Ffynonellau gwybodaeth perthnasol

Mae dwy brif felin drafod yn gweithio yn y maes hwn yng Nghymru:

Mae gan y Sefydliad Materion Cymreig (http://www.iwa.org.uk/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) archif fawr sy’n cynnwys darlithoedd, adolygiadau o lyfrau a blogiau sy’n cynnwys gwybodaeth a sylwadau ar hynt datganoli yng Nghymru, ynghyd â llawer o ddeunydd arall ar gyd-destun economaidd a chymdeithasol Cymru. Cyfarwyddwr y Sefydliad rhwng 1996 a 2013 oedd John Osmond, a oedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch dros ddatganoli yng Nghymru ac sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac erthyglau ar hynt datganoli.

Mae Sefydliad Bevan (http://www.bevanfoundation.org/) yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud ag anghyfiawnder, tlodi ac allgau, a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n llunio adroddiadau swmpus sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’i wefan. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys astudiaeth ar ddyfodol y sector gwirfoddol yng Nghymru a’r ail draethawd mewn cyfres o draethodau ar Senedd Cymru, sy’n edrych ar rôl newidiol pwyllgorau’r Cynulliad.

Mae dau brif sefydliad academaidd yn gwneud gwaith ar Gymru, ac mae llawer o’r gwaith hwn ar gael yn gyhoeddus:

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru (http://sites.cardiff.ac.uk/ wgc/), ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gwneud ymchwil i gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru a chyd-destunau llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop. Yn ogystal â llunio llyfrau a phapurau academaidd, mae gwefan y Ganolfan yn cynnwys gwybodaeth a deunydd ar ddarlithoedd, cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau a gynhelir ganddi.

Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD: http://www. wiserd. ac. uk/), a ariannwyd ers 2008 gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU i gynnal gwaith ymchwil a hyfforddiant ym maes y gwyddorau cymdeithasol sy’n berthnasol i Gymru. Sefydliad cydweithredol yw hwn rhwng pum prifysgol yng Nghymru; mae cyhoeddiadau ac adroddiadau gan ei aelodau a’i aelodau cyswllt ar gael ar y wefan. Mae’r prosiectau mawr sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys ymchwiliad gwerth £7 miliwn i gymdeithas sifil a gwerthusiad o raglen addysg Blynyddoedd Sylfaen Llywodraeth Cymru.