6.4 Cefndir Zidane

Ganed Zidane yn 1972 yn ninas Marseille yn Ffrainc i rieni a ddaeth yn wreiddiol o Algeria. Ef yw'r ifancaf o bum plentyn ac roedd y teulu yn byw mewn ardal dosbarth gweithiol o'r ddinas o'r enw La Castellane. Dechreuodd Zidane ei yrfa bêl-droed yn gynnar ac roedd yn chwarae yn y gynghrair iau yn 14 oed ac yn chwarae pêl-droed yn yr Adran Gyntaf yn 17 oed. Datblygodd i fod yn chwaraewr o'r radd flaenaf ac fe'i enwyd yn Chwaraewr y Flwyddyn y Byd deirgwaith. Rownd Derfynol Cwpan y Byd 2006 fyddai ei gêm bêl-droed broffesiynol olaf cyn iddo ymddeol.

Digwyddodd y pen-bytiad yn y 110fed munud o'r gêm, pan oedd y gêm wedi cyrraedd amser ychwanegol, ac o ganlyniad, cafodd Zidane ei anfon o'r cae. Ni chafodd gymryd rhan yn y ciciau o'r smotyn a enillwyd gan yr Eidal o 5-3. Roedd hyn yn ddiwedd trist iawn i yrfa pêl-droed eithriadol i Zidane, ei ddilynwyr ac i Ffrainc.

Yn dilyn y digwyddiad, cafwyd oriau o ddadlau a thrafod yn y cyfryngau ac mewn cynulliadau cymdeithasol wrth i bobl geisio ateb y cwestiwn pam? Beth a wnaeth i'r pêl-droediwr hwn ymateb mewn ffordd mor ymosodol a thwp, ym marn rhai, mewn gêm mor bwysig ac ar adeg mor bwysig yn y gêm? Nododd Zidane fod Materazzi wedi'i bryfocio drwy wneud sylwadau sarhaus am ei fam a'i chwaer. Mynnodd Materazzi mai dim ond sylwadau dibwys a wnaed ganddo ac nad oedd wedi dweud unrhyw beth am fam Zidane.

Hyd yn oed os nad oes gennych lawer o ddiddordeb mewn pêl-droed, efallai y bydd gennych syniadau o ran pam y byddai pêl-droedwyr o bosibl yn ymddwyn yn y fath fodd. Yn y gweithgaredd nesaf, cewch gyfle i glywed safbwyntiau gwahanol bobl. Byddwch yn ystyried yr esboniadau gwahanol a gaiff eu cyflwyno gan bobl am yr hyn a wnaeth i Zidane ymddwyn yn y fath fodd.

Gweithgaredd 13: Pam y gwnaeth yr hyn a wnaeth?

Timing: 0 awr 20 o funudau

Cyn gwylio'r fideo isod, gwnewch nodiadau yn rhestru'r holl wahanol esboniadau y gallwch feddwl amdanynt pam y gwnaeth Zidane ben-fytio Materazzi. Gall fod o gymorth os meddyliwch am y gwahanol ddylanwadau rydych wedi darllen amdanynt yn y llyfr hwn. A allwch awgrymu unrhyw ffactorau sy'n gysylltiedig â chyflwr biolegol Zidane, ei ffordd o feddwl, ei gydberthnasau a'i hunaniaethau cymdeithasol a allai helpu i egluro beth a ddigwyddodd?

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich nodiadau, gwyliwch 'Everyday explanations' sy'n dangos aelodau o'r cyhoedd yn cynnig eu safbwyntiau am yr hyn a ddigwyddodd. Cymharwch eich esboniadau chi â'u hesboniadau hwy.

Cyflwynir y fideo hwn yn Saesneg, a cheir trawsgrifiad Cymraeg isod.

Download this video clip.Video player: cym-y183_1_001v.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

A oedd eich esboniadau yn cwmpasu mwy o ffynonellau dylanwad nag esboniadau'r cyhoedd? A yw'n werth meddwl am y ffordd y byddech fel arfer yn ystyried ymddygiad pêl-droediwr sy'n ymateb yn y fath fodd. A oeddech yn dueddol o esbonio ymddygiad o'r fath mewn termau syml, megis dweud, 'mae'n ymwneud yn llwyr â...'? A yw'r gwaith darllen hwn wedi eich helpu i weld posibiliadau eraill?

Nesaf, byddwch yn ystyried yr esboniadau a gynigiwyd gan dri seicolegydd sy'n canolbwyntio ar dri gwahanol fath o ddylanwad.

Gweithgaredd 14: Esboniadau gan dri seicolegydd

Timing: 0 awr 30 o funudau

Nawr, gwrandewch ar ‘Psychological explanations’. Mae'r clip hwn yn dangos tri seicolegydd, un biolegol, un gwybyddol ac un cymdeithasol yn rhoi eu dehongliad hwy o'r hyn a ddigwyddodd. Gwnewch nodiadau o bwyntiau allweddol pob esboniad

Noder: daw'r clipiau sain isod o DVD cwrs Y183 ac felly bydd cyfeiriadau at benodau yn y cwrs na chânt eu cynrychioli yn yr uned hon.

Mae'r eitem sain hon yn Saesneg; mae trawsysgrif Cymraeg ar gael.

Download this audio clip.Audio player: Lawrlwytho'r clip sain hwn. Psychological explanations
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
Lawrlwytho'r clip sain hwn. Psychological explanations
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Ffigur 14: Pat Spoors – Seicolegydd biolegol
Ffigur 15: Dr Peter Naish – Seicolegydd gwybyddol
Ffigur 16: Dr Jovan Byford – Seicolegydd cymdeithasol

Trafodaeth

Awgrymodd y seicolegydd biolegol y gall fod rhagdueddiad genetig i ddynion ymateb i bethau sy'n eu cythruddo gan ddefnyddio ymosodedd corfforol fwy na merched. Nid yw rôl testosteron yn glir, er bod cyswllt rhwng yr hormon rhyw gwrywaidd hwn ac ymosodedd. Fodd bynnag, byddai'r pwysau a achoswyd gan y sefyllfa roedd Zidane yn ei wynebu wedi achosi i adrenalin gael ei ryddhau a chynhyrfiad biolegol a fyddai, yn ei dro, wedi dwysau unrhyw fath o ymateb emosiynol.

Tynnodd y seicolegydd gwybyddol sylw at rôl sgemâu a phroses o'r brig i'r bôn wrth ddylanwadu ar y dehongliad o'r sefyllfa a'r ymateb i'r sefyllfa. Tynnodd sylw hefyd at sylw detholus, yn yr ystyr efallai na fyddai unigolyn yn sylwi ar ymddygiad cythruddol neu y byddai'n ei anwybyddu pe bai ei sylw rywle arall. Yn ddiddorol, gallai'r sgema pêl-droed hefyd fod wedi dylanwadu ar y math o ymateb fel bod Zidane wedi pen-fytio Materazzi yn hytrach na'i ddyrnu neu ei fwrw.

Pwysleisiodd y seicolegydd cymdeithasol rôl hunaniaethau cymdeithasol. Disgrifiodd nifer o hunaniaethau ar gyfer Zidane - dyn, chwaraewr pêl-droed, aelod o dîm, Ffrancwr, symbol o amlddiwylliant a pherson â chefndir dosbarth gweithio. Mae'n ddiddorol bod Zidane ei hun wedi ceisio esbonio ei ymddygiad drwy gyfeirio at y syniad o orfod bod yn 'ddyn' (ei hunaniaeth o ran ei ryw) a'i angen i amddiffyn ei hun i unrhyw un a oedd yn sarhau ei fam a'i chwaer. Yn ogystal, yn ei ddiwylliant Gogledd Affricanaidd, ystyrir bod perthynas benywaidd yn gysegredig a byddai ymdrin â sylwadau sarhaus yn fater o 'anrhydedd y teulu' (hunaniaeth ddiwylliannol).

Er mwyn ceisio rhoi esboniad llawn, gallech awgrymu bod pwysau'r sefyllfa gymdeithasol ehangach (gan gynnwys pwysau gan y cyhoedd a'r cyfryngau) wedi arwain at ruthr o gemegion i'r corff ac nad ymdriniodd y pêl-droediwr â'r sefyllfa honno yn effeithiol o ystyried ei gydberthnasau gyda'r bobl dan sylw, ei fagwraeth a'i ddiwylliant. Byddai'r rhan fwyaf o seicolegwyr heddiw yn derbyn bod unrhyw esboniad defnyddiol, megis yr esboniad a roddwyd dros ben-fytiad Zidane, yn mynd i ddisgrifio rhyngweithiad rhwng dylanwadau mewnol ac allanol.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .