9.3 Casgliad

  • Mae gwneuthurwyr ffilm cyfoes wedi tueddu i weithio yn groes i rai o'r portreadau sinematig hŷn yng Nghymru, a nodweddwyd gan How Green Was My Valley.
  • Mae sinema cyfrwng Cymraeg wedi chwarae rhan i bortreadu Cymru fel diwylliant dwyieithog drwy ei llwyddiannau bach yn rhyngwladol.
  • Bu sinema yn ran o broses o bortreadu Cymru a bywyd Cymreig fel rhan o ddiwylliant trefol rhyngwladol.
  • Mae gan sinema ryw fath o ryddid i ystyried rhai o'r agweddau mwy anghysurus ar gymdeithas gyfoes, megis rôl hiliaeth yng Nghymru.
  • Mae gan deledu y pŵer i ddosbarthu portreadau o ddiwylliant neu gymuned yn eang. Gellir dweud felly bod iddo arwyddocâd penodol mewn unrhyw drafodaeth o'r ffordd y portreadir cenedl fach fel Cymru.
  • Mae'r ffyrdd y mae teledu yn portreadu Cymru wedi ehangu'n sylweddol yn ystod y cyfnod ers datganoli.
  • Mae'n werth nodi drama iaith Gymraeg ar S4C am y ffordd amrywiol y mae wedi ymateb i wyneb newydd y Gymru gyfoes.
  • Mae llwyddiant rhyngwladol proffil uchel rhaglenni teledu allweddol a wneir gan y BBC yng Nghymru fwy na thebyg wedi arwain at rai newidiadau yn y ffordd y mae'r wlad yn cael ei hystyried nid yn unig gan y diwydiant teledu, ond gan y gynulleidfa ehangach.

Rydych wedi gweld y gall y syniad o bortreadu fod yn arbennig o bwysig i genedl fach megis Cymru sy'n cael anhawster i godi llais yn y byd a chael eraill i wrando arni. I lawer, mae Cymru yn anweladwy o dan y syniad mwy cyffredinol o'r DU neu 'Brydain'.

Gall y delweddau a'r naratifau am Gymru sy'n cael eu lledaenu yn y cyfryngau ac mewn ffurfiau diwylliannol poblogaidd fod yn rhan hollbwysig o greu ymdeimlad bod gan y wlad ddatganoledig ran i'w chwarae yn y byd. Gall hyn, yn ei dro, fod yn rhan o greu ymdeimlad o hyder cenedlaethol bod gan hunaniaeth Gymreig arwyddocâd gwirioneddol.

Mae hyn yn sicr yn gydnaws â meddylwyr cyfoes sy'n defnyddio cysyniadau megis 'dychmygu'r genedl' er mwyn cyfleu'r syniad nad rhywbeth sefydlog yw hunaniaeth genedlaethol na rhywbeth y mae angen ei hailddatgan o hyd ond, yn hytrach, rhywbeth sy'n datblygu ac sy'n cael ei ffurfio.

Mae rhan o'r broses hon o ailddychmygu yn cael ei gwneud gan artistiaid, ond hefyd gan y cynulleidfaoedd sy'n ymddiddori mewn gwaith sy'n cynnwys elfennau a all gyfrannu at hunaniaeth cenedl. Felly nid yw'r broses yn un oddefol, yn hytrach, mae'n ddeinamig ac yn rhywbeth y gallwn i gyd gymryd rhan ynddi, er mor ddiarwybod fo hynny.

Rydych hefyd wedi gweld bod hunaniaeth a diwylliant cenedl yn cael eu mynegi'n aml ac yn fwyaf croyw drwy ' bethai cyffredin' neu'r 'banal', hynny yw, y pethau cyffredin sy'n rhan o ddefodau ein bodolaeth.

Yn y degawd ers datganoli, bu newidiadau sylweddol yn y ffordd y caiff Cymru ei phortreadu. Mae rhai o'r rhain o ganlyniad i artistiaid a chwmnïau yn ailddychmygu'r wlad, weithiau wedi'i hysbrydoli gan y syniad o rywfaint o annibyniaeth wleidyddol a'r hyn y mae rhai yn cyfeirio ato fel statws 'ôl-drefedigaethol' Cymru.

Mae rhai newidiadau o ganlyniad i ddatblygu neu greu sefydliadau 'cenedlaethol', y mae rhan o'u swyddogaeth yn ymwneud â phortreadu Cymru yn wlad ar wahân ac iddi hunaniaeth unigryw. Mae'r rhain yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y BBC a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Fodd bynnag, bydd arwyddocâd rhai newidiadau i'r ffordd y caiff Cymru ei gwel yn y byd allanol bob amser yn destun dadlau. Mae llwyddiant rhyngwladol Dr Who a Torchwoodyn drobwynt i lawer o ran hunaniaeth newidiol Cymru, a fydd yn sicrhau bod Cymru yn cael ei gweld fel gwlad lle y gall ffurfiau cyfoes ar greadigrwydd ffynnu. I eraill, nid oes fawr ddim cyswllt rhwng y rhaglenni hyn a bywydau'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru.

Yn yr un modd, mae sefydlu theatrau cenedlaethol yn y ddwy iaith yn gam pwysig i lawer o ran ehangu'r 'sgwrs genedlaethol' a chynnig cyfleoedd i artistiaid aros yng Nghymru a chwarae rhan i'w chreu. Mae eraill yn credu bod Cymru yn ailadrodd syniadau hen ffaswn ynghylch beth yw 'cenedl' drwy greu sefydiadau hen ffasiwn.

Yr hyn y gellir ei haeru yw, erbyn hyn, fod llawer mwy o amrywiaeth yn y ffyrdd y caiff Cymru ei phortreadu yn y byd yn fwy cyffredinol. Efallai nad yw'r hen ystrydebau cenedlaethol y cyfeiriodd Ed Thomas atynt wedi darfod amdanynt, ond bellach mae'n rhaid iddynt gystadu â'r syniad bod Cymru yn wlad lle ceir dinasoedd bywiog yn ogystal â chymunedau gwledig o dan fygythiad, dawnswyr ac artistiaid perfformio yn ogystal â chwaraewyr rygbi gwych ac, yn anad dim, ymdeimlad o'r genedl wedi'i hailddychmygu hyd yn oed os yw economeg y cyfryngau yn yr 21ain ganrif yn golygu y bydd bob amser yn anodd i leisiau gael eu clywed.