4.3 Agosrwydd a chynefinrwydd

Ystyr agosrwydd yw agosrwydd daearyddol. Er mwyn meithrin cydberthynas, mae'n ofyniad amlwg a sylfaenol bod y bobl dan sylw yn ddigon agos yn ddaearyddol i gael cyfleoedd i ryngweithio â'i gilydd. Efallai y byddwch o'r farn bod seren benodol o fyd y ffilmiau yn ddeniadol iawn, ond os na fyddwch byth yn cael y cyfle i gyfarfod ag ef neu hi neu i siarad ag ef neu hi, yna nid oes unrhyw siawns y byddwch yn meithrin cydberthynas. Os byddwch yn ystyried patrymau cyfeillgarwch pobl sy'n byw mewn blociau o fflatiau, yna byddant yn llawer mwy tebygol o fod yn gyfeillgar â'r bobl sy'n byw'n agos atynt ar yr un llawr na'r bobl sy'n byw ar wahanol loriau yn syml am fod ganddynt fwy o gyfleoedd i gyfarfod a dod i adnabod ei gilydd. Yn yr un modd, mae pobl yn fwy tebygol o feithrin cyfeillgarwch yn y gwaith â'r bobl sy'n gweithio'n agos atynt a bydd myfyrwyr yn fwy tebygol o feithrin cyfeillgarwch â phobl sy'n astudio'r un pwnc ac sy'n mynd i'r un dosbarthiadau.

Mae cael mwy o gyfleoedd i ryngweithio â pherson arall yn golygu ein bod yn dod yn fwy cyfarwydd â'r person hwnnw ac mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod yn well gennym bobl rydym yn gyfarwydd â hwy na dieithriaid. Gelwir hyn yn 'effaith amlygiad syml' (Robert B. Zajonc, 1968) sy'n datgan po amlaf y cawn ein hamlygu i ysgogiad boed hynny'n sain, yn ddarlun neu'n berson, y mwyaf cadarnhaol fydd ein barn am yr ysgogiad hwnnw. Efallai mai'r rheswm pam ein bod yn fwy tebygol o gael ein denu at bobl rydym yn cyfarfod â hwy'n amlach yw oherwydd ein bod yn teimlo'n fwy diogel gyda phobl rydym yn eu hadnabod. Fodd bynnag, rydym hefyd yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad agos rheolaidd â phobl rydym yn rhannu diddordebau â hwy: cydweithio, ymgymryd â gweithgareddau hamdden, bod o fewn yr un grŵp cyfeillion ac amgylchiadau cymdeithasol tebyg. Fe welwch yn yr adran nesaf fod gan debygrwydd ran i'w chwarae hefyd mewn perthynas ag atyniad.