1.3 Y broses gwaith cymdeithasol

Mae’r broses gwaith cymdeithasol yn cynnwys cyfres o gamau neu dasgau sy’n defnyddio’r holl elfennau ymarfer a drafodwyd hyd yma. Er bod trefn i’r broses, anaml y mae’n dilyn trywydd llinellol clir ac yn fwy aml, mae’n debycach i gylch hyblyg lle mae gweithwyr yn symud o’r cam asesu i’r cam gweithredu a gwerthuso cyn dychwelyd i’r cam asesu unwaith eto. Er gwaethaf yr hyblygrwydd hwn, mae gan rai rhannau o’r broses, fel y cam asesu, weithdrefnau penodol sy’n seiliedig ar bolisi lleol neu genedlaethol. Gall rhai tasgau fod yn gymharol fyr ac annibynnol, ond mae llawer yn para dros gyfnod hwy ac yn fwy cymhleth, fel asesiadau. Gwelwch hefyd y bydd tasgau’n aml yn gorgyffwrdd â’i gilydd ac y byddwch yn eu hailadrodd yn ystod eich cyswllt â defnyddiwr gwasanaeth. Dangosir tasgau neu gamau’r broses gwaith cymdeithasol yn Ffigur 2 isod.

Ffigur 2 Y broses gwaith cymdeithasol

Er mwyn bod yn ymarferwr ‘myfyriol’, rhaid datblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r broses gwaith cymdeithasol. Ystyr myfyrio yw’r gallu i weithio mewn ffordd feddylgar a systematig. Mae angen i ymarferwyr wybod pam eu bod yn gwneud tasgau penodol (ac egluro hynny i’r defnyddwyr gwasanaeth) ac mae angen iddynt allu cyfiawnhau eu ffyrdd o weithio. Dylai ymyriadau fod yn ystyrlon a dylent gyd-fynd â chynllun neu strategaeth gyffredinol. Gall ymwybyddiaeth o gamau gwahanol y broses gwaith cymdeithasol helpu gweithwyr cymdeithasol i baratoi, cynnal a gwerthuso eu hymyriadau er mwyn iddynt fod yn atebol am eu camau gweithredu a myfyrio arnynt.

1.2 Gwerthoedd, moeseg ac ymarfer gwrthormesol