‘Clear Red Water’ – datganoli a chanlyniadau polisi
Boed wedi’i ysgogi gan gymhellion fel cydnabyddiaeth genedlaethol, mwy o hunanbenderfyniad neu lywodraeth fwy effeithiol, mae datganoli yn seiliedig ar gred mewn gwahaniaeth. Ni fyddai llawer o bwynt creu trefniadau gwleidyddol a gweinyddol ar wahân pe na fyddent yn helpu i wneud rhyw wahaniaeth sylweddol yn y dyfodol - o ran llunio polisïau, darparu gwasanaethau, neu strwythur sefydliadau. Yn achos Prydain, fodd bynnag, mae’n syndod cyn lleied o feddwl a roddwyd i beth y gallai’r broses hon arwain ato yn y pen draw. Yn lle hynny, dibynnwyd ar yr ateb nodweddiadol Brydeinig o ymateb i bethau wrth iddynt godi. Mae hyn yn egluro pam bod sylwebyddion arbenigol wedi cyfeirio sawl gwaith at y ffaith nad oes ‘pensaernïaeth’ gyffredinol i ddatganoli na chyfeiriad strategol clir. Yn syml, beth fydd pobl yn ei wneud â datganoli (neu annibyniaeth) ar ôl iddo ddigwydd?
Mae’n debygol mai’r ateb fydd beth bynnag sy’n rhoi ymdeimlad o gyfeiriad iddynt. Byddai’r ymgeiswyr tebygol am y rôl hon yn cynnwys gwerthoedd craidd, ideolegau gwleidyddol, adweithiau greddfol neu ‘synnwyr cyffredin’, neu ymdeimladau o hunaniaeth genedlaethol. Nid cyd-ddigwyddiad mohono bod cryn drafod a dadlau wedi digwydd yn ystod y cyfnod datganoli rydym wedi’i ystyried ynglŷn â hunaniaeth - beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro/Cymraes (neu’n Albanwr, Sais ac ati ) ar hyn o bryd, a beth sy’n deillio o hynny?
Yn gyffredinol, gellid dweud bod hunaniaeth Gymreig yn fynegiant o hanes a phrofiadau neilltuol pobl Cymru, math o gronfa o agweddau, tybiaethau a dewisiadau y maent wedi’u hetifeddu. Mae hyn yn rhoi sylfaen iddynt asesu a dewis eu dyfodol posibl eu hunain, a byddant yn gwneud hynny mewn ffordd wahanol i bobl sydd â hanes a phrofiadau gwahanol. Hynny yw, bydd y penderfyniadau a wnânt yn nodweddiadol ‘Gymreig’. Gan symud oddi wrth beirianwaith datganoli, a oes modd gweld tystiolaeth o’r Cymreictod hwn yng nghanlyniadau gwirioneddol datganoli hyd yma? Gwelwyd un ymdrech ddylanwadol i ddadlau o blaid yr achos hwn yn 2002, yn ystod yr ymgyrch cyn yr etholiad ar gyfer ail dymor y Cynulliad, pan nododd y Prif Weinidog Rhodri Morgan ei weledigaeth ynglŷn â sut y gallai pethau gael eu gwneud yn ‘the Welsh way’. Yn ôl Rhodri Morgan, roedd hyn i’w weld yn yr ‘ideological underpinnings’ a ategai’r mentrau polisi amrywiol a fabwysiadwyd eisoes a’r rhai yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cynllunio. Er na chyfeiriwyd atynt yn uniongyrchol fel gwerthoedd Cymreig, daeth yr araith yn agos i’w nodi.
Gan fenthyca ymadrodd o bapur newydd The Guardian yn ôl pob sôn, er iddo ei ddefnyddio ei hun rai blynyddoedd ynghynt (Moon, 2013, t. 315) awgrymodd Morgan fod hyn yn creu ‘clear red water’ rhwng y cyfeiriad yr oedd Cymru yn ei ddilyn a’r cyfeiriad a oedd yn cael ei ddilyn yn San Steffan, nid yn unig gan lywodraethau Ceidwadol ond gan Lafur Newydd hefyd. Yn rhannol, ail-bwysleisiodd ei araith egwyddorion yr ‘hen’ blaid Lafur o gynwysoldeb a rôl y wladwriaeth o ran darparu gwasanaethau a oedd yn ddiamod ac am ddim. Ymhlith yr enghreifftiau a roddodd roedd lleoedd meithrin am ddim i blant tair oed a thocynnau teithio ar fysus am ddim i’r henoed a’r anabl. Fodd bynnag, cyfunwyd y rhain â phwyslais penodol ar agweddau ‘lleol’ a ‘chydweithredol’, y dywedwyd eu bod yn tarddu o dreftadaeth gymdeithasol Cymru fel cymdeithas wedi’i hadeiladu ar gymunedau cryf â theyrngarwch grymus i’r dosbarth gweithiol. Roedd hyn yn golygu y gallai cymunedau o’r fath, o gael anogaeth briodol, ddod o hyd i’w hatebion eu hunain i broblemau cyffredin. Er y gellid dehongli hyn fel persbectif Llafur neilltuol, roedd yn ymddangos i’r ddadl gael ei geirio er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, gan gynnwys y rhai â’u gwreiddiau yng nghymunedau Cymraeg y Gymru wledig, lle roedd Plaid Cymru ar ei chryfaf, a allai hefyd uniaethu â’r hyn y cyfeiriodd Morgan ato fel ‘the sometimes proud, sometimes agonising history of a nation built very largely on the efforts of working people in hard surroundings.‘
Amlinellwyd yr un gwahaniaeth rhwng y dulliau llywodraethu sydd ar waith yn y DU ac yng Nghymru yn fwy diweddar gan David Marquand, gwleidydd enwog sydd bellach yn ddamcaniaethwr gwleidyddol, sy’n dweud mai dehongliad gwas sifil Cymreig o’r gwahaniaeth hwnnw yw’r gwahaniaeth rhwng ‘choice, competition, and the customer’ (pwyslais y DU) a’r pwyslais Cymreig ar ‘voice, cooperation, citizen’. Tra bod y gyfres gyntaf o syniadau’n cyd-fynd yn dda â pholisïau i annog darpariaeth ar y farchnad rydd, prynwriaeth a hunan-les, mae’r ail yn cynnig ffordd ymlaen sy’n canolbwyntio mwy ar wasanaethau cyhoeddus, cyfranogi cyfun a chonsensws. Caiff y fformiwla daclus, ond gor-syml hwn, o bosibl, ei ategu gan y cyfoeth o ddogfennau polisi a datganiadau a gyhoeddwyd gan lywodraethau amrywiol Cymru, lle caiff themâu partneriaeth, cydweithredu, undod, cydweithio ac, yn anad dim efallai, ‘cymuned’ eu hailadrodd dro ar ôl tro. Yn amlwg, maent yn taro tant ymhlith cynulleidfa Gymreig. Mae arweinydd presennol Plaid Cymru yn ymrwymo iddynt pan fydd yn dweud y gall materion gwleidyddol gael eu gweinyddu mewn ffordd gymharol waraidd oherwydd bod ‘common progressive language . . . which more than one party speaks’ – er ei bod yn beirniadu fersiwn y Blaid Lafur o’r athrawiaeth hon am beidio â bod yn ddigon radical, ‘a sort of Fabianism with a valleys accent’. Dywedodd Rhodri Morgan ei hun fod y ffaith bod Cymru’n wlad fach yn golygu bod modd sicrhau lefel uchel o gydweithredu a defnyddiodd iaith gynhwysol gan awgrymu bod consensws cenedlaethol yn bodoli: ‘We know where the problems lie, and we know each other pretty well – both institutionally and – very often – individually. We should therefore be able to take advantage of small scale to make big decisions.‘
Mae araith Rhodri Morgan lle amlinellodd ei weledigaeth o ‘clear red water’ ar gael ar-lein.
I weld sylwadau ar ei pherthnasedd, darllenwch:
Break-up of the UK is 'inevitable' without a switch to a federal system, leading political expert warns [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
‘Welsh people have been failed by Labour – time to consult them‘
Mae Mark Darkeford hefyd yn cyfeirio at y gwahaniaethau sy’n sail i benderfyniadau ar bolisi cymdeithasol yng Nghymru a gweddill y DU yn ei gyfraniad sain i gwrs y Brifysgol Agored DD101 Making and exploring Welsh social lives. Mae’r eitem sain yn Saesneg; mae trawsgrifiad Cymraeg ar gael
Transcript
Dawn Mannay: Mae Mark Drakeford yn Athro Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi cael ei ddewis i fod yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Prynhawn da, Mark, diolch yn fawr iawn am ddod.
Mark Drakeford: Diolch yn fawr am fy ngwahodd.
DM: Hoffwn ddechrau drwy ofyn ichi beth mae datganoli wedi’i gyflawni ar gyfer pobl Cymru?
MD: Wel, yn fy marn i, y peth cyntaf a’r prif beth y mae datganoli wedi’i gyflawni yn ystod ei ddegawd cyntaf yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod y gallwn reoli ein materion domestig ein hunain fel cenedl. Oherwydd rwy’n meddwl, os edrychwch nôl i’r refferendwm a blwyddyn gyntaf y Cynulliad, roedd llawer o bryder y byddai datganoli yn creu sefydliad na allai ymdopi â’r dasg o reoli gwasanaethau mor fawr ag iechyd ac addysg a llywodraeth leol ac ati. A 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n ymddangos imi o dystiolaeth polau piniwn a ffynonellau eraill bod pobl, ar y cyfan, bellach yn ystyried y Cynulliad fel rhan sefydlog a pharhaol o’r tirlun democrataidd yng Nghymru. Rwy’n credu mai dyna’r cyflawniad unigol mwyaf, efallai.
DM: A phwy sydd wedi cael y budd mwyaf o ddatganoli yn eich barn chi, a pha grwpiau sydd wedi cael y budd lleiaf?
MD: Rwy’n credu bod hwn yn gwestiwn hawdd iawn i’w ateb oherwydd dydw i ddim yn siŵr a allwch chi rannu’r cyfnod datganoli yn y fath ffordd. Mae grwpiau y gallwch ddweud eu bod wedi cael buddiannau uniongyrchol: mae pobl hŷn wedi cael pethau fel tocynnau teithio am ddim ar fysus, mae amseroedd aros cleifion yn y gwasanaeth iechyd wedi lleihau’n sylweddol, roedd economi Cymru wedi perfformio’n well nag economi’r Deyrnas Unedig yn ystod wyth mlynedd cyntaf datganoli ac oherwydd datganoli, mae wedi llwyddo i ddod drwy’r dirywiad mewn cyflwr gwell nag y byddai fel arall efallai. Felly, rwy’n credu ei bod hi’n hawdd nodi’r grwpiau sydd wedi gwneud yn eithaf da allan o ddatganoli.
DM: Iawn.
MD: O ran y grwpiau nad ydynt wedi gwneud cystal, fy marn i, sbo, yw eu bod yn tueddu i gynnwys y grwpiau hynny sydd anoddaf i’w cyrraedd beth bynnag mewn unrhyw fath o ddemocratiaeth neu bolisi cymdeithasol. Felly, mae gennym lawer gormod o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant - mae’n ffigur ystyfnig o uchel. Yn yr un modd, mae gennym gynffon ystyfnig o hir o safbwynt cyflawniadau addysgol mewn rhai o’n hysgolion. Ond mewn rhai ffyrdd, nid yw’r anawsterau hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â datganoli. Mewn unrhyw bolisi cymdeithasol, y ffaith yw bod rhai grwpiau yn anos i’w cyrraedd nag eraill ac y bydd unrhyw ymdrechion i’w cyrraedd yn wynebu anawsterau.
DM: Mae newid mawr wedi digwydd yng Nghymru wrth i’r llywodraeth yn y Cynulliad Cenedlaethol gael ei benyweiddio i ryw raddau. Ydych chi’n meddwl bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cryfhau lleisiau amrywiol?
MD: Ydw, i mi, rwy’n credu mai dyna un o’r cynigion mawr ynglŷn â datganoli sydd wedi cael ei wireddu dros y degawd dilynol. Roedd yn un o’r cynigion o’r cychwyn cyntaf: drwy ddod â’r llywodraeth yn agosach at bobl Cymru, byddai’n haws i amrywiaeth ehangach o leisiau ddylanwadu ar y ffordd y câi’r llywodraeth ei rhedeg yma. Gyda 60 o wleidyddion etholedig y gallwch fynd i’w gweld a’u cyfarfod, mae’n anodd dadlau yn erbyn y cynnig bod modd ymgysylltu mewn ffordd wahanol iawn o gymharu â phan roedd gennych dri gweinidog yn y Swyddfa Gymreig a oedd yn dilyn eu gyrfaoedd yn Llundain i bob pwrpas yn hytrach nag yng Nghymru. Felly mae’n haws cael mynediad. Ac rwy’n meddwl bod y sector gwirfoddol a grwpiau eraill sy’n gysylltiedig â’r llywodraeth ond nad ydynt yn rhan ohoni, wedi buddsoddi’n sylweddol er mwyn dod yn lobïwyr effeithiol ac yn lleisiau effeithiol sy’n cyfrannu at y ffordd y caiff y llywodraeth yng Nghymru ei rhedeg. Felly, rwy’n credu ei fod yn un o’r cynigion sydd wedi cael ei wireddu dros y 10 mlynedd diwethaf.
DM: Felly, ydych chi’n teimlo bod y Cynulliad Cenedlaethol yn llawer mwy agored yn awr i amrywiaeth eang o grwpiau?
MD: Wel, rwy’n meddwl mai’r peth mwyaf addas fyddai dweud ei fod yn llawer mwy agored i gylch penodol. Os meddyliwch am hygyrchedd yn nhermau taflu carreg i ganol pwll o ddŵr gan greu tonnau bach tuag allan, rwy’n credu bod y sefydliadau a’r unigolion hynny a oedd yn y sefyllfa orau i gymryd rhan mewn math o ddemocratiaeth newydd, mwy lluosog yng Nghymru wedi gwneud yn dda iawn, a rhaid eu canmol am y ffordd yr aethant ati i wneud hynny a’r ffordd y mae’r Cynulliad ei hun wedi ceisio ymgysylltu â sefydliadau. Rwy’n credu bod pa mor bell mae’r tonnau bach hynny’n cyrraedd, i ba raddau y maent yn cyrraedd pobl nad ydynt yn ymgysylltu’n barod, yn gwestiynau ychydig yn fwy agored oherwydd rwy’n meddwl, i’r sefydliadau hynny a oedd eisoes â diddordeb ac a oedd yn awyddus i gymryd rhan ac wedi paratoi eu hunain i fod yn effeithiol, does dim amheuaeth bod gennych leisiau a dibenion mwy amrywiol. Pan ewch y tu hwnt i’r cylch hwnnw, mae’n bosibl, wel, na, mae’n sicr bod mwy o bellter i’w deithio.
DM: Ydych chi’n meddwl bod gan y strwythur ei hun, yr adeilad ffisegol, y Cynulliad Cenedlaethol, ddylanwad?
MD: Wel, rwy’n credu bod ganddo ddylanwad i’r bobl sy’n mynd yno. Hynny yw, os ewch yno ar brynhawn dydd Mawrth neu brynhawn dydd Mercher ac eistedd yn y mannau cyhoeddus, fe welwch Aelodau Cynulliad, fe welwch Weinidogion y Cynulliad yn cerdded yn ôl ac ymlaen i’r siambrau, gallwch fynd at bobl â siarad â nhw. Mae’n agored iawn yn hynny o beth. Ac rydym yn lwcus oherwydd does gennym ni ddim yr un problemau diogelwch a phethau eraill sy’n wynebu gwleidyddion sy’n gweithio ar lwyfannau mwy o faint o bosibl - mae ein gwleidyddion yn gwneud eu siopa eu hunain, maen nhw’n gyrru eu ceir eu hunain, maen nhw’n cerdded yr un strydoedd â’r gweddill ohonom, ac mae llai o fwlch rhwng y dinesydd a’r wladwriaeth yn yr ystyr hynny o gymharu â mannau eraill.
DM: Felly, mae gennym y gwahaniaeth hwnnw rhwng Cymru a San Steffan. Ydych chi’n meddwl bod gwahaniaethau eraill o ran polisi cymdeithasol?
MD: Rwy’n meddwl bod gwahaniaethau i’w gweld ym mholisïau cymdeithasol Llywodraethau Cynulliad Cymru, sydd wedi bod mewn grym dros y 10 mlynedd diwethaf, ond mae hynny’n rhannol oherwydd bod natur gwleidyddiaeth yng Nghymru yn wahanol i wleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig. Yn y Deyrnas Unedig, y brif gystadleuaeth dros y blynyddoedd yw rhwng plaid adain dde a phlaid sy’n ystyried ei bod i’r chwith o’r canol. Yn y Cynulliad, mae tri chwarter yr aelodau yn perthyn i bleidiau sy’n dweud eu bod i’r chwith o’r canol, felly mae cystadleuaeth dros syniadau gwleidyddol a gofod gwleidyddol yng Nghymru yn digwydd mewn man gwahanol ar y sbectrwm gwleidyddol. Ac mae hynny’n arwain at fathau gwahanol o ganlyniadau polisi cymdeithasol, yn fy marn i. Felly, er bod pob llywodraeth hyd yma wedi cael ei harwain gan y blaid Lafur, rwy’n meddwl bod rhai o nodweddion neilltuol polisi cymdeithasol yng Nghymru wedi’u gwreiddio mewn syniadau a rennir yn ehangach gan y nifer fawr o bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad. Felly, ar y cyfan, rwy’n credu bod y Cynulliad wedi dangos tuedd o blaid gwasanaethau cynhwysol yn hytrach na gwasanaethau yn dibynnu ar brofion modd lle bo hynny’n bosibl - diddymu taliadau am bresgripsiynau a thaliadau mynediad i amgueddfeydd, trafnidiaeth am ddim i bob`l anabl dros 60 oed, brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd ac ati - mae’r rhain i gyd yn fesurau polisi cymdeithasol cynhwysol a gafodd eu disgrifio unwaith gan Rhodri Morgan fel y glud sy’n helpu i lynu cymdeithas fodern, gymhleth at ei gilydd, gan fod pawb yn awyddus i sicrhau bod y gwasanaethau hynny cystal ag y gallant fod.
DM: Sut bydd datganoli yn y Cynulliad Cenedlaethol yn datblygu, yn eich barn chi? Beth rydych chi’n awyddus i’w weld ac yn disgwyl ei weld yn y dyfodol?
MD: Wel, mae’r dyfodol agos yn dibynnu ar ddau brif beth, sbo. Ar yr un llaw, mae’r posibilrwydd o refferendwm ar ran pedwar o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a fyddai’n trosglwyddo mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad a’i wneud yn debycach i Senedd yr Alban o safbwynt pwerau deddfu, ond nid yn union yr un peth chwaith. Ac mae hwnnw’n gam mawr yn natblygiad datganoli. Yr ail beth a fydd yn digwydd o bosibl yw’r hyn a elwir yn gyd-fyw. Hynny yw, am 10 mlynedd, mae’r un blaid wleidyddol wedi bod mewn grym yng Nghymru ac yn San Steffan, ac er bod tensiwn a thrafodaethau rhwng y lefelau gwahanol hynny o lywodraeth yn aml, rwy’n credu bod y ffaith bod gwleidyddion wedi perthyn i’r un blaid wedi hwyluso’r gydberthynas honno ac wedi gwneud i bethau ddigwydd. Nawr, pwy a ŵyr, os bydd y blaid sydd mewn grym yn San Steffan yn wahanol i’r blaid sydd mewn grym yng Nghymru, bydd hynny’n peri heriau gwahanol i wleidyddion yma ac yn San Steffan, dybiwn i. Mae’n rhan o broses aeddfedu democratiaeth yma yng Nghymru. Mae’n rhaid i bob sefydliad newydd aeddfedu gryn dipyn a byddwn i’n tybio bod y Cynulliad yn dal i fynd drwy’r broses honno.
DM: Wel, diolch yn fawr am eich barn ar ddatganoli yng Nghymru. Mae wedi bod yn bleser cwrdd â chi a diolch yn fawr.
MD: Iawn. Diolch yn fawr iawn.
Diben delwedd Rhodri Morgan o ‘clear read water’ yw dangos bod fframwaith cytundeb cyffredin yng Nghymru, sy’n cynnwys tueddiadau ac amcanion o’r canol i’r chwith yn bennaf, sy’n arwain at fath llai gwrthwynebol o wleidyddiaeth sy’n gwahanu Cymru oddi wrth nodau a dulliau rhannau eraill o’r DU, yn enwedig Lloegr. Un ffordd y gellir defnyddio’r safbwynt hwn i gael effaith wirioneddol yw ei ddefnyddio i arfer pŵer y feto - hynny yw, gwahardd datblygiadau y teimlir eu bod yn anghydnaws ag ethos llunio a chyflawni polisïau yng Nghymru. Defnyddiwyd y dechneg hon yn erbyn llywodraeth Llafur Newydd a llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Er enghraifft, mae pob ymdrech i ymestyn rôl y sector preifat wrth ariannu datblygiadau cyfalaf mawr (y Fenter Cyllid Preifat) neu breifateiddio darpariaeth gofal iechyd (Ysbytai Sefydledig) neu addysg (Academïau ac Ysgolion Am Ddim) wedi cael ei datgan i fod yn anaddas i amodau Cymru. Wrth siarad â newyddion y BBC yn 2004, ailbwysleisiodd Rhodri Morgan nad oedd model yn seiliedig ar ddewis cystadleuol a darpariaeth drwy’r farchnad yn gweddu i ddaearyddiaeth na gwerthoedd cymdeithasol Cymru (Moon 2013, t. 311). Ei bwynt am ddaearyddiaeth Cymru oedd bod llawer o gymunedau bach ond nad oedd llawer o ganolfannau trefol, a olygai bod angen ymdrin â gwasanaethau mewn ffordd wahanol i Loegr. Am y rheswm hwn, roedd angen model mwy lleol, a fyddai’n diwallu anghenion cymunedau penodol, yn hytrach na rhoi mwy o ddewisiadau i unigolion, a dyma oedd y rheswm dros y penderfyniad i sefydlu 22 o fyrddau iechyd lleol, un i bob awdurdod lleol, yn lle’r pum awdurdod iechyd. Mewn cyd-destunau eraill, mae’r ddadl yn erbyn cystadleuaeth wedi cael ei defnyddio i wrthsefyll newidiadau a allai chwalu ac amrywio darpariaeth yng Nghymru. Er enghraifft, mae’r system addysg gyfun (a sefydlwyd yn gynharach ac mewn ffordd fwy cynhwysfawr yng Nghymru nag yn Lloegr) wedi cael ei hamddiffyn rhag yr arbrofion amrywiol a oedd yn ceisio gwanhau pŵer awdurdodau addysg lleol yn Lloegr.
Ar adegau eraill, rhoddwyd mentrau polisi newydd ar waith sy’n wahanol i fodelau Lloegr am eu bod wedi’u ‘Gwneud yng Nghymru’ a’u haddasu i amodau Cymru. Er enghraifft, mae Moon (2013) yn disgrifio’r penderfyniad i roi blaenoriaeth i agenda iechyd y cyhoedd a fyddai’n mynd i’r afael â chyflwr iechyd gwael a lefelau uchel o salwch hirdymor yng Nghymru, drwy ddulliau anuniongyrchol (addysg dda, trafnidiaeth, tai a chyflogaeth) yn ogystal ag uniongyrchol (prydau bwyd am ddim mewn ysgolion cynradd, archwiliadau deintyddol am ddim i’r grwpiau oedran hynaf ac ieuengaf a phresgripsiynau meddygol am ddim), yn hytrach na thargedu amseroedd aros ysbytai ac ymyriadau meddygol. Roedd y penderfyniad i beidio â defnyddio tablau cynghrair ar gyfer ysgolion na chyfundrefn i brofi cyflawniad yn rheolaidd yn arwydd o wrthwynebiad i ddiwylliant o dargedau hefyd.
Darllenwch fwy ynglŷn â’r syniad nad yw dewis o ran y GIG yn berthnasol i Gymru.
Yn fwy diweddar, gan ddefnyddio ei phwerau newydd i basio deddfau Cymreig, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno Deddf Tai a gafodd gefnogaeth unfrydol gan y Cynulliad am ei hegwyddorion cyffredinol. Ymhlith yr egwyddorion hyn mae rheoleiddio’r sector rhentu preifat yn fwy, pwerau lleol cryfach i ddelio â digartrefedd, dyletswydd i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, a phwerau i godi mwy o dreth gyngor ar eiddo gwag. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i helpu i adeiladu 7,500 o gartrefi fforddiadwy a sicrhau bod 5,000 o gartrefi gwag eraill yn cael eu defnyddio unwaith eto dros y pedair blynedd nesaf, gan weithio’n bennaf â’r sector tai cymdeithasol a chydweithredol. Mae’r syniadaeth y tu ôl i’r cynigion hyn yn wahanol iawn i’r gwerthoedd a’r amcanion sy’n sail i bolisïau tai yn San Steffan, sy’n rhoi pwyslais ar ddarpariaeth y sector preifat ac yn cynnwys cosbau caethiwus i denantiaid preifat sy’n byw ar fudd-daliadau. Wrth gyflwyno’r Bil, dywedodd Gweinidog Tai Cymru, ‘A decent, affordable home is a vital part of everyone’s life. The benefits go way beyond the roof over our heads. It’s central to good health and well-being. A good home represents the best possible start in life for children, and is the foundation for strong, safe and fair communities. It also has an important role to play in the economy.‘
Mae’r penderfyniad i gadw’r lwfans cynhaliaeth addysg i bobl ifanc (a ddiddymwyd yn Lloegr) a phennu ffioedd dysgu is i fyfyrwyr prifysgol Cymreig o gymharu â Lloegr yn dystiolaeth o’r ymrwymiad i sicrhau mynediad cyfartal i addysg. Caiff myfyrwyr sy’n preswylio yng Nghymru grant nad oes angen iddynt ei ad-dalu o hyd at £5,300 ar hyn o bryd, tuag at eu ffioedd prifysgol. Mae hyn yn golygu tra bod yn rhaid i fyfyrwyr addysg uwch (AU) o Loegr dalu hyd at £9,000 y flwyddyn mewn ffioedd, dim ond £3,700 y mae myfyrwyr Cymreig yn ei dalu. Yng nghyd-destun y DU, mae’r penderfyniad hwn yn creu nifer o anghysondebau diddorol. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i fyfyrwyr o’r UE sy’n mynd i brifysgolion yng Nghymru gael yr un cymhorthdal â myfyrwyr o Gymru; ond mae’n rhaid i fyfyrwyr o Loegr dalu’r ffi lawn o £9,000. Gall myfyrwyr o Gymru ddewis defnyddio eu grant er mwyn astudio mewn prifysgolion yn Lloegr. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod mwy yn dewis gwneud hynny, tra bod ceisiadau gan fyfyrwyr Cymreig i brifysgolion yng Nghymru wedi lleihau. Mae academyddion Cymreig yn honni bod hyn yn golygu bod sefydliadau AU yng Nghymru yn colli mwy na £30 miliwn y flwyddyn o bosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod Cymru yn derbyn mwy drwy’r arian y mae myfyrwyr o rannau eraill o’r DU yn ei wario yng Nghymru. Yn yr Alban, mae preswylwyr yn cael cymhorthdal, ond dim ond os ydynt yn astudio mewn prifysgolion yn yr Alban (ac yn draddodiadol, mae llawer mwy ohonynt yn gwneud hynny). Mae’r academydd Cymreig sydd wedi cynnal dau adolygiad o drefniadau ariannu AU i Lywodraeth Cymru yn gwneud pwynt arall mai plant y dosbarthiadau canol Cymreig sy’n cael y budd mwyaf o’r polisi ac y gellid gwario’r arian yn well ar ymestyn cyfranogaeth. Gellid gwneud pwynt tebyg am oblygiadau presgripsiynau am ddim i bawb a chardiau teithio rhatach o ran ailddosbarthu’r tlawd a’r cyfoethog. Mae goblygiadau diddorol, ac anfwriadol weithiau, i benderfyniadau o’r fath.
Mae’r enghreifftiau a drafodir yn Universities in Wales call for funding review over cash drain yn dangos bod llawer o dystiolaeth i ddangos bod bwlch cynyddol rhwng y polisïau a gaiff eu llunio a’u rhoi ar waith ar y naill ochr i Glawdd Offa a’r llall. Caiff y datblygiadau hyn eu disgrifio a’u dadansoddi mewn corff o lenyddiaeth gonfensiynol a digidol, sy’n tyfu’n gyflym.
Er mwyn gweld dadl bod angen mwy o ddychymyg wrth ddefnyddio’r pwerau sydd bellach ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn creu dŵr coch gwirioneddol glir, darllenwch gyfraniad John Osmond i gynhadledd yn 2010 ar gydberthnasau rhwng y Taf a’r Tafwys'’
Am sylwadau ar hyn, ewch i Atodiad 4
Yn ei araith yn 2002, mynegodd Rhodri Morgan ei obeithion y byddai datganoli yn creu amodau tebyg i labordy, lle gallai tiriogaethau ddysgu gwersi gwerthfawr o arloesedd ac arbrofion mewn tiriogaeth ddatganoledig arall. Fodd bynnag, pan fo gan weinyddiaethau safbwyntiau gwleidyddol ac ideolegol gwahanol, mae hyn yn annhebygol o ddigwydd. Yn lle hynny, mae gwahaniaethau polisi yn achosi dadlau.
Mae iechyd ac addysg yn enwedig wedi dod yn feysydd brwydro gwleidyddol sydd wedi creu cynnen ledled y DU. Cyrhaeddwyd isafbwynt o bosibl pan ddywedodd Prif Weinidog y DU, wrth annerch cynulleidfa o Geidwadwyr Cymreig, fod Clawdd Offa wedi dod i ddynodi’r llinell rhwng bywyd a marwolaeth, ymosodiad a ailadroddodd yn ystod Sesiwn Gwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin. Cyfeirio ydoedd at wahaniaethau honedig rhwng amseroedd aros ysbytai yng Nghymru a Lloegr a gwahaniaethau yn y trefniadau i ariannu gofal canser. Yn yr un araith, tynnodd sylw hefyd at broblemau o ran cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru, gan gyfeirio at ddata cymharol rhyngwladol (Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol OECD, neu PISA) a oedd yn dangos bod plant yng Nghymru yn syrthio ar ei hôl hi, gan berfformio’n waeth na’r cyfartaledd mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Yn ystod y dadlau dilynol, gwnaeth y ddwy ochr ddefnydd dethol o dystiolaeth er mwyn profi eu hachos, gan adlewyrchu blaenoriaethau a safonau barnu gwahanol. Codwyd amheuon ynglŷn â dilysrwydd ystadegau PISA, a chyfeiriwyd at adroddiad gan Sefydliad Nuffield, The Four Health Systems of the UK: How do they compare? (2014), ar sail ei gasgliad na ellid dweud bod unrhyw un o bedair gweinyddiaeth y DU [Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon] naill ai’n gyson ar y blaen neu’n syrthio ar ei hôl hi; roedd y pedwar wedi gwella eu perfformiad a ‘despite hotly contested policy differences in structure, targets, competition, patient choice and the use of non-NHS providers, no one country is emerging as a consistent front-runner’. Lluniodd sylwebyddion yng Nghymru gymariaethau anffafriol rhwng model addysg Lloegr ‘driven by antagonism and competition’ a chred mewn system gyfun Cymru sy’n ‘delivers for all our children.' Annhegwch fformiwla Barnett a gafodd y bai am dangyllido mewn ysgolion yng Nghymru.
Datganoli ariannol