4.6 Aros gyda'ch gilydd neu wahanu

Mae atyniad cychwynnol rhwng dau berson yn dechrau taith tuag at agosatrwydd cynyddol cydberthynas. Mae seicolegwyr yn dueddol o ddisgrifio ac egluro'r cydberthnasau agos hyn mewn gwahanol ffyrdd. Mae Robert Sternberg (1999), er enghraifft, yn nodi bod cariad yn cynnwys tair elfen wahanol, sef 'nwyd', 'agosatrwydd' ac 'ymrwymiad'. Nid yw cariad rhamantus, sef cyfuniad o nwyd ac agosatrwydd, yn dueddol o bara pan na fydd llawer o ymrwymiad. Yn yr un modd, gall partneriaethau bara drwy lefelau uchel o agosatrwydd ac ymrwymiad gyda lefelau isel o nwyd.

Ond sut y caiff y cydberthnasau agos hyn eu meithrin a'u cynnal? Pam bod rhai cyplau yn aros gyda'i gilydd am ddegawdau ond bod eraill yn gwahanu o fewn wythnosau? A yw'n bosibl nodi ffactorau a allai ein helpu i werthuso'r tebygolrwydd y bydd cydberthynas yn para y tu hwnt i'r atyniad cychwynnol?

Mae unrhyw gydberthynas yn cynnwys haenau rhyngweithio cymhleth. Mae gan bob cydberthynas ddau safbwynt, dwy gyfres o anghenion a disgwyliadau y mae'n rhaid eu bodloni'n ddigonol er mwyn i'r cydberthynas barhau. Nid yw'r safbwyntiau hyn yn sefydlog, maent yn newid wrth i anghenion a dyheadau pobl ddatblygu. Caiff y broses hon o feithrin cydberthynas ei chynnal mewn gwahanol leoliadau cymdeithasol lle ceir fel arfer amrywiaeth o normau a gwerthoedd a gydnabyddir yn gymdeithasol sy'n dylanwadu ar y ffordd y dylai pobl ymddwyn tuag at ei gilydd - ac mewn rhai diwylliannau, mae normau a gwerthoedd yn gweithredu drwy ganllawiau cymharol gaeth, yn enwedig o ran sut y dylai'r ddau ryw ryngweithio â'i gilydd.

Gweithgaredd 9: Eich cydberthnasau

Timing: 0 awr 10 o funudau

Meddyliwch am eich cydberthynas chi eich hun â phartner hirdymor neu gwpwl arall rydych yn eu hadnabod sydd wedi aros gyda'i gilydd (eich rhieni neu nain a thaid o bosibl). Gan ddefnyddio syniad Sternberg o gariad yn cynnwys nwyd, agosatrwydd a/neu ymrwymiad, i ba raddau y mae'r gwahanol elfennau yn bwysig ar gyfer y gydberthynas a ddewiswyd gennych? A allwch nodi unrhyw strategaethau penodol a allai fod wedi cyfrannu at lwyddiant y gydberthynas yn eich barn chi?

Trafodaeth

Mae pob cwpwl yn unigryw (fel yr unigolion dan sylw) felly ni allwch gyffredinoli eich profiad ag eraill a chymryd yn ganiataol y bydd yr hyn sy'n gweithio mewn un cydberthynas yn gweithio mewn cydberthynas arall.

Mae'n bosibl y byddwch wedi nodi strategaethau megis rhannu diddordebau gan gynnwys hobïau neu fynd allan gyda'i gilydd, rhyngweithio digrif, sylwadau cadarnhaol am ei gilydd a gweithgareddau tebyg sy'n creu bond.

Gall arsylwi ar y rhyngweithio rhwng cyplau fod yn ddull diddorol a buddiol a ddefnyddir gan seicolegwyr wrth iddynt geisio deall deinameg fewnol unrhyw gydberthynas. Er enghraifft, cyfwelodd Kathryn Dindia a Leslie Baxter (1987) â 50 o gyplau priod er mwyn ceisio nodi'r strategaethau a ddefnyddir ganddynt i geisio cynnal eu cydberthynas. Nodwyd ganddynt y gellid gwahaniaethu rhwng dau fath o ymddygiad, sef cynnal a thrwsio. Nodwyd 49 o wahanol strategaethau ganddynt:

Ymhlith y strategaethau cynnal roedd:

  • trafod y dydd
  • rhoi canmoliaeth
  • cyswllt rheolaidd (galwadau ffôn) pan oeddent ar wahân yn ystod y dydd
  • cymdeithasu gyda'i gilydd gydag eraill
  • rhoi anrhegion
  • cyd-drafod penderfyniadau prynu megis ceir a gwyliau.

Ymhlith y strategaethau trwsio roedd:

  • trafod problemau
  • gofyn am help allanol
  • cytuno i ddymuniadau'r partner
  • rhoi wltimatwm.

Gallwch weld yn amlwg bod potensial ar gyfer cynnwys rhai strategaethau o fewn y ddau gategori, er enghraifft, gall 'rhoi anrhegion' a 'chadw mewn cysylltiad' pan fyddant ar wahân fod yn strategaethau cynnal neu drwsio gan ddibynnu ar y cymhellion cysylltiedig ac anghenion y sefyllfa.

Canfu Dindia a Baxter wahaniaethau o ran y math o ymddygiad a fabwysiadwyd a oedd yn gysylltiedig â hyd priodasau. Nid oedd y rheini a oedd wedi bod yn briod am gyfnod hwy mor dueddol o ddefnyddio ymddygiad cynnal â'r rheini a oedd ond wedi bod yn briod am gyfnod byr. Awgrymwyd bod cyplau a oedd wedi bod yn briod ers cyfnod hir yn adnabod ei gilydd yn well a'u bod yn fwy cyfarwydd â'i gilydd, felly nad oeddent yn teimlo bod angen ymddygiad cynnal penodol gymaint â'r rheini a oedd yng nghamau cynnar eu priodas. Awgrym arall oedd bod y cyplau a oedd wedi bod gyda'i gilydd ers cyfnod hir yn cymryd strategaethau cynnal yn ganiataol gan fethu i ryw raddau â sylweddoli arwyddocâd eu hymddygiad. Efallai eu bod eisoes wedi buddsoddi cymaint yn y gydberthynas fel eu bod o'r farn ill dau nad oedd angen cynnal y llall.

Dadansoddodd John Gottman (1999) dapiau fideo o gyplau yn rhyngweithio dros gyfnod o 14 mlynedd. Drwy'r astudiaeth arsylwadol gynhwysfawr hon, canfu, ar y cyfan, fod gan gyplau a oedd wedi ysgaru bedair prif broblem: roedd un partner neu'r ddau bartner yn treulio llawer o amser yn beirniadu'r llall; roedd un partner neu'r ddau bartner yn dod yn amddiffynnol iawn wrth gael eu beirniadu; roedd un partner neu'r ddau yn dueddol o ddangos dirmyg at y llall; ac roedd un partner neu'r llall yn gwrthod ymateb i'r llall yn ystod anghydfodau. Ymddengys fod cyplau mewn partneriaethau hapusach, mwy llwyddiannus yn dod o hyd i ffordd gadarnhaol o ymdrin â'r pedwar maes o broblemau, sef beirniadaeth, natur amddiffynnol, dirmyg ac anymatebolrwydd. Canfu Gottman fod cyplau a oedd yn fwy llwyddiannus yn dueddol o fod yn fwy cefnogol ac yn llai beirniadol o'i gilydd a oedd yn arwain at fod yn fwy goddefgar am wendidau ei gilydd (hynny yw, nid oeddent yn ceisio newid ei gilydd).

Mae'r adran hon wedi ystyried amrywiaeth o ganfyddiadau ymchwil am y mathau o gydberthnasau rydym yn rhan ohonynt fel oedolion a sut mae cydberthnasau agos yn esblygu. Gall y ffactorau sy'n helpu i gynnal cydberthynas agos amrywio'n sylweddol rhwng cyplau ond mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pethau megis diddordebau cyffredin, hyd y cyfnod y mae'r cwpwl wedi bod gyda'i gilydd, plant, amgylchiadau economaidd, disgwyliadau unigol, profiad o gydberthnasau yn y gorffennol a chymorth a diwylliant y teulu oll yn berthnasol. Ac o ran 'rhamant' a 'chariad'...wel, efallai mai'r maes aniffiniadwy hwn o'r seicoleg ddynol sydd fwyaf anodd i'w werthuso! Gall pŵer rhwymol cariad helpu i oresgyn yr holl ffactorau a allai atal unigolion rhag cynnal eu cydberthynas, ac efallai na fydd presenoldeb y rhan fwyaf, neu hyd yn oed bob un, o'r ffactorau cadarnhaol sy'n helpu i gynnal cydberthynas agos, yn gwneud iawn am ddiffyg cariad.

4.5 Ymddangosiad corfforol

5 Pwysau gan grwpiau