Cyflwyniad

Nid 'hanes Cymru' yw'r cwrs hwn, ond mae'n ymwneud â hanes Cymru. Hynny yw, nid yw'n mynd ati i ymdrin â hanes Cymru yn gynhwysfawr neu’n gronolegol; yn hytrach, mae'n archwilio agweddau dethol ar hanes Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â hanes Cymru yn yr ystyr ei fod yn ymwneud â haneswyr Cymru a sut maen nhw’n ymarfer eu crefft. Fodd bynnag, mae haneswyr Cymru o reidrwydd yn rhan o gymuned ehangach o haneswyr, felly gellid darllen y cwrs hefyd fel astudiaeth o'r modd y mae haneswyr (o ba bynnag wlad, cyfnod neu bwnc) yn mynd ati i ysgrifennu hanes

Tynnwyd cynnwys y cwrs o’r llyfr darllen ar gyfer y cwrs Prifysgol Agored A182Small country, big history: themes in the history of Wales, nad yw’n cael ei ddysgu gan y Brifysgol mwyach. Os ydych eisiau astudio gyda ni yn ffurfiol, efallai yr hoffech archwilio cyrsiau eraill yr ydym yn eu cynnig yn y maes pwnc. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Tynnwyd y deunydd a baratoir yn y cwrs hwn o brosiect llawer mwy o’r enw Welsh history and its sources. Yr ydym wedi dethol wyth set o ddeunyddiau, bob un yn cynnwys uned o’r cwrs hwn.

Gellir darganfod mwy o gyrsiau a chymwysterau cyfrwng Cymraeg yma.

Sut mae’r cwrs hwn yn cael ei drefnu