Uned 1 Mytholeg a thraddodiad yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Rhagair (Gareth Elwyn Jones)
Cyhoeddwyd y traethawd Saesneg 'Mytholeg a thraddodiad', gan R. Paul Evans, yn 1988 yn The Remaking of Wales in the Eighteenth Century, cyfrol yn y gyfres‘Welsh History and its Sources’. Pe bai’r gyfres hon wedi cael ei dyfeisio’n gynharach - yn y 1960au, dyweder - mae'n debyg na fyddai’r ddeunawfed ganrif wedi haeddu cyfrol ar wahân. O gymharu’r cyfnod â’r Canol Oesoedd neu gyfnod y Tuduriaid yng Nghymru, neu'r newidiadau dramatig sy'n gysylltiedig â'r Chwyldro Diwydiannol, a gafodd effaith fwy amlwg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd haneswyr wedi tueddu i weld y ddeunawfed ganrif yn llai arwyddocaol. Derbyniwyd bod y ddeunawfed ganrif yn gyfnod lle gwelwyd ehangiad aruthrol yn yr ymraniad yng nghymdeithas Cymru rhwng y rhai a oedd yn berchen ar ystadau helaeth (y bonedd mwyaf) a'r rhai a oedd yn berchen ar lawer llai o dir, yn ogystal â'r rhai a oedd yn ei drin (tenantiaid fferm a llafurwyr). Y farn a etifeddwyd oedd mai'r ffermwyr bach a’r rhai a oedd yn gweithio iddynt a oedd yn cynrychioli'r Gymru 'go iawn', a oedd wedi cael tröedigaeth dan law arweinwyr mawr y diwygiad Methodistaidd, a oedd wedi cael eu dysgu i ddarllen Cymraeg diolch i ysgolfeistri teithiol, a daeth i ffurfio asgwrn cefn poblogaeth barchus, ufudd i'r gyfraith, llythrennog a gwybodus Cymru, ac a gofleidiodd draddodiadau radical y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y pen draw. Prin ei bod yn syndod, felly, ar wahân i'r diwygiad Methodistaidd a'r ysgolion cylchynol, mai ychydig a ddigwyddodd yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif a oedd yn haeddu sylw.
Erbyn yr amser yr oedd cyfres ‘Welsh History and its Sources’ yn cael ei chynllunio, roedd hyn wedi newid. Roedd haneswyr wedi dechrau llenwi bylchau enfawr yn ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas y cyfnod. Yn ogystal â gwaith mwy arbenigol, roedd y ddeunawfed ganrif wedi cael ei thrin yn gynhwysfawr gan Geraint H. Jenkins yn The Foundations of Modern Wales: Wales, 1642–1780 (1993), yn rhan o’r hanes aml-gyfrol safonol o Gymru.
Un thema yr oedd haneswyr erbyn hyn wedi ymgolli ynddi ledled Ewrop oedd hunaniaeth genedlaethol a’i tharddiad hunan-ymwybodol. Agwedd a esgeuluswyd ar ysgrifennu hanes y ddeunawfed ganrif oedd y ffordd yr oedd rhai deallusion ledled Ynysoedd Prydain wedi cael eu heffeithio gan ramantiaeth, a'r ffordd yr oedd mytholeg a thraddodiad wedi'u cymysgu i atgyfnerthu ymdeimlad o arwahanrwydd cenedlaethol. O ran Cymru, ychydig o’r stori oedd yn hysbys nes cyhoeddodd Prys Morgan lyfr arloesol ar yr hyn a alwodd yn ‘ddadeni’r ddeunawfed ganrif yng Nghymru’ (The Eighteenth Century Renaissance in Wales (1981)), lle adroddodd am ymdrechion nifer o Gymry Llundain, yn ogystal â rhai o'r mân uchelwyr yng Nghymru, i gasglu hen lawysgrifau a oedd yn adrodd hanes y Gymru hynafol a balch a oedd yn ymestyn yn ôl i niwl hynafiaeth. Yn ogystal, cyfrannodd bennod ar y thema hon at gasgliad enwog o draethodau a olygwyd gan Eric Hobsbawm a Terence Ranger, dan y teitl The Invention of Tradition (1983).
Roedd R. Paul Evans yn un o fyfyrwyr ymchwil yr Athro Morgan. Pan gyhoeddwyd ‘Mythology and tradition’, roedd Evans newydd gwblhau ei ddoethuriaeth ar Thomas Pennant, ysgolhaig o ogledd Cymru yn y ddeunawfed ganrif, y gellid dadlau mai ef oedd y mwyaf o awduron teithio Cymru ac sy’n adnabyddus am ei A Tour in Wales (1778). Ers iddo gwblhau ei draethawd, mae Evans wedi parhau i gyhoeddi erthyglau ar Pennant ac wedi golygu rhywfaint o'i waith.
Mae haneswyr, yn ogystal â gwleidyddion, wedi ymgolli hyd yn oed ymhellach mewn cwestiynau ynghylch hunaniaeth genedlaethol yn Ynysoedd Prydain. Yn benodol, yn Britons: Forging the Nation, 1707–1837 (1992) mae Linda Colley yn dadlau bod y cysyniad o Brydain Fawr wedi cael ei lunio yn y ddeunawfed ganrif, yn bennaf mewn ymateb i fygythiadau allanol. Mae ei deunydd ar Gymru yn seiliedig i raddau helaeth ar syniadau a geir yn llyfr Prys Morgan ac sy’n cael sylw yn nhraethawd Evans.
Gan fod y cwestiwn ynghylch chwedl a thraddodiad yng ngwneuthuriad hanes cenedl wedi aros yn ganolog ym meddwl y Cymry, ac oherwydd bod rhai o'r cymeriadau dan sylw mor lliwgar, mae’r pwnc wedi parhau i ennyn diddordeb. Yn neilltuol, ffigwr amlwg yn nhraethawd Evans yw Edward Williams, a elwir yn fwyaf cyffredin yn ôl ei enw barddol Iolo Morganwg - saer maen medrus, llenor, bardd, dyddiadurwr a dyfeisiwr traddodiad, yn ogystal â'r ffugiwr o waith llenyddol mwyaf dawnus a welwyd erioed yng Nghymru. Mae’n gymeriad anhygoel yn hanes y genedl, un sy'n gwbl briodol yn parhau i fynnu sylw haneswyr, ac mae’n destun prosiect ymchwil pwysig dan gyfarwyddyd Geraint H. Jenkins yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Un o gynhyrchion y prosiect hwnnw yw A Rattle skull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (2005). Mae synfyfyrio ar hunaniaeth genedlaethol wedi cyfuno â hudoliaeth gynhenid i wneud mytholeg a thraddodiad yn ganolbwynt astudiaethau hanesyddol Cymru.