2 Meddwl am arfer

Wrth feddwl am arfer mewn perthynas â chi'ch hun, pa ddelweddau sy'n dod i'r amlwg? Mae 'arfer' yn air a ddefnyddir yn aml i olygu 'yr hyn y mae pobl yn ei wneud'. Ai dyna y gwnaethoch feddwl amdano; rhyw agwedd ar wneud?

Mewn gweithleoedd, caiff newydd-ddyfodiaid yn aml eu cyflwyno ar unwaith i arfer parhaus. Gwelsoch enghraifft o hyn wrth i'r meddyg ifanc wrth y cyfrifiadur ddisgrifio sut roedd yn dysgu. Eglurodd ei dysgu ei hun fel proses o ddod yn berson gwahanol. Disgrifiodd ei hymdeimlad cychwynnol ohoni hi ei hun fel person ar goll mewn maes awyr tramor ('at sea in a foreign airport'): cydweddiad cymysg i raddau, ond rhywbeth y gallwch o bosibl uniaethu ag ef os meddyliwch am sefyllfa lle roeddech yn dibynnu ar arwyddion i'ch tywys a'u bod oll mewn iaith dramor. Drwy ei dysgu, disgrifiodd y meddyg iau ei hun fel rhywun a ddaeth i ddeall sut i ymgysylltu ag arferion y ward a pham y caiff pethau penodol eu gwneud mewn ffyrdd penodol. Po fwyaf cymwys y daeth, y mwyaf y teimlai fel 'meddyg'. Drwy ei hymgysylltiad, daeth yn rhan o safbwyntiau a rennir ledled y byd na chânt yn aml eu cyfleu ond a gânt eu deall ac, o ganlyniad, na chânt eu hasesu'n aml.

Mae cymunedau arfer yn adlewyrchu hanes dysgu cyffredin sy'n gofyn i bobl ddal i fyny er mwyn ymuno ('a shared history of learning that requires some catching up for joining') (Wenger, 1998, tud. 102) fel y dangosodd y meddygon iau. Mae newidiadau o ran anghenion a gwerthoedd cymdeithas a'r adnoddau sydd ar gael i gyflawni nodau cymunedol yn dylanwadu ar esblygiad cymuned a'i harferion cysylltiedig. Felly, o safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol, ni allwch anwybyddu'r cyd-destun hanesyddol na chyd-destun sefydliadol a chymdeithasol ehangach cymunedau penodol gan eu bod yn llywio'r hyn a gaiff ei arfer a pham ac, felly, yr hyn sydd ar gael i'w ddysgu.

Gweithgaredd 4

Gwrandewch ar yr eitem sain eto, gan ganolbwyntio y tro hwn ar Karen a'r hyn y mae hi a'r plant yn ei wneud. Cyflwynir y clip sain hwn yn Saesneg, a cheir trawsgrifiad Cymraeg isod.

Download this audio clip.Audio player: e846_1_audio.mp3
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Wrth i chi wrando ar yr hyn y mae Karen yn dweud ei bod yn ei wneud a pham, meddyliwch am ei harfer asesu a gwnewch nodiadau ar yr hyn a allai fod yn dylanwadu ar yr hyn y mae'n ei asesu a'i ffordd o asesu.

Trafodaeth

Yn y dyfyniad 'Testing times', roedd Karen yn gwneud pethau a oedd yn galluogi iddi wneud ei swydd, ac eglurodd y pethau hyn a sut roeddent yn berthnasol i anghenion ehangach y sefydliad, sef yr ysgol. Roedd yr arferion hyn yn ymwneud â bod yn athro/athrawes, sef ei chymuned arfer. Defnyddiodd Karen ei chofnodion asesu i gyfathrebu gyda'r rhieni, sef un o ofynion yr ysgol. Yn ei dro, dylanwadwyd ar yr arfer hwn o fewn yr ysgol gan y gofyniad i bob ysgol ddarparu gwybodaeth asesu, gofyniad a osodwyd arnynt gan lywodraeth leol a chenedlaethol.

Er mwyn gwneud synnwyr o'r hyn y mae Karen yn ei wneud (h.y. ei harfer), mae angen i ni wybod rhywbeth am gyd-destun cymdeithasol ei gwaith a chyd-destun hanesyddol y sefyllfa, gan fod ystyr ac arwyddocâd yr asesiad llinell sylfaen o blant ifanc yn Lloegr wedi newid dros amser. Yn yr 1980au, nid oedd unrhyw ofyniad i asesu plant ifanc. Yn y 1990au, roedd yr hyn a gafodd ei asesu, a sut, yn wahanol iawn i'r hyn y mae Karen yn ei wneud yn y dyfyniad. Felly, caiff yr hyn y mae Karen yn ei wneud, yr arfer y mae'n ymwneud ag ef, ei gyfryngu gan strwythurau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth: hynny yw, polisi cenedlaethol a pholisi ei hysgol am yr hyn y mae disgwyl iddi ei asesu, a sut y caiff hynny ei gofnodi a'i adrodd. Mae'r agweddau cyd-destunol cymdeithasol a sefydliadol ehangach hyn yn rhoi ystyr a strwythur i'w harfer.

Yn ystafell ddosbarth Karen, gwelsoch blant pedair a phump oed yn dysgu sut i roi trefn ar rifau. Wrth iddynt wneud hyn, roedd y plant yn ymgysylltu ag adnoddau penodol, termau penodol a ffyrdd penodol o feddwl am y byd, y gellid ystyried pob un ohonynt yn arferion. Mae Lave a Wenger (1991) yn gwahaniaethu rhwng yr hyn y mae plant yn ei wneud pan fyddant yn ymgysylltu ag arferion o'r fath a'r arferion y mae mathemategwyr yn ymgysylltu â hwy ac arferion cymunedau proffesiynol eraill megis peirianwyr, cyfrifwyr neu weithwyr adwerthu, y maent oll yn defnyddio arferion mathemategol penodol at ddibenion penodol. O ganlyniad, maent yn dadlau mai'r gymuned y mae plant yn dod yn rhan ohoni ac yn meithrin cymhwysedd mewn perthynas â hi yw'r gymuned o oedolion dysgedig ('community of schooled adults'). Roedd yr arferion a ddewiswyd iddynt ymgysylltu â hwy wedi'u rhagnodi, ac yn annibynnol ar wneud mathemateg naill ai yn y byd neu yn y ffordd y mae mathemategwyr yn gwneud mathemateg. Mae hyn yn wahanol iawn i'r hyn a oedd yn digwydd gyda'r meddygon iau.

Ar gyfer y meddyg iau, roedd ei ddealltwriaeth o'r chwistrell a sut i'w defnyddio yn rhan gynhenid o'i ymdeimlad o ddiben, sef menter y gymuned o drin pobl sy'n sâl. Helpodd y diben a rennir hwn y meddyg iau arall hefyd i negodi'r anhysbys. Wrth iddi ymgymryd â'i gweithgareddau dyddiol ar y ward, dyfnhaodd ei dealltwriaeth o'r diben hwn hefyd. Roedd y plant, ar y llaw arall, yn ymwneud â dod yn ddysgwyr mathemateg cymwys, a diffinnir y cymhwysedd hwn yn allanol yn nhermau'r hyn y mae cymdeithas yn tybio y dylai pobl ei wybod am fathemateg er mwyn gallu ystyried eu bod yn 'hyddysg'. Felly i lawer o blant, mae a wnelo eu dysgu, a'r fenter a rennir, â llwyddo yn yr arholiadau sy'n eich labelu fel unigolyn cymwys. O ganlyniad, ni fydd eu gwybodaeth o reidrwydd yn ymarferol ac yn addas iddynt ei defnyddio fel adnodd.

Mae Rogoff (2008) yn dadlau bod systemau addysgol y Gorllewin yn rhoi gwerth ar ddysgu gwybodaeth haniaethol, y credir y gellir ei chymhwyso ar draws cyd-destunau. Er ei bod yn nodi nad yw gwneud yr un peth yn awtomatig mewn sefyllfa newydd o reidrwydd yn effeithiol. Mae'n bosibl y bydd y syniad hwn o wybodaeth yn rhwystr i fyfyrwyr wrth wynebu sefyllfaoedd newydd. Yn ôl safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol, er mwyn newid y nodau ar gyfer dysgu mewn ysgol i gynnwys arferion dysgu, mae angen galluogi dysgwyr i'w cysylltu â bod yn fathau penodol o bobl sy'n ymwneud â'r byd at ddibenion penodol (Rogoff, 2008). Dim ond yn eu cyd-destun y mae arferion yn gwneud synnwyr. Mae darn o offer fel chwistrell yn awgrymu cryn dipyn am yr arferion sy'n gysylltiedig ag ef. Meddyliwch am rai cyd-destunau eraill lle y defnyddir chwistrellau: er enghraifft, fel dyfeisiau mesur ar gyfer nwyon neu hylifau mewn gwersi gwyddoniaeth, fel darn o offer i roi eisin ar deisen neu i chwistrellu seliwr mewn cyd-destun gwella'r cartref. Yn y cyd-destunau hyn, mae'r ffordd y caiff ei chwistrell ei llenwi yn arfer gwahanol iawn i'r arfer a ddefnyddir mewn cyd-destun meddygol.

3 Cyfryngu cymdeithasol