Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • deall rhai o'r prif gysyniadau ym maes y gwyddorau cymdeithasol, e.e. rhaniadau, hunaniaethau, cynrychiolaeth, fel cyflwyniad cyffredinol i bynciau'r gwyddorau cymdeithasol
  • deall y cysyniadau craidd ynglŷn â threfn, prosesau llywodraethu a newid cymdeithasol yng Nghymru ar ôl y rhyfel
  • deall yr amrywiaeth, yr anghydraddoldebau a'r gwahaniaethau sy'n bodoli yng Nghymru a'u goblygiadau ar gyfer hunaniaethau a mudiadau gwleidyddol
  • defnyddio tystiolaeth a dadleuon i gymharu a beirniadu ffyrdd gwahanol o ddeall y Gymru gyfoes
  • deall sut y gallwch ddefnyddio cysyniadau a dulliau'r Gwyddorau Cymdeithasol i ddadelfennu'r ddealltwriaeth gyffredinol am faterion sy'n ymwneud â Chymru.

1 Rygbi - cyflwyniad i Gymru gyfoes