Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Sunday, 4 June 2023, 2:41 AM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2023 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Sunday, 4 June 2023, 2:41 AM

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Nid 'hanes Cymru' yw'r cwrs hwn, ond mae'n ymwneud â hanes Cymru. Hynny yw, nid yw'n mynd ati i ymdrin â hanes Cymru yn gynhwysfawr neu’n gronolegol; yn hytrach, mae'n archwilio agweddau dethol ar hanes Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â hanes Cymru yn yr ystyr ei fod yn ymwneud â haneswyr Cymru a sut maen nhw’n ymarfer eu crefft. Fodd bynnag, mae haneswyr Cymru o reidrwydd yn rhan o gymuned ehangach o haneswyr, felly gellid darllen y cwrs hefyd fel astudiaeth o'r modd y mae haneswyr (o ba bynnag wlad, cyfnod neu bwnc) yn mynd ati i ysgrifennu hanes

Tynnwyd cynnwys y cwrs o’r llyfr darllen ar gyfer y cwrs Prifysgol Agored A182Small country, big history: themes in the history of Wales, nad yw’n cael ei ddysgu gan y Brifysgol mwyach. Os ydych eisiau astudio gyda ni yn ffurfiol, efallai yr hoffech archwilio cyrsiau eraill yr ydym yn eu cynnig yn y maes pwnc.

Tynnwyd y deunydd a baratoir yn y cwrs hwn o brosiect llawer mwy o’r enw Welsh history and its sources. Yr ydym wedi dethol wyth set o ddeunyddiau, bob un yn cynnwys uned o’r cwrs hwn.

Gellir darganfod mwy o gyrsiau a chymwysterau cyfrwng Cymraeg yma.

Sut mae’r cwrs hwn yn cael ei drefnu

Bydd meddwl am hwn fel cwrs am sut mae haneswyr, o Gymru a thu hwnt, yn cofnodi hanes yn dod yn gliriach os byddwch yn deall rhywbeth am strwythur y deunydd a sut y caiff ei drefnu.

Mae'n cynnwys wyth uned (heb gynnwys y cyflwyniad a'r llyfryddiaeth). Mae pob un o'r unedau hyn yn cynnwys rhagair, traethawd a chasgliad o ffynonellau. Cafodd y rhagair ei ysgrifennu gan aelod o dîm Small country, big history, mae'r traethawd wedi cael ei ysgrifennu gan hanesydd arall o Gymru, a'r ffynonellau yw’r rhai y mae'r hanesydd yn cyfeirio atyn nhw yn y traethawd.

Mae'r haneswyr a ysgrifennodd y traethodau i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd. Fodd bynnag, y nodwedd wirioneddol nodedig yma yw bod y traethodau wedi eu cyflwyno gyda'r ffynonellau (neu o leiaf, darnau o'r ffynonellau allweddol) a ddarparodd y dystiolaeth a ddefnyddiodd yr awduron hyn fel sail i’w dehongliadau a’u casgliadau. Mae'r pwyslais yn cael ei roi’n gadarn ar adnabod, dehongli a chydnabod ffynonellau yn briodol fel sail dull yr hanesydd.

Mae'r deunydd a ddarperir yn y cwrs hwn yn dod o brosiect llawer mwy o'r enw Welsh History and its Sources. Rydym wedi dewis wyth set o ddeunyddiau, pob un yn cynnwys uned yn y cwrs hwn.

Mae Uned 1, 'Mytholeg a thraddodiad yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg', yn ymdrin â chyfnod ac agwedd ar hanes Cymru lle dechreuodd rhai syniadau allweddol am hunaniaeth a hanes Cymru wreiddio, ac wrth wneud hynny mae’n codi rhai materion sylfaenol am sut y defnyddir ac y dehonglir ffynonellau. Mae Gareth Elwyn Jones yn cyflwyno traethawd gan R. Paul Evans ar 'Mytholeg a thraddodiad', lle mae Evans yn trafod gwaith ysgolheigion o Gymru o'r ddeunawfed ganrif a geisiodd gofnodi, cadw a hyrwyddo hunaniaeth Gymreig a hanes Cymru. Fe wnaethon nhw hyn drwy astudio’r Gymraeg a llenyddiaeth, casglu hen lawysgrifau Cymru, ffurfio cymdeithasau a llunio cyhoeddiadau ar gyfer ysgolheigion a selogion o’r un anian - ac weithiau hefyd drwy ddyfeisio rhai 'traddodiadau hynafol' sydd wedi dod yn rhan o’r syniad o Gymreictod a gaiff ei dderbyn yn eang.

Yn Uned 2, 'diwylliant poblogaidd yng Nghymru ar ôl y rhyfel (1945-1995)', mae Gareth Elwyn Jones yn cyflwyno traethawd Peter Stead ar 'ddiwylliant poblogaidd'. Mae Stead yn edrych ar ddiwylliant poblogaidd yng Nghymru o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd hyd at y cyfnod pan gyhoeddwyd y traethawd yn wreiddiol, gan drafod pynciau fel chwaraeon, cerddoriaeth boblogaidd, yr eisteddfod, ffilmiau ac effaith y mudiad iaith. Daw i'r casgliad drwy ofyn – yn rhagweledol, yng ngoleuni’r refferendwm ar ddatganoli a ddilynodd yn 1997 - a allai diwylliant poblogaidd bywiog Cymru yn y 1990au gynnig sail ar gyfer diwylliant gwleidyddol mwy hyderus ac annibynnol.

Mae Uned 3, 'Protest boblogaidd yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg: terfysgoedd Beca', yn canolbwyntio ar wrthryfel penodol a ddigwyddodd yng nghymunedau amaethyddol gorllewin Cymru yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Chris Williams wedi ysgrifennu rhagair i draethawd David Howell, 'Terfysgoedd Beca', lle mae Howell yn archwilio tarddiad a chymhelliant y terfysgoedd, ynghyd â’u cymeriad diwylliannol penodol iawn.

Mae Uned 4 yn rhoi sylw i 'Grefydd a chred yng Nghymru'r Tuduriaid', ac yma mae Matthew Griffiths yn cyflwyno traethawd gan Glanmor Williams, lle mae Williams yn trafod effaith y newidiadau crefyddol mawr a ddaeth yn sgil y Diwygiad Protestannaidd a'r Gwrth-Ddiwygiad ar y lleiafrif dysgedig a'r mwyafrif anllythrennog yng Nghymru. Er mai yn ystod y cyfnod hwn y gwelwyd dinistrio arferion crefyddol, beddrodau, mynachlogydd ac yn wir bywydau yn enw crefydd, tua diwedd y cyfnod hwn hefyd oedd y cyfnod y gwnaeth pobl Cymru ddechrau cael mynediad am y tro cyntaf at y Beibl ac at addoli cyhoeddus nad oedd yn Lladin nac yn Saesneg, ond yn eu hiaith eu hunain.

Yn Uned 5, 'Mudo yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif’, mae Bill Jones yn cyflwyno traethawd John Williams ar 'Symud oddi ar y tir', lle mae Williams yn edrych ar symudiad y llafurlu yng Nghymru o gefn gwlad a’r byd amaeth at drefi a diwydiant. Mae Williams yn trafod effaith y symudiad hwn ar gymdeithas Cymru – rhywbeth sy’n arbennig o ddiddorol yw'r ddadl y mae’n tynnu sylw ati ynghylch ei gred fod 'symud oddi ar y tir' yn ffactor pwysig yng ngoroesiad y Gymraeg, yn hytrach na ffordd o’i thanseilio.

Uned 6 yw 'Bywydau Merched yng Nghymru rhwng y ddau ryfel byd'. Mae sylw’r uned hon ar draethawd lle mae Deirdre Beddoe yn edrych ar brofiad merched dosbarth gweithiol Cymru yn y 1920au a'r 1930au - y galwedigaethau cyfyngedig oedd ar gael iddyn nhw, eu bywydau fel gwragedd a mamau, a'r ymgyrchoedd cymdeithasol a gwleidyddol y gwnaethon nhw gymryd rhan ynddyn nhw. Mae Beddoe yn arbennig o amheus am y ddelwedd boblogaidd o’r 'Fam Gymreig', ac mae’n cwestiynu realiti'r awdurdod mamol y mae’n ei awgrymu.

Mae Uned 7, ' Edward I a goresgyniad Cymru yn yr Oesoedd Canol', yn unigryw yn y cwrs o ran dwyn ynghyd dau draethawd, 'Edward I a Chymru' gan Rees Davies, ac 'Y Goron a chymunedau: cydweithio a gwrthdaro' gan A.D. Carr. Drwy baru’r traethodau hyn, mae Matthew Griffiths, sydd wedi ysgrifennu'r rhagair, yn dangos safbwyntiau cyferbyniol ar y 'goncwest' Edwardaidd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol – tra bod Davies yn pwysleisio concwest a choloneiddio Cymru gan bŵer o dramor, mae Carr yn gweld llawer mwy o barhad yn y gymdeithas yng Nghymru, a pharodrwydd sylweddol i weithio ar y cyd â'r Saeson. Mae'r uned hon yn cynnig arddangosiad byw o sut mae dau hanesydd, sy’n gweithio yn yr un maes ac yn tynnu ar yr un corff sylfaenol o ffeithiau a ffynonellau, yn cyrraedd dehongliadau gwahanol iawn, ond yr un mor gadarn a dilys.

Yn Uned 8, 'David Lloyd George a thynged Cymru', mae Chris Williams yn cyflwyno traethawd lle mae Kenneth O. Morgan yn ystyried David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain Fawr rhwng 1916 a 1922, ac i ba raddau y llywiodd ei Gymreictod ei wleidyddiaeth a’i benderfyniadau. Mae'r traethawd yn edrych yn bennaf ar ymwneud Lloyd George â materion Cymreig hyd at 1914, ac erbyn hynny yr oedd yn ddi-os, fel y dywed Morgan, 'yn Gymro enwocaf y cyfnod'. Y mae hefyd yn ystyried y newid yn ei berthynas â Chymru a materion Cymreig wrth i’w yrfa yn ehangach yng ngwleidyddiaeth Prydain (ac yna’n rhyngwladol) fagu stêm.

Sut i astudio’r cwrs hwn

Yn gyntaf, rhai pethau ymarferol:

  • Nid yw’r unedau yn dilyn trefn gronolegol. Gwneir hyn i atgyfnerthu'r syniad mai cyfres o astudiaethau sydd dan sylw yn hytrach na hanes cronolegol o Gymru.
  • Ym mhob traethawd, mae'r paragraffau wedi eu rhifo gan ddefnyddio'r rhif uned ac yna atalnod llawn a rhif y paragraff – felly'r paragraff cyntaf yn Uned 1 yw 1.1, yr ail yw 1.2, ac yn y blaen. Gwneir hyn i gynnig modd i ddefnyddwyr (fel athrawon) adnabod rhannau penodol o'r testun yn hawdd.

  • I alluogi croesgyfeirio rhwydd rhwng y traethodau a'r ffynonellau sy'n berthnasol iddyn nhw, mae’r ffynonellau wedi eu rhifo gan ddefnyddio rhif yr uned a llythrennau'r wyddor – felly’r ffynhonnell gyntaf yn Uned 2 yw 2A, 2B yw’r ail, ac yn y blaen. Mae pob cyfeiriad ffynhonnell yn cael ei ddangos fel cyswllt hyperdestun wedi’i fewnosod mewn lle priodol yn y traethawd. Cliciwch ar y ddolen i fynd at y ffynhonnell

  • Mae’r llyfryddiaeth ar gyfer cwrs hwn yn eang, yn ymgorffori llyfryddiaethau o lyfrau gwreiddiol 'Hanes Cymru a'i Ffynonellau', gyda chyfeiriadau a darllen pellach gan awduron y rhagymadroddion, yn ogystal â rhai darnau allweddol ychwanegol o fyd ysgolheigaidd hanes Cymru sydd wedi cael eu cyhoeddi ers i’r gyfres wreiddiol gael ei chwblhau. Bydd yn eich galluogi i ddilyn y cyfeiriadau o'r unedau a phori’n ehangach ymhlith ysgrifau haneswyr Cymru.

Mae'r prosiect Welsh history and its sources wedi cael ei ymestyn ymhellach drwy greu gwefan Welsh history and its sources sy’n cael ei chynnal gan uned OpenLearn y Brifysgol Agored ac sydd ar gael yn llawn i bawb (nid dim ond myfyrwyr y Brifysgol Agored). Mae'n darparu rhagor o draethodau o lyfrau 'Hanes Cymru a'i Ffynonellau’, llinell amser fanwl iawn o hanes Cymru a geirfa helaeth lle byddwch yn dod o hyd i esboniadau byr o lawer o'r termau, a disgrifiadau o lawer o'r bobl a’r digwyddiadau y ceir cyfeiriad atyn nhw yn y cwrs hwn. Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau eraill a dolenni, a allai fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb – ar unrhyw lefel – yn hanes Cymru.

Uned 1 Mytholegathraddodiad yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg