategaeth hefyd yn nodi'r angen i ddatblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr proffesiynol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr Cymraeg. Yn wir, yn ôl y strategaeth genedlaethol ar gyfer y Gymraeg, 'canfuwyd bod diffyg hyder yn un o’r prif rwystrau a oedd yn atal staff rhag defnyddio eu sgiliau Cymraeg wrth eu gwaith' (Llywodraeth Cymru, 2012). Mae'n debygol y gall hyn effeithio ar allu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Cydnabuwyd ers tro bod pwysigrwydd y dewis hwn i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn fater o ymarfer gwrthwahaniaethol:

Mae’r Fframwaith Strategol Olynol ‘Mwy na Geiriau’ (Llywodraeth Cymru, 2016) yn amlinellu’r sefyllfa bresennol ynghylch defnydd yr iaith Gymraeg yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn darparu dull systematig i wella gwasanaethau i’r rheiny sydd angen neu’n dewis derbyn eu gofal yn Gymraeg. Amcan Mwy Na Geiriau Fframwaith Strategol Olynol (2016 tud. 4) yw adeiladu ar lwyddiant ei flaenydd ac amlygu i ddarparwyr gwasanaethau bod darparu gwasanaethau yn Gymraeg ‘nid yn unig yn fater o ddewis ond yn fater o reidrwydd’.

Mae’r Pecyn Gwybodaeth Gweithredu’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ (Llywodraeth Cymru, 2015) yn darparu mwy o wybodaeth ynghylch sut a pham y dylai ymarferwyr wneud y ‘cynnig rhagweithiol’. Dyelch ddefnyddio’ch sgiliau iaith Gymraeg, beth bynnag yw’ch lefel o arbenigedd. Nid yw’n ofynnol fod ymarferwyr yn cwblhau eu holl waith yn Gymraeg, ond dylent ei defnyddio pan y gallent, oherwydd gwyddom, pan fo hyn yn digwydd caiff groeso gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau (Davies, 2017).

The care and counselling services are in a crucial position as they often deal with people who are disempowered, who are in trouble or are disadvantaged in their lives. In such circumstances, real language choice can contribute directly to the process of empowering the individual.

(Davies, t. 59)

Nawr bod y Mesur ar waith a bod strategaeth gadarn ar gael ar gyfer yr iaith sy'n amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran dewis iaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol, amser a ddengys p'un a fydd pobl Cymru yn cael dewis ym mha iaith yr hoffent dderbyn gwasanaethau.

Gweithgaredd 9: Mwy na geiriau

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon

Gwrandewch ar ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn siarad am bwysigrwydd cael gwasanaethau sy'n sensitif o ran iaith a/neu wasanaethau Cymraeg ar wefan Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru. Wrth ichi wneud hynny, gwnewch nodiadau byr ar y canlynol:

  • Pam ei bod hi'n bwysig i bobl gael dewis ym mha iaith yr hoffent dderbyn gwasanaethau?
  • A yw'n eich synnu nad oes gan weithwyr proffesiynol ddigon o hyder i ddefnyddio'r iaith?

Nesaf, ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • Beth yw eich barn chi ar ddatganiad Thompson yn y gweithgaredd blaenorol na ddylid gwneud i bobl deimlo'n euog am eu magwraeth?
  • Yn eich barn chi, a allai hyn fod yn berthnasol i rai defnyddwyr gwasanaethau sy'n siarad Cymraeg?
  • Pa effaith ddylai hyn ei chael ar ymarfer proffesiynol?

Sensitifrwydd iaith

Mae Davies (2012) yn tynnu sylw at y tri phrif fater i'w hystyried wrth ymarfer mewn ffordd sensitif o ran iaith yng Nghymru: y personol (gan gynnwys gwerthoedd ac agweddau at yr iaith); y cymdeithasol (gan gynnwys dealltwriaeth o gymhlethdodau defnyddio iaith a dewis iaith); a materion yn ymwneud â phŵer, grymuso a dadrymuso. Mae ymarfer gwrthwahaniaethol, grymusol yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr cymdeithasol fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain ac ar eu gwerthoedd personol a phroffesiynol eu hunain. Mae'n rhaid iddynt holi eu hunain p'un a yw'r rhain yn effeithio ar eu hymarfer ac os felly, a yw'r canlyniad o fudd i'r defnyddiwr gwasanaeth neu, ar y llaw arall, a yw'n gwahaniaethu yn eu herbyn ac, felly, yn eu dadrymuso.

Mae sensitifrwydd iaith, felly, yn fwy na mater o ofyn a yw unigolyn yn siarad Cymraeg neu a hoffai gael gwasanaeth Cymraeg. Mae'n ymwneud â gweithio er mwyn grymuso defnyddwyr gwasanaethau i gyfathrebu â'r gwasanaeth yn yr iaith sy'n teimlo fwyaf cyfforddus iddynt. Mae hyn yn golygu rhoi dewis iaith i'r unigolyn, heb wneud unrhyw dybiaeth ynglŷn â pha iaith y dylid ei defnyddio dan amgylchiadau penodol. Mae'n cydnabod y rhesymau cymdeithasol/hanesyddol cymhleth dros ddewis o'r fath. Roedd hanes yr iaith, pan gafodd y Gymraeg ei heithrio o weinyddiaeth gyhoeddus, yn golygu mai dim ond mewn bywyd teuluol a bywyd preifat yr oedd pobl yn ei defnyddio.

6. Pyramid Rimmer

Mae Pyramid Rimmer (Ffigur 5) yn adnodd i ddeall y cyd-destun Cymreig ac ymarfer gwrthwahaniaethol. Mae'n cyd-fynd â dadansoddiad PCD Thompson uchod, ond mae'n gofyn i'r ymarferydd feddwl am ei ymarfer ei hun, gan ei helpu i nodi sut y gallai ystyried y cyd-destun y mae'n gweithio ynddo mewn ffordd fwy effeithiol.

Ffigur 8 Pyramid Rimmer

Byddwn yn defnyddio enghraifft iechyd meddwl, ond gallech ddefnyddio'r pyramid er mwyn helpu i hyrwyddo ymarfer gwrthwahaniaethol mewn unrhyw faes ymarfer.

Ar waelod y pyramid, byddai angen i'r gweithiwr cymdeithasol sicrhau ei fod yn ymwybodol o unrhyw ddeddfwriaeth a pholisi perthnasol a fyddai'n gosod dyletswyddau arno ef neu'i gydweithwyr. Felly, byddai angen iddo wybod am Ddeddfau Iechyd Meddwl 1983 a 2007, sy'n ymwneud yn bennaf â phwerau gorfodol a rhyddhau o'r ysbyty. Byddai'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn nodi ac yn diffinio egwyddorion sylfaenol yr hyn sy'n ddisgwyliedig gan wasanaethau a'r cymorth a ddylai fod ar gael; ac mae'r strategaeth iechyd meddwl Law yn llaw at iechyd meddwl yn nodi sut y caiff gofynion y Mesur eu bodloni. Gan gofio'r egwyddor 'cynnig gweithredol' (Llywodraeth Cymru, 2016), Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesurau Iaith, 2011, byddai angen i'r gweithiwr cymdeithasol hefyd gymryd camau priodol er mwyn sicrhau ei fod wedi nodi anghenion a dewis iaith y defnyddiwr gwasanaeth yn gywir.

Wrth lunio proffil cymunedol, gallai'r gweithiwr cymdeithasol nodi faint o bobl yn y gymuned leol sydd â phroblemau iechyd meddwl ac ystyried pa wasanaethau sydd ar gael (statudol, gwirfoddol a chymunedol). Gall hefyd ofyn iddo'i hyn pa ffactorau eraill sy'n effeithio ar les meddwl person yn y gymuned. Er enghraifft, a oes lefelau uchel o ddiweithdra ac amddifadedd yn yr ardal? Gall y gweithiwr cymdeithasol hefyd ystyried ffyrdd o fynd i'r afael â stigma yn erbyn iechyd meddwl, gan ddefnyddio grwpiau cymunedol i hyrwyddo cynhwysiant efallai.

Gall diwylliant tîm y gweithiwr cymdeithasol hefyd effeithio ar ymarfer gweithwyr unigol. Gall fod yn anodd gweithredu polisïau cenedlaethol os oes gan aelodau'r tîm anawsterau ag agweddau ar iechyd neu salwch meddwl, os ydynt yn ymddwyn mewn ffordd wahaniaethol neu os oes ganddynt safbwyntiau gwahaniaethol. Ni fydd y rhan fwyaf o dimau'n gweithio fel hyn, wrth gwrs, ond weithiau mae gwerthoedd personol a phroffesiynol yn gwrthdaro â'i gilydd a gall fod yn fuddiol ystyried y rhain fel tîm, er mwyn hyrwyddo datblygiad ac arfer da.

Ar frig y pyramid, gofynnir i'r ymarferydd ystyried ei werthoedd ei hun a'i agweddau personol at iechyd meddwl a myfyrio ar ei ymarfer ei hun. Gall gwaith myfyrio ein synnu ac efallai y gwnawn ddarganfod ein bod yn gwahaniaethu mewn rhyw ffordd neu ein bod yn ei chael hi'n anodd neu'n hawdd uniaethu â rhywun ag anawsterau iechyd meddwl, yn dibynnu ar ein profiadau ein hunain.

Felly, mae'r pyramid yn adnodd a all helpu'r ymarferydd i ganolbwyntio ar y cyd-destun y mae'n gweithio ynddo ar bob lefel - personol, diwylliannol a strwythurol.

7. Casgliad

Yn ystod y cwrs hwn, rydych wedi meddwl am gyd-destun gwaith cymdeithasol, gan roi sylw penodol i weithio yn y cyd-destun Cymreig. Er y dylem gofio bob amser ein bod yn gweithio gydag unigolion unigryw, mae'n hollbwysig bod gweithwyr cymdeithasol yn ystyried y darlun cymdeithasol ehangach ac yn deall y dylanwadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol sy'n effeithio ar y bobl rydym yn gweithio gyda nhw. Rydych wedi edrych ar bwysigrwydd deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol ar gyfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â meddwl am y gwerthoedd a'r agweddau sy'n sail i ymarfer gwaith cymdeithasol.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.

Cyfeiriadau

Altarriba, J. and Morier, R. G. (2004) ‘Bilingualism: Language, Emotionand Mental Health’, yn Bhatia, T. K. a Ritchie, W. C., gol.,

The Handbook of Bilingualism, Rhydychen, Blackwell.

Beresford, P. (2012) ‘What service users want from social workers’, Community Care, dydd Gwener 27 Ebrill 2012, ar gael ar-lein yn: http://www.communitycare.co.uk/ 2012/ 04/ 27/ what-service-users-want-from-social-workers/ #.Uo3pqNJSiSo [cyrchwyd 06 Mehefin 2014

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (2012) Fersiwn terfynol y Cynllun Gweithredu Llywodraeth Leol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, ar gael ar-lein yn: http://www.wlga.gov.uk/ cyhoeddiadau-ac-ymatebion-i-ymgynghori-ss/ final-iteration-of-the-local-government-implementation-plan-for-sustainable-social-services[cyrchwyd 06 Mehefin 2014]

Cyngor Gofal Cymru (2011) Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith cymdeithasol CGC http://www.cgcymru.org.uk/ safonau-galwedigaethol-cenedlaethol/ [cyrchwyd 13/05/14]

Cyngor Gofal Cymru (2014) Y Gweithiwr Cymdeithasol, CGC Caerdydd, ar gael ar-lein yn: http://www.cgcymru.org.uk/ canllawiau-ymarfer-i-weithwyr-cymdeithasol/ ?force=2&bc=0:55|55:154|4143:4147 [cyrchwyd 13 Mai 2014]

Davies, heb ddyddiad They all speak English anyway 2: the Welsh language and anti-discriminatory practice CGC Caerdydd CCETSW/TOPPS Cymru https://learn2.open.ac.uk/ pluginfile.php/ 1164899/ mod_resource/ content/ 1/ 10_They_all_speak_English_anyway.pdf [cyrchwyd 06/07/14]

Davies, 2011 From the margins to the centre: language-sesnitive practice and social welfare yn Williams, C. (2011) Social Policy for Social Welfare Practice in Wales, Venture Press, Birmingham.

Davies, E., gol., (dim dyddiad) Dwy Iaith Dau Ddewis?, Caerdydd, Cyngor Gofal Cymru [Ar-lein]. Ar gael yn http://www.cgcymru.org.uk/ dwy-iaith-dau-ddewis/ ?force=2&bc=1829:2415 [cyrchwyd 19 Ebrill 2014]

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2013 [Jfd8] ) ar gael ar-lein yn: http://www.legislation.gov.uk/ cy/ anaw/ 2014/ 4/ enacted [Jfd10] [cyrchwyd 06 Mehefin 2014] Thompson, N. (1997) Anti-Discriminatory practice, 2il argraffiad, Basingstoke, Macmillan.

Deddf yr Iaith Gymraeg (1993), Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus, ar gael ar-lein yn: http://www.legislation.gov.uk/ cy/ ukpga/ 1993/ 38/ contents [cyrchwyd 06 Mehefin 2014]

Drakeford, M. (2007) ‘Social justice in a devolved Wales’ Benefits, Cyfrol 15, Rhif 2, tt. 171–178.

Fersiwn Saesneg: http://wales.gov.uk/ docs/ dhss/ publications/ 110216frameworken.pdf

Gofal Cymdeithasol Cymru(GCC)(2017b) Gofal Cymdeithasol Cymru[Ar-lein],Argael o https://socialcare.wales/(Cyrchwyd 3Gorffennaf2017).

HMSO (2011) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi, ar gael ar-lein yn: http://www.legislation.gov.uk/ cy/ mwa/ 2011/ 1/ contents [cyrchwyd 06 Mehefin 2014]

IFSW (2012) Definition of Social Work [Ar-lein]. Ar gael yn http://ifsw.org/ policies/ definition-of-social-work/ (Cyrchwyd 26 Mehefin 2014)

IFSW (2014) Proposed global definition of social work Ar gael yn http://ifsw.org/ get-involved/ global-definition-of-social-work/ [Cyrchwyd 05/07/14]

JRT (2013) Monitro tlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru 2013, ar gael ar-lein yn: http://www.jrf.org.uk/ publications/ monitoring-poverty-wales-2013, Cyrchwyd 19 Mehefin 2014.

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb, Hawlfraint y Goron http://wales.gov.uk/ topics/ health/ publications/ health/ reports/ fairer/ ?skip=1&lang=cy [cyrchwyd 6 Mehefin 2014]

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2011) Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, Hawlfraint y Goron: ar gael ar-lein yn: http://wales.gov.uk/ docs/ dhss/ publications/ 110216frameworkcy.pdf [cyrchwyd 13 Ebrill 2014]

Llywodraeth Cymru (2012) Mwy na geiriau Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol, Hawlfraint y Goron http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/121121narrativecy.pdf [cyrchwyd 13/04/14] Fersiwn Saesneg yn http://wales.gov.uk/ docs/ dhss/ publications/ 121121narrativeen.pdf

Llywodraeth Cymru (2015) Mwy na geiriau –Darparu’r pecyn gwybodaeth Cynnig Gweithredol – Gwasanaethau Cymdeithasol a gofal Cymdeithasol [Ar-lein] Ar gael o http://gov.wales/ docs/ dhss/ publications/ 150928activeoffersocialservicesen.pdf (Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2017)

Llywodraeth Cymru (2016) Fframwaith Strategol Olynol Mwy Na Geiriau – ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol 2016-2019 [Ar-lein]. Ar gael o http://gov.wales/ docs/ dhss/ publications/ 160317morethanjustwordsen.pdf (Cyrchwyd 24 Medi 2016)

Llywodraeth Cymru (2012) Biliau'r Cynulliad, ar gael ar-lein yn: http://wales.gov.uk/ legislation/ programme/ assemblybills/ ?skip=1&lang=cy [cyrchwyd 17 Ebrill 2014] [Jfd13]

Llywodraeth Cymru (2013) Creu cymunedau cryf: symud ymlaen â'r cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi, Hawlfraint y Goron. Ar gael ar-lein yn: http://wales.gov.uk/ docs/ dsjlg/ publications/ socialjustice/ 130703takeforpovactplancy.pdf [cyrchwyd 06 Mehefin 2014]

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) (2011) Bwletin Ystadegol: Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol Cymru, Mawrth 2011 [cyrchwyd 13/04/14]

Thompson, N. (2006) Anti-Discriminatory practice, 4ydd argraffiad, Basingstoke, Macmillan.

Williams, C. (2011) Social Policy for Social Welfare Practice in Wales, Venture Press, Birmingham.

Wilson, K., Ruch G., Lymbery M. a Cooper, A. (2011) (gol.) Social Work: An Introduction to Contemporary Practice, Pearson, Harlow

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) (2012) ‘Cyfrifiad 2011: Y Canlyniadau Cyntaf am yr Iaith Gymraeg', Bwletin Ystadegol, ar gael ar-lein yn: http://wales.gov.uk/ docs/ statistics/ 2012/ 121211sb1182012cy.pdf [cyrchwyd 17 Ebrill 2014]

Cydnabyddiaethau

Cydnabyddwn yn ddiolchgar y ffynonellau canlynol am ganiatâd i atgynhyrchu deunydd yn yr uned hon:

Heblaw am ddeunyddiau trydydd parti a lle nodir yn wahanol (gweler telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 2.0 Licence

Mae'r deunydd a gydnabyddir isod yn Berchnogol ac fe'i defnyddir o dan drwydded (nid yw'n destun Trwydded Creative Commons). Gweler telerau ac amodau.

Dysgu mwy

Rhagor o wybodaeth am:

1. Astudiaethau Cymraeg eraill ar y pwnc hwn

http://www.open.edu/ openlearnworks/ mod/ page/ view.php?id=53849

2. Cynnwys astudio cysylltiedig gan y Brifysgol Agored http://www.open.ac.uk/ choose/ ou/ open-content

3. Y pwnc hwn a deunyddiau'r cwrs, sydd am ddim, ar OpenLearn http://www.open.edu/ openlearn/

4. Astudio o'r tu allan i'r DU? Mae gennym fyfyrwyr mewn dros gant o wledydd sy'n astudio cymwysterau ar-lein. http://www.openuniversity.edu/