1.3 Casgliad

  • Mae ymlyniadau i dimau rygbi lleol yn adlewyrchu ymdeimlad cryf o berthyn i dref neu ardal benodol yng Nghymru.
  • Wrth i broffil cyflogaeth Cymru newid, mae trefniadaeth rygbi wedi newid hefyd, yn enwedig ar ôl dyfodiad yr oes broffesiynol a'r cynnydd mewn masnacheiddio.
  • Mae rôl merched a phobl o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig mewn rygbi yn adlewyrchu eu sefyllfa mewn cymdeithas yng Nghymru yn gyffredinol, a sut mae hyn wedi newid.
  • Er ein bod yn ystyried bod rygbi yng Nghymru wedi'i wreiddio yn y dosbarth gweithiol traddodiadol, mae'r realiti yn fwy cymhleth - mae'n pontio dosbarthiadau a beth bynnag, mae syniadau ynglŷn â dosbarthiadau yn llai syml erbyn hyn.

Nid dim ond lle yw Cymru ond gwlad sy'n cael ei nodweddu gan set arbennig o werthoedd gwleidyddol a moesegol. Beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhwng grwpiau ac unigolion, mae'r gwerthoedd hyn yn darparu cysylltiadau sydd, gyda'i gilydd, yn creu'r gymdeithas rydym yn ei gweld yng Nghymru. Mae'r genedl yn meithrin ymdeimlad o berthyn ac undod, ac mae rygbi yn parhau i ddwyn pobl ynghyd yn wahanol i unrhyw ffenomenon neu weithgaredd diwylliannol arall. Caiff nodweddion craidd y genedl, sy'n cael eu herio a'u trawsnewid dros amser, eu hymgorffori yn y gêm genedlaethol, ei chwaraewyr, ei sefydliadau a'i chefnogwyr. Er iddi newid o fod yn gêm amatur i gêm sy'n cael ei marchnata llawer mwy ac sy'n denu llawer mwy o sylw yn y cyfryngau, mae rygbi yn parhau i fod yn elfen amlwg o'r ffordd y caiff Cymru ei phortreadu ac yn ffocws i bobl uniaethu â'r genedl.