Dysgu ac arfer: Gweithrediad a hunaniaethau

Cyflwyniad

Mae'r uned hon yn cyflwyno dull cymdeithasol-ddiwylliannol o ddeall a dadansoddi'r hyn a ddysgir. Mae'r syniad hwn o ddysgu yn herio'r hyn a ystyrir yn draddodiadol fel dysgu a gwybodaeth mewn sefyllfaoedd ffurfiol. Mae'n eich cyflwyno i'r ffordd y mae dylanwadau cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol yn llywio arfer a'r hyn sydd ar gael i'w ddysgu. Wrth ddwyn ynghyd y dysgu sy'n digwydd yn y mannau cymdeithasol/hamdden ac yn y gweithle a'i ystyried, mae'r uned yn eich gwahodd i ailystyried sut rydych, er enghraifft, yn deall y gwahaniaethau rhwng y cartref a'r ysgol, gweithgareddau beunyddiol a gweithgareddau arbenigol, yr iard chwarae a'r ystafell ddosbarth a gwahaniaethau eraill a gaiff eu gwneud yn aml ar draws cyd-destunau. Mae'r uned hon yn ystyried rhai o'r cysyniadau allweddol sy'n sail i'r syniad o ddysgu fel ffordd o negodi ystyr. Wrth ystyried lleoliadau o safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol, mae'r uned yn dangos sut i ddefnyddio'r cysyniadau hyn i ystyried sut y caiff gweithrediad dysgwyr ei gyfryngu a ph'un a yw'r broses hon yn grymuso ac yn ehangu gweithrediad neu'n ei ddadrymuso a'i gyfyngu.

Mae'r uned astudio hon yn ddyfyniad wedi'i addasu sy'n berthnasol i gwrs y Brifysgol Agored E846

Curriculum, learning and society: investigating practice [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Mae'r uned hon hefyd ar gael yn Saesneg ar OpenLearn.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.