1 Astudio pobl

Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain yn diffinio seicoleg fel a ganlyn:

Yr astudiaeth wyddonol o bobl, y meddwl ac ymddygiad.

(Cymdeithas Seicolegol Prydain, 2007)

Os ydych yn darllen hwn, mae gennych fwy na thebyg ddiddordeb mewn pobl ac yn chwilfrydig ynghylch beth sy'n digwydd ym meddwl pobl eraill ac am ddeall mwy ynghylch pam bod pobl yn ymddwyn fel ag y maent.

Fodd bynnag, wrth i chi astudio seicoleg, fwy na thebyg byddwch yn gofyn mwy a mwy o gwestiynau yn hytrach na dod o hyd i atebion syml. Y rheswm am hyn yw eich bod yn astudio pobl wrth astudio seicoleg, ac mae pobl yn gymhleth ac yn gyfnewidiol.

Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod er mwyn dechrau gweld pam ei bod bron yn amhosibl rhoi un esboniad syml am ymddygiad pobl.

Gweithgaredd 1: Teganau bechgyn a theganau merched

Timing: 0 awr 5 o funudau

Yn y llun isod, mae dau blentyn yn chwarae gyda theganau. Fe welwch fod y bachgen yn chwarae gyda'r tryc a bod y ferch yn chwarae gyda'r ddol. Mae'r rhan fwyaf o blant, o gael dewis rhydd o deganau, yn dueddol o ddewis y teganau yr ystyrir eu bod yn briodol ar gyfer eu rhyw. A allwch egluro pam eu bod yn ymddwyn yn y fath fodd? Gallwch roi cymaint o esboniadau ag yr hoffech, hyd yn oed rhai nad ydych yn cytuno â hwy ond y credwch y gallai pobl eraill eu nodi.

Jack Jones/© f1 online/Alamy
Ffigur 1 Plant yn chwarae

Trafodaeth

Mae sawl esboniad posibl am hyn. Edrychwch ar y rhestr isod a'i chymharu â'ch rhestr chi. Nid oes gwahaniaeth os yw eich ymatebion yn wahanol, mae hynny'n dangos pa mor gymhleth yw'r broses o esbonio ymddygiad!

  • Y rheswm yw bod bechgyn a merched yn wahanol yn fiolegol. Mae merched yn naturiol yn fwy mamol ac yn dewis doliau ac mae gan fechgyn yn naturiol fwy o ddiddordeb mewn ceir a thryciau.
  • Credaf weithiau y gallai bechgyn fod am chwarae gyda'r doliau ond eu bod yn teimlo gan mai bechgyn ydynt y dylent ddewis teganau bechgyn.
  • Mae a wnelo â'r ffordd y cawsant eu magu gan fod yr oedolion o'u hamgylch yn dueddol o roi doliau i ferched a thryciau i fechgyn. Hefyd, mae ffrindiau yn aml yn dylanwadu ar blant. Bydd bechgyn yn aml yn gwneud hwyl am fechgyn eraill sy'n chwarae gyda doliau.
  • Mae gan y teledu ddylanwad mawr yn hyn o beth, yn enwedig hysbysebion wedi'u hanelu at blant. Pan fyddant yn ceisio gwerthu doliau, mae hysbysebwyr yn dangos merched, nid bechgyn, yn chwarae gyda'r doliau hynny.

Wrth geisio deall ymddygiad y plant, mae gennym nifer o esboniadau sy'n awgrymu'r rhesymau posibl am y dewis teganau:

  • rhyw biolegol y plentyn
  • beth maent yn ei gredu yw'r ymddygiad priodol ar gyfer eu rhyw
  • eu magwraeth a'r ffordd y cânt eu trin gan oedolion a'u ffrindiau
  • dylanwadau diwylliannol ehangach o'r teledu a chyfryngau eraill.

Yn yr adrannau canlynol, cewch gyfle i edrych yn gryno ar nifer o wahanol esboniadau a ddefnyddir gan seicolegwyr i geisio deall pobl. Byddwch yn dechrau gyda dylanwad bioleg, yn benodol yr ymennydd, ar ymddygiad ac wedyn yn ystyried sut y bydd y ffordd y mae pobl yn meddwl am eu byd yn effeithio ar eu hymddygiad. Nesaf, byddwch yn ystyried dylanwad cydberthnasau agos ac yn olaf, byddwch yn gweld sut y caiff hunaniaeth ei llywio gan grwpiau a'r diwylliant ehangach.