5.1.4 Y ‘Taffia’

Pobl genedlaetholgar sy'n tueddu i roi pwyslais ar y syniad o oruchafiaeth y Saeson. Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu cenedlaetholdeb a datganoli yng Nghymru yn aml yn meddwl bod y wlad yn cael ei rhedeg gan grŵp bach iawn o siaradwyr Cymraeg, y cyfeirir atynt weithiau fel y Taffia: term ensyniadol sy'n awgrymu bod 'Godfathers' ymhob man. Unwaith eto, ni cheir fawr ddim tystiolaeth o hyn, ond ceir honiadau rheolaidd:

The Welsh-language scene itself at that time [in the early 1990s] was a tightknit community with everyone knowing everyone else. If you went regularly to gigs at Cardiff’s Welsh club, Clwb Ifor Bach, then you would inevitably see the same faces, and it didn’t take long to get to know them.

... many ... were artists or ... worked in the arts or ... were employed at S4C or ... were involved at the local media. HTV and the BBC in Wales are notoriously populated by the Taffia – an exclusive clique of Welsh speakers whose backgrounds in Welsh-speaking schools and Welsh universities, coupled with their ability to speak the language, has led to the sort of nepotism notorious amongst Oxford and Cambridge graduates in London media circles.

(Owens, 2000, tt. 33–4)

O'i dadansoddi mewn modd mwy ystyriol, gwelir bod rhywfaint o sail i'r ddadl hon. Mae cymuned Gymraeg wedi datblygu yng Nghaerdydd ers yr Ail Ryfel Byd, yn sgil y cynnydd yn y sefydliadau cenedlaethol sydd wedi'u lleoli yn y ddinas. Crewyd y Swyddfa Gymreig yn 1964, mae sefydliadau eraill fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yno, ac mae'r cyfryngau wedi'u canoli yn y ddinas, wrth i'r BBC, ITV ac S4C leoli eu cyfleusterau yno. Mae un astudiaeth wedi dod o hyd i dystiolaeth bod y dosbarth canol Cymraeg o athrawon, pregethwyr ac ysgrifenwyr wedi cael ei adnewyddu drwy ddarlledu ac mae'n dadlau bod grŵp clos iawn wedi defnyddio materion ieithyddol fel ffordd o gamu ymlaen yn gymdeithasol (Bevan, 1984). Yn y cyfamser, mae datganoli wedi golygu bod swyddi yn y gwasanaeth sifil a arferai fod yn Llundain wedi cael eu symud i Gaerdydd, felly nid oes angen i bobl symud allan o Gymru er mwyn camu ymlaen - dim ond symud o fewn Cymru. Mae cymuned Cymry Llundain wedi dirywio'n sylweddol oherwydd datganoli. Ac mae llawer o'r swyddi hyn yn galw am ruglder yn y Gymraeg, sy'n rhoi rhai manteision i siaradwyr Cymraeg mewn rhai meysydd.

Mae poblogaeth Gymraeg Caerdydd yn tueddu i grynhoi mewn ardaloedd penodol:

the majority of Welsh speakers have settled either in the traditional middle to high status residential districts of the city (e.g., Llandaff) or in select suburban and rural fringe areas (e.g., St Fagans, Radyr). ... the Welsh-speaking population of the city is largely composed of young to early middle-aged families. Not surprisingly, having established themselves in Cardiff, such families have sought to ensure that ample facilities would be available for children to pursue their education through the medium of Welsh ... [there has been] ... a highly significant growth in the number of bilingual schools in the region.

(Aitchison a Carter, 1987, t. 490)

Rydych eisoes wedi gweld bod cynrychiolaeth dda o siaradwyr Cymraeg ar lefelau uchaf cymdeithas yng Nghymru, ond nid y lefel uchaf un. Mae mwy o siaradwyr Cymraeg a phobl nad ydynt yn dod o Gymru i'w gweld yn y grwpiau mwy cefnog; Cymry di-Gymraeg sydd â'r cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol lleiaf effeithiol. Mae rhai amrywiadau diddorol i'w gweld yn hyn o beth, yn ôl rhanbarth. Yn yr ardaloedd a ystyriwyd unwaith yn gadarnleoedd y Gymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, mae mwy o bobl nad ydynt yn dod o Gymru yn y grwpiau uchaf. Yn ardaloedd economaidd dynamig y de-ddwyrain, mae mwy o siaradwyr Cymraeg mewn swyddi elite o gymharu â phobl nad ydynt yn dod o Gymru.

Mae hyn yn dangos bod dosbarth canol Cymraeg wedi'i sefydlu'n effeithiol yn y de trefol ac yn datgelu rhai pethau am batrymau mudo o fewn Cymru. Mae hyn yn gysylltiedig ag ansawdd addysg yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, sydd wedi bod yn llwyddiant amlwg yng Nghymru ar ôl y rhyfeloedd. Mae ymrwymiad rhieni, disgyblion ac athrawon i adfywio'r iaith wedi sicrhau bod yr ysgolion hyn yn cynhyrchu disgyblion â chymwysterau da. Mae'n fuddiol i'r plant gan fod ganddynt ddwy iaith gyntaf i bob pwrpas a gallant fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol. Mae cyfalaf diwylliannol gwell yn bwysig iawn ar adeg pan nad yw ysgolion yng Nghymru, ar y cyfan, wedi perfformio'n arbennig o dda; mae'n llai clir p'un a yw cyfalaf cymdeithasol rhwydweithiau'r Taffia yn rhoi mantais (Reynolds a Bellin, 1996). Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn agored i blant pobl di-Gymraeg a bellach, maent yn addysgu tua 20 y cant o blant. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn ysgolion arbennig o 'ddethol'.