Cyflwyniad i waith cymdeithasol

Cyflwyniad

Bydd y cwrs byr hwn yn eich cyflwyno i waith cymdeithasol ac yn datblygu eich dealltwriaeth o rywfaint o’r wybodaeth a’r damcaniaethau sy’n gysylltiedig ag ymarfer gwaith cymdeithasol. Byddwch yn dechrau drwy feddwl am syniadau allweddol, gwerthoedd, y broses gwaith cymdeithasol a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwaith cymdeithasol. Yna, byddwch yn edrych ar waith cymdeithasol gydag unigolion, gan ystyried pwysigrwydd bywgraffiadau. Yn olaf, byddwch yn ystyried ymarfer myfyriol. Bydd gweithgareddau myfyriol yn eich galluogi i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu o’ch bywyd a/neu’ch ymarfer eich hun, yn ogystal â’r pethau newydd rydych wedi’u dysgu yn ystod y cwrs hwn, i’ch sefyllfa ar y pryd.

Mae’r cwrs am ddim hwn yn ddarn wedi’i addasu sy’n berthnasol i gwrs y Brifysgol Agored K113 Foundations for social work practice [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Mae'r uned hon hefyd ar gael yn Saesneg ar OpenLearn.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.