1.3 Profiad gwaith 'gwirfoddol' hanfodol

I ddechrau mewn sawl gyrfa ac er mwyn datblygu, mae profiad gwaith gwirfoddol yn hanfodol. Mae Addysgu, y Gyfraith, Amgylcheddol/Cadwraeth a Gwaith Cymdeithasol yn enghreifftiau cyffredin ond mae llawer o enghreifftiau eraill. Anaml y caiff swyddi yn sectorau'r Celfyddydau, y Cyfryngau, Cyhoeddi, Datblygu ac Elusennol eu hysbysebu ac mae hefyd yn anodd dechrau gyrfa ynddynt heb rwydwaith o gysylltiadau, profiad ymarferol uniongyrchol o'r diwydiant a brwdfrydedd eithriadol.

I gael rhagor o fanylion am unrhyw un o'r rhain, edrychwch ar wefan Prospects, sy'n cynnig proffiliau swydd ardderchog, a manylion cyswllt ac adnoddau i'ch rhoi ar ben y ffordd.

Fel arfer, bydd profiad cychwynnol yn unrhyw un o'r gyrfaoedd hyn yn ddi-dâl, ac felly'n cyfrif fel gwaith gwirfoddol. Mae'r ffiniau rhwng y math hwn o wirfoddoli a mathau eraill o wirfoddoli yn gymylog braidd, oherwydd er mai strategaeth yrfaol angenrheidiol ydyw, gall fod o fudd i'r gymuned o hyd, yn enwedig ym meysydd addysgu a gwaith cymdeithasol. Hyd yn oed yn y Celfyddydau a'r Cyfryngau, gall gwirfoddolwyr gronni profiad gwaith gwerthfawr mewn prosiectau fel ysgrifennu ar gyfer safleoedd Facebook elusennau, darllediadau ar radio lleol, prosiectau 'Celf y Stryd' ac ati.

Gweithgaredd 1: Meddyliwch am

Beth bynnag fo'ch amcanion, edrychwch ar y sylwadau isod i'ch helpu i asesu beth rydych am ei gael o wneud gwaith gwirfoddol. Mae amrywiaeth o wirfoddolwyr yn rhoi eu rhesymau dros fod yn awyddus i gymryd rhan. Ceisiwch feddwl pa weithgareddau gwirfoddol allai ddiwallu eu hanghenion, wedyn edrychwch ar yr atebion i weld beth y gwnaethant ei wneud yn y pen draw. Mae'n bosibl y byddwch yn uniaethu â rhai ohonynt, ond dylai hyn o leiaf ddangos enghreifftiau o'r amrywiaeth aruthrol o opsiynau sydd ar gael.

'Roeddwn wedi diflasu, roedd gennyf amser i'w sbario pan oedd y plant yn yr ysgol. Roeddwn am deimlo fy mod yn gwneud rhywbeth defnyddiol, ond roedd yn well gennyf rywbeth a oedd yn helpu plant. Sylweddolais fod fy mhlant fy hun yn ffodus iawn.'

Ateb

Cymerodd ran mewn prosiect arloesol gan CSV sy'n paru gwirfoddolwyr â theuluoedd sy'n cynnwys plant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant, sy'n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol nad oes ganddynt amser i ymweld â chartrefi pob plentyn sydd ar y gofrestr 'mewn perygl' yn rheolaidd.

'Nid oeddwn yn fodlon ar yr hyn a oedd yn digwydd yn ysgol fy mab, felly penderfynais roi cynnig ar newid pethau.'

Ateb

Daeth yn llywodraethwr ysgol. Roedd hyn yn ymrwymiad difrifol, ond defnyddiodd y ddealltwriaeth a feithriniodd ym maes cyllid, personél a chynllunio strategol yn ddiweddarach i wneud cais am swydd fel rheolwr.

'Cefais fy synnu gan erthygl am nifer y troseddwyr ifanc yn fy nhref a phenderfynais weithredu.'

Ateb

Daeth yn fentor gyda NACRO a gweithiodd gyda dau droseddwr ifanc cyn iddynt gael eu rhyddhau ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, gan eu helpu i gael hyfforddiant ac yn y pen draw, i ddod o hyd i swydd.

'Rwy'n credu'n gryf mewn hawliau dynol ac roeddwn am wneud i bethau ddigwydd.'

Ateb

Roedd yn awyddus i leisio barn, felly yn ogystal â helpu gydag ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd ar gyfer Amnest Rhyngwladol, mae bellach yn ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn ar-lein News Channel. Mae'r ddau weithgaredd hyn yn golygu y gall fod yn hyblyg iawn o ran ei ymrwymiad, a gweithio oriau achlysurol gartref. Mae hyn yn hanfodol gan ei fod yn teithio cryn dipyn mewn perthynas â'i swydd.

'Dwi bob amser wedi bod yn dda mewn chwaraeon ac awgrymodd fy mos y dylwn roi cynnig ar hyfforddi. Dywedodd y byddai hefyd yn edrych yn dda ar fy CV, ond dwi ddim yn gwybod sut gan fy mod yn gwneud swydd bancio.'

Ateb

Daeth Mike yn arweinydd ac yn hyfforddwr gyda grŵp chwaraeon i bobl anabl, yn ogystal â hyfforddi crefftau ymladd mewn clwb ieuenctid lleol. Ar ôl dwy flynedd, sylweddolodd fod ganddo brofiad o addysgu a mentora, a'i fod hefyd wedi meithrin sgiliau trefnu, hyrwyddo, rheoli cyllideb ac adeiladu tîm. Roedd wedi dangos ymroddiad, brwdfrydedd a sgiliau cyfathrebu ardderchog. Cyfrannodd hyn oll at ddyrchafiad i swydd rheolwr hyfforddi yn ei adran.

'Roeddwn yn gwybod fy mod am weithio ym maes cadwraeth amgylcheddol, ond daeth yn amlwg nad oedd modd gwneud hynny heb gefndir mewn gwaith gwirfoddol perthnasol.'

Ateb

I Jo, daeth sesiynau ar y penwythnos fel warden gwirfoddol i'r RSPB yn gyfnodau hirach mewn gwarchodfa yn yr Alban yn ystod ei gwyliau haf. Mae bellach yn gwneud cais am swydd lawn amser fel warden gwarchodfa gyda chyfrifoldeb arbennig am ddigwyddiadau a hyrwyddiadau. (Noder: dyma enghraifft o brofiad gwaith hanfodol, y cyfeiriwyd ato'n gynharach yn Adran 1, er ei fod hefyd yn cyfrif fel gwaith gwirfoddol.)

'Nid oeddwn yn meddwl fy mod yn dda yn gwneud unrhyw beth, a bu bron i mi beidio â ffwdanu gwneud cais o gwbl.'

Ateb

Gwelodd Jess erthygl yn y wasg leol am y cynllun 'cyfeillio' i bobl oedrannus a oedd yn gaeth i'w cartref. Mae bellach yn sylweddoli y gallai gynnig ymroddiad, diddordeb mewn pobl ac ymagwedd gyfeillgar ond ymarferol. Mae'n ymweld â dau hen ddyn ac yn gwneud eu siopa a'u garddio. Ar hyn o bryd, mae'n anelu at wneud mwy o waith cymunedol ac mae'n ymweld ag ysgolion a sefydliadau lleol i annog mwy o wirfoddolwyr.

'Dwi newydd golli fy swydd ac fe'm cynghorwyd i roi cynnig ar waith gwirfoddol er mwyn mynd allan o'r tŷ, ac o bosibl fy helpu i gael swydd. Rwyf hefyd yn gobeithio y gwnaiff godi fy nghalon.'

Ateb

Roedd David wedi bod yn ceisio cael swydd heb lwyddiant a phenderfynodd wirfoddoli gyda CSV er mwyn cael profiad. Gwirfoddolodd am wyth mis mewn cartref gofal preswyl i bobl ag anableddau dysgu ac mae bellach wedi cael cynnig swydd lawn amser gyda'r prosiect - astudiaeth achos, gwefan CSV.

Gwrandewch ar yr hyn y mae rhai o wirfoddolwyr y Brifysgol Agored yn ei ddweud o ran pam y gwnaethant ddechrau gwaith gwirfoddol.

Mae'r eitem fideo hon yn Saesneg; mae trawsgrifiad Cymraeg ar gael.

Download this video clip.Video player: cym-vol_1_001v.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Darllenwch am brofiadau rhai o’n gwirfoddolwyr yn y Brifysgol Agored, Tiani [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   a Chris.