5.1 Cysyniadau o ddosbarth yng Nghymru
Pan siaradwn am ddosbarth, rydym yn cymharu ein hunain ag eraill yn y gymdeithas. Mae pob achos unigol yn gymhleth ac mae pawb yn wahanol. Ond, fel arfer, mae gennym ryw syniad o'n safle ni ein hunain a rhyw ymdeimlad o siâp cyffredinol ein cymdeithas: ei strwythur dosbarth. Felly, sut mae'r syniad o ddosbarth yn ein helpu i ddeall Cymru? Beth yw siâp cyffredinol y gymdeithas yng Nghymru?
Gweithgaredd 11
Beth sy'n dod i'ch meddwl chi pan fyddwch yn meddwl am ddosbarth yng Nghymru?
- Mae pobl yn gwrthdaro â'i gilydd yn ffyrnig dros ddosbarth yng Nghymru; mae dosbarth yn golygu'r llinell biced, undod.
- Mae Cymru - yn wahanol i Loegr - yn ddiddosbarth.
- Mae Cymru yn cael ei rhedeg gan y dosbarth uwch Seisnig - gwladychwyr gwyn - sy'n mynd â'r swyddi gorau i gyd.
- Mae Cymru yn cael ei rhedeg gan y dosbarth canol Cymraeg: y Taffia.
Rwyf am drafod pob un o'r atebion hyn yn unigol i weld faint o wirionedd sydd ynddynt, os o gwbl.
5 Dosbarth