Tudalen y gellir ei hargraffu a gynhyrchwyd Wednesday, 21 August 2019, 8:29 PM

Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol

Cyflwyniad

Yn y gyfres hon o bedwar cyfweliad, byddwch yn gwylio defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, gweithiwr cymdeithasol a rheolwr gwaith cymdeithasol yn siarad am eu profiadau gwahanol. Bydd y cyfweliadau'n dangos pwysigrwydd gwrando ar storïau pobl, pwysigrwydd cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol a phwysigrwydd cyd-destun yr ymarfer gwaith cymdeithasol. Byddwch yn ystyried cwestiynau am y cyfweliadau ac yn myfyrio ar oblygiadau'r hyn sydd gan yr unigolion i'w ddweud ar gyfer ymarfer.

Er y gallwch ddefnyddio'r cyfweliadau fideo hyn fel adnoddau annibynnol, maent hefyd yn ategu'r cyrsiau ar-lein am ddim Cyflwyniad i waith cymdeithasol, lle gallwch ddarllen mwy am weithio gydag unigolion a phwysigrwydd bywgraffiadau, a Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru, lle byddwch yn dysgu am bwysigrwydd y cyd-destun Cymreig a'i effaith ar waith cymdeithasol yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.

Os hoffech astudio'n ffurfiol â ni, efallai y byddwch am ystyried cyrsiau eraill sydd gennym yn y maes pwnc.

Deilliannau dysgu

Ar ôl astudio'r uned hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • meddwl am effaith bywgraffiadau ar fywydau personol
  • ystyried rôl cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol
  • ystyried pwysigrwydd y cyd-destun mewn ymarfer gwaith cymdeithasol.

Cyfweliadau fideo

Dylech dreulio tua 45 munud ar y dasg hon. Wrth ichi wylio'r fideos, nodwch brofiadau bywyd gwahanol y siaradwyr. Ar ôl gwylio'r fideos, atebwch y cwestiynau isod.

Siân Parry, Defnyddiwr Gwasanaeth

Download this video clip.Video player: sian_parry.mp4
Skip transcript

Transcript

Cefais fy ngeni yn Stoke-on-Trent yn Lloegr. Roedd Mam a Dad yn dod o Gymru, ac yn siarad Cymraeg, ond roedd Dad yn digwydd bod yn gweithio yn Lloegr ar y pryd. Dychwelais i Gymru pan oeddwn tua thair blwydd oed. Rwyf wedi byw yn y gogledd ers hynny. Bûm yn gweithio yn Llundain am gyfnod byr. Roeddwn yn gweithio gyda'r heddlu yno am tua dwy flynedd. Rwyf wedi cael dipyn o swyddi gwahanol. Bûm yn gweithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn y gogledd am tua phum mlynedd.

Ar ôl cael plant, es i'r coleg yng Ngogledd Cymru er mwyn hyfforddi i fod yn athrawes. Rwyf wedi bod yn sâl ers dros ugain mlynedd bellach. Ond newidiodd pethau'n fawr ar ôl i mi oddef methiant ar yr arennau. Bûm yn gweithio rhan amser am gyfnod. Daeth pethau'n anoddach i mi yn yr ysgol. Roedd yn rhaid i mi gwtogi fy oriau ac, yn y pen draw, rhoddais y gorau i weithio.

Mae popeth yn newid yn gyfan gwbl pan ydych chi ar ddialysis oherwydd eich bod yn gaeth i'r ysbyty bob dydd Llun, Mercher a Gwener. Mae'n straen fawr a dweud y gwir. Mae wedi bod yn newid anferthol i mi i fynd o fywyd prysur iawn i fywyd sy'n llawer mwy tawel. Mae'n cymryd amser i ddod i arfer â'r ffaith nad ydych chi'n ddigon iach i fynd i'r gwaith. Y gwaith oedd popeth i mi. Dyna lle'r oedd fy ffrindiau, dyna'r oeddwn yn ei wneud.

Fel athro, rydych yn ysu am y gwyliau. Ond roedd gennyf yr holl amser sbâr hwn a dim byd i'w wneud. Roeddwn yn ffodus iawn oherwydd cefais help gan yr ysbyty yn syth. Oherwydd fy mod yn cael triniaeth dialysis gartref ar y dechrau, roedd tipyn o gyswllt. Mae tîm o nyrsys yr arennau sy'n gofalu amdanoch. Maent yn dod i'r tŷ ac yn eich helpu i roi trefn ar bethau. Ond dim ond am tua phum mlynedd y gallwn wneud hynny. Yn ystod y cyfnod hwn y cefais fy ngweithwraig gymdeithasol gyntaf. Rodd hi'n dda iawn gyda'r plant a'r teulu hefyd. Roeddent yn eu harddegau ar y pryd, ac nid yw ymdrin â phobl ifanc yn eu harddegau fyth yn hawdd. Roeddwn yn sâl ac roedd hynny'n anodd iawn iddynt. Roeddent yn gallu siarad â hi am y salwch, yn ogystal â mi. Roedd hi'n gefn i ni i gyd fel teulu.

Mae siarad â meddyg neu nyrs yn anodd. Mae ganddynt agwedd gwbl wahanol. Pan ddaeth hi yma, roeddwn yn gallu dweud wrthi am yr hyn a oedd yn fy mhoeni mewn gwirionedd. Roedd hi'n help mawr i mi. Er fy mod wedi bod yn goddef o sawl math gwahanol o salwch, doeddwn i ddim yn gallu hawlio bathodyn glas. Doeddwn i ddim yn cael Lwfans Byw i'r Anabl na dim byd felly. Roeddwn yn gymwys i'w gael pan oeddwn yn gweithio'n rhan amser ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli hynny. Roeddwn yn rhy sâl i feddwl am bethau felly. Yn ariannol, roeddwn dan straen enfawr. Daeth hi heibio i weithio ar y pethau hynny i mi, ac ar fy rhan, pan nad oeddwn yn gallu llenwi'r ffurflenni dychrynllyd hynny fy hun. Roedd pethau'n llawer haws pan oedd hi'n gweithio arnynt gyda mi.

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael gweithiwr cymdeithasol sy'n siarad Cymraeg yn rhugl. Rwyf hefyd wedi cael gweithiwr cymdeithasol nad oedd yn siarad Cymraeg ond a oedd yn barod i ddweud "Bore da". Mae'n beth syml iawn ond mae'n gwneud gwahaniaeth mawr o ran ethos. Mae'n gwneud i chi deimlo'n gyfforddus iawn. Mae rhai aelodau o staff yn gwisgo bathodynnau i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg. Mae hynny'n braf oherwydd ei bod yn hawdd siarad Cymraeg â hwy os ydych chi'n gweld y bathodyn hwnnw. Rwy'n credu fod y gwasanaeth Cymraeg yn hanfodol am ei bod yn bwysig i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae'n agos iawn at fy nghalon. Rwy'n siarad Cymraeg â'm teulu a phlant bach. Mae'n naturiol i mi wneud hynny. Mae'n rhyfedd, os ydych chi'n dechrau siarad Saesneg â rhywun yna byddwch yn siarad â hwy yn Saesneg bob amser. Does dim rheswm pam na ddylem ni i gyd siarad ychydig o Gymraeg. Wedi'r cyfan, Cymry ydyn ni, ynte?

End transcript
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mr Howell Mudd, Gofalwr

Download this video clip.Video player: hscres_1_mrmudd.mp4
Skip transcript

Transcript

Mae fy mywyd wedi bod yn ddiddorol iawn. Cefais fy ngeni yn Neuaddlwyd, ger Aberaeron. Symudais i Fanc y Ffordd, a dyna lle y cefais fy magu. Mis es i Ysgol Cynwyl Elfed ac yna i Ysgol y Grange, Caerfyrddin. Ysgol uwchradd. Ar ôl gadael yr ysgol, treuliais beth amser yn Torquay, Dyfnaint. Symudais wedyn i fyw ger Llundain. Ar ôl hynny, cefais swydd gyda chwmni yn Birmingham. Roeddwn yno am dipyn. Roedd llawer o streiciau ar y pryd yn y diwydiant ceir am eu bod yn adeiladu rhannau ceir gan ddefnyddio peiriannau.

Mi es i weithio yn Sain Ffagan, ger Caerdydd, yn yr amgueddfa. Yna mi es i'r gwasanaeth gweinidogaethol. Cefais fy ordeinio yng Nghilcennin, ger Aberaeron. [INAUDIBLE] Symudais i Wynfryd yn Rhydaman ac yna i eglwys yng ngogledd Sir Benfro. Ymddeolais yn ôl yma nes i'm gwraig golli ei hiechyd. Aeth Mary i mewn ar 14eg Ebrill. Mae'n hapus iawn yno. Dydy hi ddim efallai'n deall ble y mae. Weithiau, dydy hi ddim yn fy adnabod i. Gwnaethant benderfynu mai'r opsiwn gorau iddi fyddai mynd i mewn i ofal parhaus. Mae'n hapus iawn yno. Y rheswm pam ei bod yn hapus yw am fod canolfan ddydd yn Rhydaman.

Bob dydd, ar ôl i'r gofalwyr fod yn gofalu amdani, mae'n mynd i lawr i'r ganolfan ddydd. Mae wedi dod i adnabod y staff a'r bobl eraill sy'n mynd yno. Yr unig wahaniaeth yw nad yw hi'n cysgu gartref. Mae'n mynd i'r ganolfan ddydd bob dydd o'r cartref gofal. Oherwydd hynny, mae'n hapus yn cymdeithasu â phobl eraill. Mae pethau'n hawdd, ond mae rhai pethau wedi newid hefyd. Mae'n haws oherwydd rwy'n gallu cysgu'r nos, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud hynny o'r blaen. Oherwydd ei chyflwr, byddai'n deffro ac yn cerdded o gwmpas.

I ryw raddau mae'n haws, ond maen anodd iawn hefyd oherwydd rwyf ar ben fy hun nawr. Rwy'n eistedd yma weithiau ac yn meddwl ei bod hi yma, ond dydy hi ddim. Rwy'n credu fy mod i'n gallu ei chlywed yn siarad fel yr oedd hi'n arfer ei wneud. Weithiau byddai'n siarad drwy'r nos. Weithiau, alla i ddim cysgu oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n dal yma. Mae'n brofiad rhyfedd. A dweud y gwir, rwy'n ei chael hi'n anodd oherwydd roeddem yn hapus gyda'n gilydd. Fydden ni byth yn mynd allan heb ein gilydd oherwydd dyna natur y weinidogaeth. Roedd yn athrawes ysgol Sul. Roedd hi'n anodd gwneud y penderfyniad, ond cynghorodd y nyrs seiciatrig gymunedol a'r gweithiwr cymdeithasol mai dyna'r opsiwn gorau iddi hi. Dydyn ni ddim yn delio â gweithwyr cymdeithasol yn y weinidogaeth. Rwy'n sylweddoli mai eu diben yw helpu pobl. Maent yn mynd i gartrefi preswyl. Rwy'n meddwl weithiau fod ganddynt ormod o gymwysterau heb ddigon o brofiad ymarferol.

Byddwn yn meddwl y byddai angen cydymdeimlad a doethineb i ddelio â'r henoed. Mae hynny'n bwysicach na darn o bapur sy'n dangos eich bod wedi sefyll yr arholiadau cywir. Oherwydd eu cyflwr, mae'r cleifion eu hunain yn meddwl bod angen cydymdeimlad a doethineb arnoch i allu delio â nhw. Rydw i wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd bellach, ac mae'n gallu bod yn anodd. Gallwch fod yn ddiamynedd weithiau. Ond mae angen i chi fod yn amyneddgar a deall y claf ei hun. Mae angen i chi gael gwasanaethau Cymraeg i'r henoed. Honno yw eu hiaith. Pan oedden nhw'n cael eu magu, doedd dim llawer o Saesneg. Mae gweithwyr cymdeithasol sy'n siarad Cymraeg yn hanfodol. Dydw i ddim wedi cael unrhyw rai fy hun. Pe bawn i wedi aros gartref, efallai y byddwn wedi cael problemau deall Saesneg. Ond gan fy mod wedi bod i ffwrdd, gallwn eu deall yn iawn. Doedd dim byd o'i le ar yr ychydig iawn o wasanaeth Cymraeg a gefais, ond aeth rhywbeth ar goll rhwng meddwl yn Gymraeg a siarad yn Saesneg.

End transcript
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mags Jones, Gweithiwr Cymdeithasol

Download this video clip.Video player: hscres_1_mags.mp4
Skip transcript

Transcript

Ceisiais ddod o hyd i swydd, ond, wrth gwrs, doedd gen i ddim unrhyw brofiad. Felly, penderfynais wneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda'r Samariaid. Menter Ieuenctid oedd enw'r prosiect, rwy'n credu. Roeddwn yn gweithio gyda'r henoed. Roeddent yn paru pobl hŷn â phobl iau. Mae'r syniad yn bodoli ym maes gwaith cymdeithasol bod gennych rywun arall y tu allan i'r gwaith, ond nonsens yw hynny.

Llwyddais i gael swydd fel cynorthwy-ydd lles yng Ngorllewin Morgannwg. Yn Nhreforys, ger Abertawe. Mi es i ymlaen wedi hynny i fod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig, ac yna i Rydychen i ennill fy CQSW. Mi ddes i yn ôl i Gaerfyrddin yn 1984. Fel gweithiwr cymdeithasol, gallwch helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau. A bod yn gefn i bobl sy'n pryderu.

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu, pobl â phroblemau, pobl sy'n pryderu. Mae'n fraint bod yn gefn i bobl sy'n pryderu a gwneud gwahaniaeth. Mae'n rhaid i chi neilltuo amser i siarad am eich teimladau. Gall y gwaith hwn eich rhoi o dan bwysau, ac rydych yn aml yn mynd ag ef adref gyda chi. Rydych yn pryderu ac yn cael trafferth cysgu. Mae'n bwysig ymdrin â theimladau'r gweithiwr fel rhan o'r broses oruchwylio.

Mae angen amser arnoch i deimlo eich bod yn bwysig a bod eich gwaith yn bwysig. Ni ddylech fyth teimlo cywilydd cyfaddef eich bod yn cael trafferth ymdopi. Pan fydd lefelau straen yn uchel, mae'r llwyth achosion yn ormod. Does dim arian neu mae rhywun wedi bod yn galw arnaf am rywbeth. Mae'n bwysig bod y drws bob amser ar agor. Mae'n rhaid i chi fod yn agored ac mae'n rhaid i chi barchu pobl. Efallai bod dewisiadau ffordd o fyw rhai pobl yn wahanol i'ch rhai chi. Mae'n bwysig derbyn pobl fel y maent a'u parchu heb feddwl am eu lliw, eu credoau na'u tueddiadau rhywiol. Mae'n rhaid i chi fod yn anfeirniadol ac mae angen synnwyr digrifwch arnoch hefyd. Mae'n rhaid i chi allu eich rhoi eich hun yn sefyllfa rhywun arall hyd yn oed os nad ydych erioed wedi cael y profiad hwnnw, er enghraifft petai rhywun yn pryderu y gall ei blant gael eu cymryd i mewn i ofal. Dydw i ddim wedi cael profiad o hynny, ond rwy'n gwybod sut deimlad yw bod yn bryderus.

Rwy'n gwybod sut deimlad yw colli rheolaeth dros amgylchiadau eraill yn fy mywyd. Mae'n rhaid i chi wneud eich gorau i roi eich hun yn eu hesgidiau nhw. Mae'n bwysig defnyddio eich personoliaeth. Cefais brofiad sawl blwyddyn yn ôl, cyn i mi ddechrau gweithio mewn timau. Byddech yn mynd i weld pobl am awr gyda'ch dyddiadur yn eich llaw. Roeddwn yn gweithio yn Llundain, mewn uned llety hanner ffordd. Byddai pobl yn mynd yno ar ôl dod allan o ysbyty seiciatrig cyn mynd allan i'r gymuned. Roedd hwnnw'n brofiad gwahanol iawn, ond yn brofiad da. Cymerodd dipyn o amser i mi sylweddoli bod yn rhaid i chi ddefnyddio eich personoliaeth, am 3 o'r gloch y bore, os ydynt yn cael hunllef, neu 2 o'r gloch y pnawn, pan rydych yn chwarae snwcer.

Roeddwn yn cwnsela ac yn gwneud llawer o waith grŵp. Ond roedd yn bwysig bod yn anffurfiol weithiau a defnyddio eich personoliaeth. Rwy'n credu bod Sir Gaerfyrddin yn un o'r mannau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad fwyaf. Mae'n bwysig i mi fy mod yn gallu defnyddio fy iaith gyntaf. Wnes i ddim dysgu Cymraeg yn yr ysgol, hon yw fy iaith gyntaf. Mae'n bwysig cael y cyfle hwnnw a bod pobl yn gallu dewis.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig rhoi dewis i bobl. Does gan lawer o'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ddim llawer o reolaeth dros eu bywydau eu hunain. Mae hyn yn rhoi opsiwn iddynt. Rwy'n dwli arni beth bynnag, rwy'n teimlo ei bod yn dileu rhwystrau. Cyn gynted ag y byddwch yn cnocio ar ddrws rhywun gallwch ddweud oddi wrth ei acen a yw'n siarad Cymraeg ai peidio. Yn y sir hon, ac yn y gwaith, mae gennym lond llaw o bobl sydd ond yn siarad Cymraeg. Mae hynny'n hyfryd hefyd. Rwy'n credu bod y Gymraeg yn dechrau dod yn fwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc a phlant. Mae'n hollbwysig bod gweithwyr cymdeithasol ar gael sy'n siarad Cymraeg, yn enwedig yng Nghymru.

End transcript
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Linda Thomas Newman, Rheolwr Gwaith Cymdeithasol

Download this video clip.Video player: hscres_1_linda.mp4
Skip transcript

Transcript

Roeddwn i'n arfer gweithio fel ysgrifennydd sgriptiau ar gyfer y teledu. Fel rhan o'm gwaith, ymchwiliais i rôl gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda phlant. Siaradais â gweithwyr cymdeithasol i weld sut roedd plant sy'n cael eu cam-drin yn ymddwyn a pha arwyddion i gadw golwg amdanynt. Roedd yn ddiddorol iawn.

Roedd y swydd ei hun yn swnio'n well nac ysgrifennu amdani. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod gen i gefndir yn y maes. Roedd fy nhad yn anabl, ac roedd fy mrawd yn dioddef o Syndrom Down's. Roeddwn i'n gyfarwydd â gweld gweithwyr cymdeithasol yn y tŷ. Mae goruchwyliaeth yn bwysig i weithwyr cymdeithasol, yn enwedig i weithwyr cymdeithasol newydd, er mwyn gwybod eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi.

Yn aml mae pobl yn gweithio oriau hir. Maent yn arwyr di-glod yn gweithio allan yn y gymuned. Mae'n bwysig eu bod yn gallu dweud - "Rydw i wedi gwneud hyn a hyn!" a bod rhywun yn cydnabod eu gwaith da. Mae hefyd yn gyfle iddynt siarad am unrhyw beth a all fod wedi codi - pethau sydd wedi peri pryder iddynt, neu efallai hyd yn oed wedi eu gofidio.

Mae'r gwaith rydym yn delio ag ef yn gallu bod yn drist iawn. Mae'n gallu bod yn drasig. Mae'n bwysig eu bod yn trafod eu teimladau fel nad ydynt yn mynd â nhw adref gyda nhw. Mae'r egwyddorion yng nghod ymarfer Cyngor Gofal Cymru yn bwysig. Mae egwyddorion personol hefyd - pa fath o berson rydych. Mae'n rhaid i chi barchu unigolion sydd â phroblemau neu anableddau. Mae'n rhaid i chi barchu'r ffaith bod pobl yn wahanol a pheidio â bod yn rhagfarnllyd. Doeddwn i byth yn meddwl fy mod i'n berson rhagfarnllyd. Ond pan oeddwn yn hyfforddi, gofynnodd y tiwtor, "Pa ragfarnau sydd gennych?" Rwy'n cofio meddwl "Does gen i ddim." Ond mae gan bob un ohonom ein rhagfarnau ein hunain ac mae'n bwysig ein bod yn eu hanwybyddu. Efallai y gallwch siarad amdanynt yn y broses oruchwylio. Dylech gyfaddef eu bod yn bodoli a'u bod yn eich pryderu. Mae'n hollbwysig eich bod yn berson gonest a diffuant a'ch bod yn ceisio gwneud eich gorau dros y person. Does dim ots beth rydych chi ei eisiau. Y person sy'n bwysig.

Er mwyn bod yn weithiwr cymdeithasol da, beth rwy'n chwilio amdano. Roeddwn yn rhan o banel cyfweld unwaith. Gallwch weld personoliaeth person cyn iddo ddechrau ateb y cwestiynau. Rydym yn chwilio am bobl sy'n onest, yn naturiol ac yn gyfforddus gyda phobl; pobl sydd â diddordeb mewn pobl ac sydd am wrando ar eu stori. Mae sgiliau gwrando yn bwysig iawn. Rwyf hefyd yn chwilio am rywun sy'n broffesiynol; rhywun sy'n gyfarwydd â'r gyfraith a pholisïau ac sy'n deall strwythur y cyngor. Pan fyddwn yn gwneud ein gwaith, mae gennym rôl bwysig i'w chwarae o fewn y gyfraith. Rhaid i'r person gymryd cyfrifoldeb am ansawdd ei waith - cymryd cofnodion, sgiliau asesu, asesu risg. Rhaid iddo ddeall ei rôl yn llwyr. Daw proffesiynoldeb pan fydd rhywun yn deall ei rôl.

Mae gweithio yng Nghymru yn wahanol am ei bod yn wlad ddatganoledig. Mae strwythur y ddeddfwriaeth yn wahanol iawn i Loegr a'r Alban. Rydw i'n weithiwr cymdeithasol iechyd meddwl. Mae ein cod ymarfer ar gyfer iechyd meddwl yn wahanol i'r un yn Lloegr. Er mai gwahaniaethau bach ydynt, maent yn bwysig, ac mae'n rhaid i chi fod yn gyfarwydd â nhw. Mae'r ffordd rydych yn cymhwyso'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn wahanol yn Lloegr. Mae'n bwysig cydnabod bod gwahaniaethau. Dydyn ni ddim yr un fath â Lloegr a'r Alban. Mae ganddynt wahaniaethau bach yn eu deddfwriaeth. Hefyd, mae'r traddodiadau sydd gennym yng Nghymru, yr iaith a'r math o wlad sydd gennym, yn effeithio ar y ffordd rydym yn gweithio. Mae gennym ardaloedd sy'n ddinesig a rhai sy'n wledig tu hwnt.

Mae'n bwysig bod defnyddwyr gwasanaethau yn gallu dewis eu hiaith. Mae ganddynt yr hawl i wneud hynny fel unigolion sy'n byw yng Nghymru. Mae'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw yn profi argyfwng personol. Rydych yn teimlo'n agos atynt yn syth. Maent yn ymddiried ynoch yn syth. Mae'n digwydd, mae pobl yn ymlacio'n syth pan fyddant yn sylweddoli eich bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae pobl yn gallu dweud beth sy'n eu poeni. Maent yn gallu mynegi eu hunain yn well yn eu hiaith eu hunain. Os gallant ddweud wrthych beth sydd o'i le, a dweud wrthych beth sydd ei angen arnynt, gallwch gynnal eich asesiad yn well. Rydych yn cael y gwir yn hytrach na thrafferth ymdopi ag iaith nad ydynt yn gyfarwydd â hi.

End transcript
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Pa ddigwyddiadau neu drobwyntiau a effeithiodd ar fywydau'r unigolion yn y fideos?

Gwnewch rai nodiadau am eich bywyd eich hun a'ch sefyllfa ar hyn o bryd. Pa ddigwyddiadau bywyd neu drobwyntiau sydd wedi effeithio arnoch chi a'r penderfyniadau a'r dewisiadau rydych wedi'u gwneud?

  1. Beth rydych chi'n ei ddeall o'r cyfweliadau am bwysigrwydd cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol? (Gwrandewch yn benodol ar y gweithiwr cymdeithasol yn siarad am ddefnyddio ei phersonoliaeth.) Beth mae'r gofalwr yn ei olygu, yn eich barn chi, pan fydd yn dweud bod rhywbeth ar goll rhyngddo ef a'r gweithiwr cymdeithasol di-Gymraeg?
  2. Pa nodweddion y mae'r unigolion yn y fideos yn awgrymu sydd eu hangen ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol da? Beth yw'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng y nodweddion a nodwyd gan yr unigolion gwahanol?
  3. Pa effaith y mae ymyriad gwaith cymdeithasol wedi'i chael ar fywyd y defnyddiwr gwasanaeth? Y gofalwr? Pam ei bod yn bwysig i weithwyr cymdeithasol ddeall y wlad y maent yn gweithio ynddi ac anghenion iaith y bobl y maent yn gweithio gyda nhw?
  4. Beth oedd y peth mwyaf y gwnaethoch ei ddysgu drwy wylio'r cyfweliadau a fyddai'n bwysig ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol, yn eich barn chi?

Trafodaeth

Mae hwn yn weithgaredd personol ond gwerthfawr iawn. Mae nifer o wahaniaethau diwylliannol a gwahaniaethau eraill ym mhrofiadau bywgraffiadol unigolion sy'n dylanwadu mewn ffyrdd amrywiol ar eu bywydau a'u hagweddau presennol, ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth hwn.

Mae pobl yn dewis gwaith cymdeithasol am bob math o resymau: er mwyn gwneud daioni; er mwyn helpu eraill; oherwydd eu cefndir teuluol eu hunain neu brofiad o golled, salwch neu anabledd; er mwyn wynebu eu problemau eu hunain neu, yn syml, ar hap.

Yn ôl arolwg o fyfyrwyr a oedd yn dilyn hyfforddiant gwaith cymdeithasol yn 2011, gwelwyd bod ffactorau personol a ffactorau o ran gyrfa wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ddewis astudio gwaith cymdeithasol. Roedd y cymhellion yn gysylltiedig â'r elfennau canlynol:

  1. Allgaredd - awydd i wneud gwahaniaeth, helpu eraill a brwydro yn erbyn anghyfiawnder.
  2. Nodweddion personol a phrofiad y myfyriwr - y gallu i gyd-dynnu â phobl, gweithio mewn tîm ac, i rai, roedd yn ddewis gyrfa addas oherwydd eu profiadau bywyd.
  3. Ffactorau gyrfa - fel swydd hyblyg sydd â chyflog da a rhagolygon gyrfa da.
  4. Natur y gwaith o ddydd i ddydd - amrywiaeth, lefel uchel o foddhad swydd a chyfrifoldeb personol.

(Yn seiliedig ar Stevens et al., 2012)

Fel y mae'r ddau weithiwr cymdeithasol yn y fideos yn dangos, mae llunio'r cysylltiad rhwng profiad personol a'r hyn y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei gynnig i'w hymarfer yn gam cynnar pwysig i ddod yn ymarferydd myfyriol.

Mae ymarfer gwaith cymdeithasol da yn ymwneud yn bennaf â chydberthnasau (Wilson et al., 2011) ac ymgysylltu'n effeithiol â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac eraill er mwyn eu galluogi i ddweud eu storïau. Meithrin cydberthynas dda yw'r man cychwyn i weithio 'gyda' phobl yn hytrach nag 'arnynt' (Beresford, 2012). Drwy'r gydberthynas broffesiynol hon y mae gweithwyr cymdeithasol yn ymgysylltu ag unigolyn ac yn ymyrryd yng nghymhlethdod ei fydoedd mewnol ac allanol (ibid), a dangosir hyn gan Mags (gweithiwr cymdeithasol) yn y fideo wrth iddi sôn am sut y gwnaeth ddefnyddio ei phersonoliaeth (ei 'hun') i feithrin cydberthnasau â phobl ifanc mewn cartref hanner ffordd.

Fodd bynnag, daw'n fwy anodd meithrin cydberthynas dda pan nad yw anghenion defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu diwallu, fel y gwelir yn achos Mr Mudd (gofalwr). Cafodd y gofalwr weithiwr cymdeithasol di-Gymraeg a oedd yn golygu ei bod yn fwy anodd iddo ymgysylltu â hi fel yr hoffai, gan fod yn rhaid iddo feddwl yn Gymraeg a siarad yn Saesneg. Er nad yw siarad Saesneg yn broblem iddo fel y cyfryw, byddai'r gydberthynas wedi bod yn haws pe bai wedi cael ei meithrin drwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff hyn ei ategu yng nghyfweliad Siân (defnyddiwr gwasanaeth) – wedi’r cyfan, Cymraeg yw’r iaith y mae hi’n ei defnyddio i fyw ei bywyd. Yn ôl yr egwyddor 'cynnig gweithredol' (CGC, 2014), yn y dyfodol, y gweithiwr proffesiynol fydd yn gyfrifol am nodi anghenion iaith yng Nghymru yn hytrach na'r defnyddiwr gwasanaeth neu'r gofalwr (a all fod mewn sefyllfa o statws isel a diffyg pŵer yn barod, ac felly efallai na fydd yn teimlo ei fod yn gallu arfer ei hawl i ofyn am wasanaeth Cymraeg).

I ffwrdd o'r camera, awgrymodd Mr Mudd, er bod rhoi gofal yn feichus o safbwynt corfforol ac emosiynol, y gallai'r gofalwr weld eisiau hynny pan fydd angen cymorth ychwanegol ar y person sy'n cael gofal a'i fod yn symud i ofal preswyl. Gall y bwlch sy'n cael ei adael gan y person hwnnw a diwedd y rôl 'ofalu' fod yn anodd iawn. Felly, mae'n bwysig cydnabod er y gall ymyriadau gwaith cymdeithasol newid rhai agweddau ar fywydau pobl er gwell, gall canlyniadau ymyriadau olygu hefyd y bydd bywyd yn wahanol iawn i bawb dan sylw.

Casgliad

Mae rhinweddau neu nodweddion gweithiwr cymdeithasol da a nodwyd gan y pedwar unigolyn yn weddol debyg. Mae pwysigrwydd gwrando a'r nodweddion eraill a grybwyllwyd yn adlewyrchu'r cynhesrwydd, empathi, dibynadwyedd a pharch y nododd Beresford (2012) y mae defnyddwyr gwasanaethau am eu gweld mewn gweithwyr cymdeithasol - hynny yw, yr un math o nodweddion y byddech yn disgwyl eu gweld mewn ffrind ffyddlon.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.

Cyfeiriadau

Beresford, P. (2012) ‘What service users want from social workers’, Community Care, dydd Gwener 27 Ebrill 2012 [ar-lein]. Ar gael yn

http://www.communitycare.co.uk/ 2012/ 04/ 27/ what-service-users-want-from-social-workers/ #.U6naPJRdXAk

Cyngor Gofal Cymru (2014) Y Gweithiwr Cymdeithasol, Caerdydd, CGC http://www.cgcymru.org.uk/ canllawiau-ymarfer-i-weithwyr-cymdeithasol/ ?force=2&bc=4143:4147(cyrchwyd 24/06/2014)

Stevens, M., Moriarty, J., Manthorpe, J., Hussein, S., Sharpe, E., Orme, J., Mcyntyre, G., Cavanagh, K., Green-Lister, P. a Crisp, B.R. (2012) Helping others or a rewarding career? Investigating student motivations to train as social workers in England,Journal of Social Work cyf. 12, rhif 1, tud. 16–36.

Wilson, K., Ruch G., Lymbery M. a Cooper, A. (gol.) (2011) Social Work: An introduction to contemporary practice, Harlow, Pearson

Cydnabyddiaethau

Mae'r uned hon yn ei ysgrifennu gan Judith Davies.

Mae'r deunydd a gydnabyddir isod yn Berchnogol ac fe'i defnyddir o dan drwydded, nid yw'n destun Trwydded Creative Commons. (Gweler telerau ac amodau.)

Cydnabyddiaeth Ddiolchgar yn cael ei wneud at y ffynonellau canlynol am ganiatâd i atgynhyrchu deunydd yn yr uned hon:

Cyngor Sir Camarthern

Mr Howell Mudd

Rhagor o wybodaeth am:

Dysgu mwy

1. Astudiaethau Cymraeg eraill ar y pwnc hwn

http://www.open.edu/ openlearnworks/ mod/ page/ view.php?id=53849

2. Cynnwys astudio cysylltiedig gan y Brifysgol Agored http://www.open.ac.uk/ choose/ ou/ open-content

3. Y pwnc hwn a deunyddiau'r cwrs, sydd am ddim, ar OpenLearn http://www.open.edu/ openlearn/

4. Astudio o'r tu allan i'r DU? Mae gennym fyfyrwyr mewn dros gant o wledydd sy'n astudio cymwysterau ar-lein. http://www.openuniversity.edu/