Geirfa

Allgáu cymdeithasol
Mae'n cyfeirio at ymyleiddio economaidd, diwylliannol a chymdeithasol unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae'n disgrifio canlyniadau hirdymor tlodi lle mae pobl sy'n byw mewn tlodi yn profi cyrhaeddiad addysg gwael, canlyniadau iechyd gwael a thai o safon isel.
Cenedlaetholdeb ethnig
mae'n ymdemlad o berthyn i genedl sy'n cael ei ddiffinio drwy ddiwylliant a thras, ond nid tras enetig o reidrwydd.
Cyfalaf cymdeithasol
mae'n golygu'r rhwydweithiau y mae pobl yn perthyn iddynt sy'n cynhyrchu adnoddau i gyflawni eu dibenion.
Cyfalaf diwylliannol
mae'n golygu y wybodaeth, y sgiliau a'r addysg sydd gan unigolion.
‘Cyfleoedd bywyd’
mae'n derm sy'n gysylltiedig â'r cymdeithasgwr Max Weber. Mae'n cyfeirio at ddisgwyliadau arferol gwobrwyo, cyfleoedd ac amddifadedd a wynebir gan rywun yn ystod ei fywyd. Mae cymharu cyfleoedd bywyd yn fodd i asesu anghydraddoldebau rhwng gwahanol fathau o unigolion a grwpiau.
Datganoli
mae'n broses lle mae awdurdod gwleidyddol yn cael ei drosglwyddo o lywodraeth ganolog i lefel (ranbarthol) is o lywodraeth.
Democratiaeth
daw o'r gair Groeg demos (y bobl) a kratos (rheolaeth).
Ffug amaturiaeth.
mae'n cyfeirio at y twyll o wobrwyo chwaraewyr yn ariannol gan glybiau yn y cyfnod (cyn 1995 pan oedd rygbi yn amatur i bob golwg.
Globaleiddio
mae'n cyfeirio at y graddau cynyddol y mae'r byd yn dod yn integredig, nes y teimlir bod llawer o leoedd yn colli eu nodweddion unigryw ac yn ymdebygu i'w gilydd.
Globaleiddio economaidd
mae'n broses lle mae economiau lleol a chenedlaethol yn dod yn integredig â system fyd-eang o gyfnewid a masnachu.
Gwahanu diwylliannol llafur
mae'n olygu bod swyddi pobl yn gysylltiedig â'u tarddiad ethnig neu genedlaethol.
Gwerth ychwanegol gros (GYG)
sef gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir y pen mewn rhanbarth cyn ystyried trethi a chymorthdaliadau. Pan gaiff yr olaf ei ychwanegu, cyfeirir at y cyfanswm fel cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC).
Hil
mae'n nodi'r ffordd y caiff bodau dynol eu gwahanu yn ôl nodweddion corfforol (lliw'r croen yn enwedig) yn wahanol grwpiau hil. Mae hiliaeth yn golygu priodoli nodweddion uwchraddoldeb neu israddoldeb i boblogaeth sy'n rhanu rhai nodweddion corfforol etifeddol.
Hiliaeth
Mae hiliaeth yn golygu priodoli nodweddion uwchraddoldeb neu israddoldeb i boblogaeth sy'n rhanu rhai nodweddion corfforol etifeddol.
Neo-gorfforaetholdeb
Mae'n cyfeirio at berthynas freintiedig rhwng chwaraewyr gwleidyddol (yn enwedig y rhai yn y llywodraeth) a grŵp cul o chwaraewyr sy'n cynrychioli cyfres benodol o ddiddordebau.
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
(neu RBS 6 Nations am resymau nawdd) Cystadleuaeth rygbi rynglwadol flynyddol rhwng Cymru, Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, yr Eidal a'r Alban.
Rolau rhyw
Y patrymau o ymddygiad y mae cymdeithas yn ei ddisgwyl gan ddyn neu fenyw.