Cyhoeddwyd y traethawd Saesneg 'Mytholeg a thraddodiad', gan R. Paul Evans, yn 1988 yn The Remaking of Wales in the Eighteenth Century, cyfrol yn y gyfres‘Welsh History and its Sources’. Pe bai’r gyfres hon wedi cael ei dyfeisio’n gynharach - yn y 1960au, dyweder - mae'n debyg na fyddai’r ddeunawfed ganrif wedi haeddu cyfrol ar wahân. O gymharu’r cyfnod â’r Canol Oesoedd neu gyfnod y Tuduriaid yng Nghymru, neu'r newidiadau dramatig sy'n gysylltiedig â'r Chwyldro Diwydiannol, a gafodd effaith fwy amlwg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd haneswyr wedi tueddu i weld y ddeunawfed ganrif yn llai arwyddocaol. Derbyniwyd bod y ddeunawfed ganrif yn gyfnod lle gwelwyd ehangiad aruthrol yn yr ymraniad yng nghymdeithas Cymru rhwng y rhai a oedd yn berchen ar ystadau helaeth (y bonedd mwyaf) a'r rhai a oedd yn berchen ar lawer llai o dir, yn ogystal â'r rhai a oedd yn ei drin (tenantiaid fferm a llafurwyr). Y farn a etifeddwyd oedd mai'r ffermwyr bach a’r rhai a oedd yn gweithio iddynt a oedd yn cynrychioli'r Gymru 'go iawn', a oedd wedi cael tröedigaeth dan law arweinwyr mawr y diwygiad Methodistaidd, a oedd wedi cael eu dysgu i ddarllen Cymraeg diolch i ysgolfeistri teithiol, a daeth i ffurfio asgwrn cefn poblogaeth barchus, ufudd i'r gyfraith, llythrennog a gwybodus Cymru, ac a gofleidiodd draddodiadau radical y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y pen draw. Prin ei bod yn syndod, felly, ar wahân i'r diwygiad Methodistaidd a'r ysgolion cylchynol, mai ychydig a ddigwyddodd yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif a oedd yn haeddu sylw.
Erbyn yr amser yr oedd cyfres ‘Welsh History and its Sources’ yn cael ei chynllunio, roedd hyn wedi newid. Roedd haneswyr wedi dechrau llenwi bylchau enfawr yn ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas y cyfnod. Yn ogystal â gwaith mwy arbenigol, roedd y ddeunawfed ganrif wedi cael ei thrin yn gynhwysfawr gan Geraint H. Jenkins yn The Foundations of Modern Wales: Wales, 1642–1780 (1993), yn rhan o’r hanes aml-gyfrol safonol o Gymru.
Un thema yr oedd haneswyr erbyn hyn wedi ymgolli ynddi ledled Ewrop oedd hunaniaeth genedlaethol a’i tharddiad hunan-ymwybodol. Agwedd a esgeuluswyd ar ysgrifennu hanes y ddeunawfed ganrif oedd y ffordd yr oedd rhai deallusion ledled Ynysoedd Prydain wedi cael eu heffeithio gan ramantiaeth, a'r ffordd yr oedd mytholeg a thraddodiad wedi'u cymysgu i atgyfnerthu ymdeimlad o arwahanrwydd cenedlaethol. O ran Cymru, ychydig o’r stori oedd yn hysbys nes cyhoeddodd Prys Morgan lyfr arloesol ar yr hyn a alwodd yn ‘ddadeni’r ddeunawfed ganrif yng Nghymru’ (The Eighteenth Century Renaissance in Wales (1981)), lle adroddodd am ymdrechion nifer o Gymry Llundain, yn ogystal â rhai o'r mân uchelwyr yng Nghymru, i gasglu hen lawysgrifau a oedd yn adrodd hanes y Gymru hynafol a balch a oedd yn ymestyn yn ôl i niwl hynafiaeth. Yn ogystal, cyfrannodd bennod ar y thema hon at gasgliad enwog o draethodau a olygwyd gan Eric Hobsbawm a Terence Ranger, dan y teitl The Invention of Tradition (1983).
Roedd R. Paul Evans yn un o fyfyrwyr ymchwil yr Athro Morgan. Pan gyhoeddwyd ‘Mythology and tradition’, roedd Evans newydd gwblhau ei ddoethuriaeth ar Thomas Pennant, ysgolhaig o ogledd Cymru yn y ddeunawfed ganrif, y gellid dadlau mai ef oedd y mwyaf o awduron teithio Cymru ac sy’n adnabyddus am ei A Tour in Wales (1778). Ers iddo gwblhau ei draethawd, mae Evans wedi parhau i gyhoeddi erthyglau ar Pennant ac wedi golygu rhywfaint o'i waith.
Mae haneswyr, yn ogystal â gwleidyddion, wedi ymgolli hyd yn oed ymhellach mewn cwestiynau ynghylch hunaniaeth genedlaethol yn Ynysoedd Prydain. Yn benodol, yn Britons: Forging the Nation, 1707–1837 (1992) mae Linda Colley yn dadlau bod y cysyniad o Brydain Fawr wedi cael ei lunio yn y ddeunawfed ganrif, yn bennaf mewn ymateb i fygythiadau allanol. Mae ei deunydd ar Gymru yn seiliedig i raddau helaeth ar syniadau a geir yn llyfr Prys Morgan ac sy’n cael sylw yn nhraethawd Evans.
Gan fod y cwestiwn ynghylch chwedl a thraddodiad yng ngwneuthuriad hanes cenedl wedi aros yn ganolog ym meddwl y Cymry, ac oherwydd bod rhai o'r cymeriadau dan sylw mor lliwgar, mae’r pwnc wedi parhau i ennyn diddordeb. Yn neilltuol, ffigwr amlwg yn nhraethawd Evans yw Edward Williams, a elwir yn fwyaf cyffredin yn ôl ei enw barddol Iolo Morganwg - saer maen medrus, llenor, bardd, dyddiadurwr a dyfeisiwr traddodiad, yn ogystal â'r ffugiwr o waith llenyddol mwyaf dawnus a welwyd erioed yng Nghymru. Mae’n gymeriad anhygoel yn hanes y genedl, un sy'n gwbl briodol yn parhau i fynnu sylw haneswyr, ac mae’n destun prosiect ymchwil pwysig dan gyfarwyddyd Geraint H. Jenkins yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Un o gynhyrchion y prosiect hwnnw yw A Rattle skull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (2005). Mae synfyfyrio ar hunaniaeth genedlaethol wedi cyfuno â hudoliaeth gynhenid i wneud mytholeg a thraddodiad yn ganolbwynt astudiaethau hanesyddol Cymru.
Un o nodweddion amlycaf Cymru’r ddeunawfed ganrif oedd cyfres o newidiadau a drawsnewidiodd holl ffabrig bywyd a chymdeithas draddodiadol Cymru. Fe wnaeth cyflymder cynyddol y newid a ddeilliodd o chwyldroadau amaethyddol a diwydiannol, a diwygiadau crefyddol ac addysgol y cyfnod, annog deffroad diwylliannol, neu ddadeni. Fe wnaeth dadfeiliad graddol ffordd hynafol ac arferol o fyw drwy gydol y ganrif ysgogi ysgolheigion Cymru i fentro am un tro olaf i adfer ac adfywio cymaint â phosibl o'u hanes hynafol, eu hiaith, eu llenyddiaeth a’u diwylliant cyn i’r cyfan ddiflannu am byth. Gwelir yr ymdeimlad hwn o frys i gael cofnod parhaol o ddiwylliant a oedd ar fin diflannu yn rhagair golygyddol Dr William Owen Pughe i gyfrol gyntaf The Cambrian Register 1796 (1A). Er bod Cymru yn meddu ar drysor helaeth o draddodiad llenyddol a llafar, roedd Pughe o’r farn mai’r mymryn lleiaf oedd wedi'i gofnodi ar gyfer y dyfodol, a’r gwaith hwn o adfer chwedlau hynafol oedd y dasg fwyaf enbyd yr oedd ysgolheigion Cymru yn ei hwynebu erbyn hynny.
Yn ei ddadansoddiad o'r dadeni diwylliannol hwn, mae’r hanesydd Prys Morgan wedi dangos bod yr hyn a ddechreuodd yn negawdau canol y ganrif fel ymgais ysgolheigaidd a threfnus i adfer traddodiad y gorffennol, yn gynyddol wedi magu arlliw o ffantasi, a hyd yn oed elfennau o ffugio mewn rhai achosion, a arweiniodd yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg at ddyfeisio traddodiad yn fwriadol. Mae'r duedd hon at y dychmygus a’r creadigol i’w gweld yn amlwg ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn enwedig mewn cymhariaeth rhwng gweithiau printiedig y Parchedig Evan Evans, 'Ieuan Fardd', ac Edward Williams, 'Iolo Morganwg'. Yn 1758 ysgrifennodd Lewis Morris, yr hynaf o bedwar brawd y Morisiaid o Fôn, yn llawn cyffro at ei gyfaill Edward Richard o Ystrad Meurig i roi gwybod iddo fod ei noddid, Evan Evans, newydd ailddarganfod darn o farddoniaeth Aneirin o’r chweched ganrif mewn hen lawysgrifau (1B). I Lewis Morris, roedd hwn yn ddarganfyddiad mor fawr ym myd llenyddol Cymru ag yr oedd darganfod America gan Columbus, gan ei fod yn profi y tu hwnt i unrhyw amheuaeth fod gan Gymru ei thraddodiad hanesyddol unigryw ei hun, y gellid ei olrhain yn ôl drwy genedlaethau. Yn 1764 cyhoeddodd Evans ffrwyth ei ymchwil yn Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards, a oedd yn arolwg ysgolheigaidd o farddoniaeth Gymraeg o'r chweched ganrif i'r unfed ganrif ar bymtheg. Yn 1773, parhaodd sgweier llenyddol y Blaenau, Rice Jones, â’r broses hon o adfer drwy gyhoeddi ei gyfrol Gorchestion Beirdd Cymru, a oedd yn cynnwys detholiad o weithiau barddonol Aneirin, Taliesin a Llywarch Hen.
Roedd gweithiau ysgolheigaidd o'r fath yn ganlyniad blynyddoedd lawer o waith ymchwil trylwyr, ond i rai Cymry gwladgarol, ac yn arbennig yn achos Iolo Morganwg, roedd yr adferiad araf, trefnus a braidd yn dameidiog hwn yn y deunydd yn llawer rhy gyfyngedig, ac ym marn Iolo nid oedd yn cyffroi rhyw lawer ar chwilfrydedd y boblogaeth yn gyffredinol. Yr hyn oedd ei angen, ym marn Iolo, oedd darlun mwy dramatig a bywiog o’r gorffennol, ac felly yn fwriadol a hunan-ymwybodol ceisiodd greu delwedd o'r fath. Yn fab i saer maen o Drefflemin ym Mro Morgannwg, roedd gan Iolo frwdfrydedd cwbl anghyffredin dros hanes a llenyddiaeth Gymraeg. Yn gaeth gydol ei oes i'r cyffur laudanum, y mae wedi cael ei ddisgrifio gan Prys Morgan fel 'eliffant twyllodrus' y traddodiad llenyddol, y mae ei ffugiadau yn enghraifft berffaith o sut aeth proses yr adferiad diwylliannol allan o reolaeth.
Pan olygodd William Owen Pughe Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym yn 1789, sef casgliad o gerddi gan y bardd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd y gwaith yn cynnwys atodiad o ryw ugain o gerddi gan Ddafydd a oedd yn anhysbys cyn hynny ac a anfonwyd at Pughe gan Iolo, a oedd yn honni ei fod wedi eu trawsgrifio o lawysgrifau aneglur o Forgannwg. Yn wir, ffugiadau Iolo ei hun oedd y cerddi, ond roedd y safon mor argyhoeddiadol fel mai dim ond yn ystod degawdau canol y ganrif hon yr oedd academyddion Cymraeg yn gallu gwahaniaethu rhwng y rhain a’r rhai gwreiddiol. Tua diwedd y 1790au cafodd Iolo ei benodi yn un o olygyddion y Myvyrian Archaiology of Wales, gwaith y bwriadwyd iddo fod yn storfa o lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a gasglwyd o amrywiaeth o hen lawysgrifau (1C). Cyhoeddwyd tair cyfrol rhwng 1801 a 1807, gyda’r ail a'r drydedd gyfrol yn cynnwys cyfran sylweddol o ddeunydd ffug a ddyfeisiwyd gan Iolo. Yn wir, roedd y drydedd gyfrol, sef yr un fwyaf poblogaidd o bell ffordd gyda'r cyhoedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn gyfan gwbl yn waith Iolo ei hunan, er nad amheuwyd hyn tan ymhell ar ôl hynny. Ond nid yw’r dyfeisio bwriadol hwn o draddodiad yn unigryw i Gymru yn unig, a dylid ei ystyried fel rhan o adfywiad rhamantus mwy cyffredinol a oedd yn cwmpasu gorllewin Ewrop gyfan. Yn yr Alban, er enghraifft, cyhoeddodd James Macpherson gyfieithiadau o gerddi Gaeleg yn 1762-3 yr oedd yn honni iddyn nhw gael eu cyfansoddi yn y drydedd ganrif yn wreiddiol, gan fardd Celtaidd o'r enw Ossian, ond ffug gyfansoddiadau Macpherson ei hunan oeddent mewn gwirionedd.
Mae darlun tebyg o fytholeg ramantus i'w weld yn adfywiad yr eisteddfod yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Er bod gan y sefydliad hwn hanes hir y gellid ei olrhain i gyfarfod o'r beirdd proffesiynol yng Nghastell Aberteifi yn 1176, erbyn diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg roedd yr eisteddfod mewn cyflwr o ddirywiad difrifol. Yn 1694, bu farw'r olaf o'r beirdd cartref proffesiynol, ac nid oedd yr eisteddfodau bach plwyfol a ddaeth i'r amlwg ar ôl y dyddiad hwn yn fawr mwy na chynulliadau o lond llaw o feirdd amatur a oedd yn cyfarfod i adrodd eu cyfansoddiadau dros beint o gwrw yn y dafarn leol, ac yn sgil hynny daethant yn adnabyddus fel 'eisteddfodau’r Dafarn'. Roedd hysbysiadau am gyfarfodydd yn cael eu hargraffu weithiau mewn almanaciau Cymraeg, yn yr un modd â rhai o'r cyfansoddiadau buddugol. Pan aeth y bardd a’r cyhoeddwr oedrannus Siôn Rhydderch i eisteddfod yn Nolgellau yn 1734, roedd yn siomedig tu hwnt wrth weld mai ychydig iawn oedd yn bresennol (1D), a rhoddodd y bai am hynny ar y diffyg nawdd gan y bonedd ac ar ddirywiad y Gymraeg. Yn ei farn ef, nid oedd llawer o obaith o unrhyw adfywiad oni bai y gellid gwrthdroi’r duedd gyfredol o ddirywiad, ac y gellid dod o hyd i ryw fath o nawdd ac anogaeth.
Fel mae’n digwydd, ni ellir canfod unrhyw adfywiad ar raddfa fawr tan 1789, ac yn y flwyddyn honno cynhaliwyd tair eisteddfod bwysig yng ngogledd ddwyrain Cymru. Ymgymerodd dau wladgarwr lleol â’r fenter, sef y bardd Jonathan Hughes o Langollen a’r ecseismon Thomas Jones o Gorwen, ond roedd llwyddiant cyffredinol y fenter yn ganlyniad i anogaeth a chymorth ariannol a dderbyniwyd gan Gymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain, a oedd yn fath o glwb diwylliannol a llawen i rai o ogledd Cymru oedd yn byw yn y brifddinas. Ym mis Ionawr 1789, trefnodd Hughes eisteddfod yn Llangollen, ond oherwydd y tywydd gaeafol dim ond ychydig o feirdd a fu yno, ac yn y mis dilynol ysgrifennodd at Gymdeithas y Gwyneddigion yn apelio am eu cefnogaeth i helpu i drefnu cyfarfod pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn (1E).Ymatebodd y Gwyneddigion i'r her, ac roedd yr eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghorwen ym mis Mai ac yn y Bala ym mis Medi yn llwyddiant mawr, a nododd ddechrau cyfnod newydd a llewyrchus i’r sefydliad (1F). Er mwyn denu cynulleidfa ehangach, mabwysiadwyd dulliau newydd a threfnwyd cystadlaethau ar gyfer cantorion ac offerynwyr - pethau nad oedd wedi cael eu llwyfannu ers cyfnod y Tuduriaid - yn ychwanegol at y cystadlaethau barddoniaeth traddodiadol. Yn Eisteddfod Llanelwy yn 1791, roedd y gystadleuaeth canu penillion yn para tua thair awr ar ddeg, er mawr ddifyrrwch i’r gynulleidfa. Darparwyd medalau, a gynlluniwyd yn arbennig gan y cerflunydd enwog o Ffrainc, Dupré, gan y Gwyneddigion. Felly, roedd yr hyn a ‘ail-ddarganfuwyd' yn 1789 yn gyfuniad bwriadus o'r hen a'r newydd, yn draddodiad hynafol a seremonïau yn cyfuno â myth ac arloesi mewn ymgais i adfywio'r sefydliad a sicrhau dilyniant mwy poblogaidd.
Enynnodd llwyddiant yr eisteddfod a adfywiwyd yng ngogledd ddwyrain Cymru genfigen Iolo Morganwg, ac mewn ymgais fwriadol i brofi y gallai ei ranbarth brodorol yn ne Cymru hawlio bod ganddi seremonïau hynafol tebyg, dyfeisiodd ‘Orsedd Beirdd Ynys Prydain’ sydd bellach mor gyfarwydd. Honnodd fod yr 'Orsedd' hon yn rhan o ddefod dderwyddol hynafol a oedd wedi goroesi ar fryniau anghysbell Morgannwg yn unig, ac mai ef ac Edward Evan o Aberdâr oedd yr olaf o'r beirdd derwyddol, ac mai dyna pam roedd angen tynnu sylw at y seremoni hon. Cynhaliodd ei gynulliad cyhoeddus cyntaf ar Fryn y Briallu yn Llundain ar 21 Mehefin 1792, a sicrhaodd fod cyfeiriadau at y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi mewn papurau newydd a chylchgronau blaenllaw (1G). Honnodd Iolo y gellid olrhain y seremoni hon yn ôl bron yn ddigyfnewid am tua dwy fil o flynyddoedd, ac er bod y berthynas gyfan wedi cyffroi dychymyg ffrwythlon aelodau'r Gwyneddigion, nid oedd pob ysgolhaig yn gwbl argyhoeddedig. Un o'r rhai a oedd yn amau oedd John Walters o Landochau, a ysgrifennodd at Edward Davies yn 1792 (1H) yn mynegi ei gred fod syniadau Iolo ar farddas yn ffug, ac yn ddim byd mwy na dyfeisgarwch gwyllt. Serch hynny, yn 1819, llwyddodd Iolo i sicrhau bod seremoni’r Orsedd yn cael ei hymgorffori yn nhrefn yr eisteddfod yng Nghaerfyrddin, a dyfeisiodd amrywiaeth o wisgoedd, defodau a regalia, er bod regalia presennol yr Orsedd yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg . Y mae braidd yn eironig fod yr hyn sy’n cael ei ystyried gan filiynau heddiw fel y mwyaf traddodiadol a hynafol o seremonïau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ffantasi pur yn ei hanfod, o ganlyniad i awydd rhyfeddol un dyn i greu delwedd ddeniadol a chydlynol o'r gorffennol.
Gwelwyd adfywiad yn ystod y ddeunawfed ganrif yn y diddordeb mewn llên farddol a derwyddol hynafol, ac fe wnaeth hyn helpu i greu awyrgylch lle’r oedd Gorsedd Iolo yn ymddangos yn eithaf credadwy a derbyniol. Yn dilyn esgyniad y Tuduriaid yn 1485 collodd Cymru ei thraddodiad hanesyddol unigryw ei hunan, a gafodd ei hamsugno i hanes llinachol Prydain. Nid tan 1707 y darparodd yr ieithegwr Edward Llwyd weledigaeth newydd ac eithaf annibynnol i’r Cymry ar eu gorffennol, pan brofodd fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i Gernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg, ac y gellid olrhain y cyfan ohonynt yn ôl i hynafiad cyffredin a alwodd yn 'Gelteg'. Fe wnaeth y syniadau a gyflwynwyd gan Llwyd a chan yr abad o Lydaw, Paul-Yves Pezron, weithredu fel catalydd i ysgogi diddordeb yn y traddodiad Celtaidd, yn enwedig i weithgareddau’r Derwyddon, yr offeiriaid crefyddol Celtaidd. Cafodd cyfraniad Llwyd a Pezron ei gydnabod gan y Parchedig Henry Rowlands o Lanidan (1I), a gafodd ei alw'n 'Stukeley Cymru' am ei waith arloesol yn adfer delwedd urdd y derwyddon. Yn 1723 cyhoeddodd Rowlands ei Mona Antiqua Restaurata, lle ceisiodd ddangos mai Ynys Môn oedd canolbwynt yr urdd dderwyddol (1J). Seiliodd ei ragdybiaethau ar ddehongliadau crai o enwau lleoedd fel Tre'r Dryw, a gyfieithodd heb argyhoeddi fel ‘Tref y Derwyddon', ac ar weddillion archeolegol henebion cerrig megalithig yr oedd yn credu eu bod yn olion allorau a themlau derwyddon. Gwnaeth lawer i boblogeiddio delwedd yr offeiriad derwyddol hynafol, ac fe wnaeth ei waith helpu i brysuro cyfnod o 'ffoli ar dderwyddon' tua diwedd y ddeunawfed ganrif.
Aeth twristiaid, wedi eu hysbrydoli yn amlwg gan y syniadau Rowlands, i bob twll a chornel yn Ynys Môn i chwilio am olion derwyddol (1K, 1L), tra bod nifer wedi dod ag artistiaid gyda nhw, a gomisiynwyd i baentio golygfeydd o'r allorau a’r temlau adfeiliedig. Roedd hynafiaethwyr a haneswyr fel Richard Colt Hoare a Richard Fenton wrth eu bodd gyda delweddau o’r derwyddon hynafol, ac roeddent yn frwd dros gloddio tomenni claddu a beddau. Yn ei Historical Tour through Pembrokeshire (1811), mae Fenton yn cyfeirio'n aml at olion derwyddol, fel yn ei ddisgrifiad o bentref Drewson, er enghraifft (1M), yr honnodd ei fod yn llygriad o 'Druids town', ac a oedd ar un adeg yn cynnwys cylch meini’r Orsedd. Cyhoeddodd Edward Davies, a lysenwid 'Celtic Davies' ei Celtic Researches ym 1804 a The Mythology and Rites of the British Druids ym 1809, lle cyflwynodd syniadau ffansïol ar lên dderwyddol, ac eto ar yr un pryd amheuai ddilysrwydd Gorsedd y Beirdd Iolo.
Agwedd arall ar yr adfywiad hwn mewn diddordeb yn nhraddodiad y gorffennol oedd ymddangosiad nifer o arwyr gwerin cenedlaethol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, rhai yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol cadarn, ac eraill ar ffantasi pur. Yn y 1770 au, darluniwyd Owain Glyndŵr gan yr ysgolheigion Evan Evans a Thomas Pennant am y tro cyntaf fel arwr cenedlaethol mawr yng Nghymru, nid fel y bradwr hanner call a gwrthryfelwyr yn erbyn coron Lloegr a bortreadwyd yn flaenorol. Erbyn diwedd y ganrif roedd twristiaid o Loegr yn cyfeirio at Ddyffryn Dyfrdwy fel 'Gwlad Glyndŵr', ac roedd lluniau ohono i’w gweld ar hysbysfyrddau tafarndai a gwestai yn yr ardal. Yn un o gerddi enwocaf y ddeunawfed ganrif, fe wnaeth y bardd o Loegr, Thomas Gray, boblogeiddio hanes y bardd o Gymru a daflodd ei hun o ben dibyn mawr i mewn i afon Conwy er mwyn dianc rhag y gyflafan lle lladdwyd ei gydweithwyr ar orchymyn Edward I yn fuan ar ôl 1282 (1N). Er mai dychymyg llwyr oedd hyn, daeth ‘Bardd' Gray yn ffigwr poblogaidd yn y 1770au a'r 1780au, yn enwedig ymhlith twristiaid o Loegr a heidiai i'r bryniau uwchben Conwy i weld y fan lle dywedwyd fod hyn wedi digwydd (1O). Dyma hefyd oedd y thema ar gyfer nifer o baentiadau enwog gan Paul Sandby, Philippe de Loutherbourg a Thomas Jones, Pencerrig. Mewn ymgais ddigywilydd i annog twristiaid o Loegr i ymweld â gogledd Cymru, fe wnaeth un perchennog gwesty mentrus o Feddgelert ddyfeisio chwedl yn y 1780au fod y pentref wedi cael ei enw o fedd Gelert, milgi a oedd wedi cael ei ladd ar gam gan ei feistr, Llywelyn Fawr. Erbyn taith Michael Faraday o amgylch Cymru yn 1819, gallai gofnodi yn ei gylchgrawn fod stori Gelert yn gyfarwydd i bawb (1P), ac yn 1811 daeth yn destun cerdd enwog gan William Spencer. Heddiw, mae'n stori adnabyddus i bob plentyn ysgol yng Nghymru, ac mae'n enghraifft dda o ba mor hawdd y gellid camgymryd dyfais wyllt am draddodiad gwirioneddol.
Y mwyaf nodedig o'r holl greadigaethau chwedlonol hyn oedd stori Madog ap Owain Gwynedd, tywysog o'r ddeuddegfed ganrif yr honnwyd ei fod wedi darganfod America ym 1170, rhyw dri chan mlynedd cyn Columbus. Roedd y myth wedi ymddangos am y tro cyntaf yn ystod cyfnod y Tuduriaid, ond cafodd ail adfywiad mwy grymus yn y 1790au, pan drawyd Cymry Llundain gan 'dwymyn Madog'. Ym 1791 cafwyd adroddiadau fod grŵp o Indiaid a alwyd yn 'Mandaniaid' neu 'Padoucas' wedi’u darganfod ar lan afon Missouri, a dywedwyd eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol i Madog a’u bod yn dal i siarad Cymraeg. Roedd David Samwell, llawfeddyg o Gymru ac aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion, a oedd wedi teithio gyda Chapten Cook o amgylch y byd, yn gyfan gwbl argyhoeddedig fod y stori’n wir, yn yr un modd â llawer o Gymry Llundain (1Q). Fe wnaeth y Gwyneddigion, wedi’u sbarduno gan Iolo Morganwg, a oedd wedi ffugio dogfennau er mwyn helpu i gadarnhau’r honiad, gytuno i dalu am daith i chwilio am Indiaid Mandan, dan arweiniad gŵr ifanc o’r enw John Evans o Waunfawr ger Caernarfon (1R). Ar ôl taith hir a pheryglus, cyrhaeddodd Evans Indiaid Mandan yn 1786, ond darganfu nad oeddent yn siarad Cymraeg. Serch hynny, daeth stori Madog yn chwedl bwerus, a phan luniodd Thomas Stephens o Ferthyr Tudful draethawd arobryn ar Madog yn Eisteddfod Llangollen yn 1858, ni ddyfarnwyd gwobr iddo am fod ei draethawd yn profi na allai Madog fod wedi darganfod America.
Ynghlwm wrth y mudiad hwn i ddarparu ymdeimlad o hunaniaeth a chenedligrwydd i’r Cymry, daeth amrywiaeth eang o arwyddion, symbolau a regalia. Soniwyd eisoes am y cysylltiad a wnaed rhwng cromlechi a meini hirion a gydag allorau derwyddon, ac yn 1751, pan gynlluniodd Lewis Morris faner ar gyfer Cymdeithas newydd y Cymmrodorion o Gymry Llundain, dewisodd y derwydd hynafol a Dewi Sant fel y ddau ffigur ategol ar yr arfbais a’r symbolau. Ymddangosodd y derwydd ar dudalennau blaen nifer o lyfrau ar Gymru, tra bod Iolo Morganwg wedi gwneud llawer i feithrin myth y cylch barddol neu’r Orsedd. Daeth y delyn, y genhinen a gafr wyllt y mynyddoedd hefyd i'r amlwg fel symbolau cynrychioliadol o draddodiad Cymru, fel y gwnaeth tair pluen estrys Tywysog Cymru. Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth y ddraig goch yn symbol poblogaidd, tra yn y 1830 au, creodd Augusta Waddington, Arglwyddes Llanofer, yr hyn sydd bellach yn cael ei ystyried fel gwisg genedlaethol draddodiadol Cymru, sy'n cynnwys clogyn coch mawr a het ddu uchel. Arweiniodd y gwaith hwn o ddatblygu cyfoeth o arwyddluniau at ymgorffori ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chenedlaetholgar gref o draddodiadau’r gorffennol.
Fe wnaeth y twristiaid o Loegr, a ymwelodd â Chymru yn gynyddol o tua 1770 ymlaen, hefyd helpu i greu delwedd newydd o Gymru fel gwlad o harddwch hyfryd, swyn rhamantus a hynodrwydd. Roedd y Parchedig William Gilpin, a fu ar daith o gwmpas de Cymru ym 1770 a’r gogledd ym 1773, wrth ei fodd gyda’r golygfeydd hardd a welodd ar ei deithiau (1S), tra dechreuodd arlunwyr tirwedd bortreadu rhanbarthau mynyddig Cymru fel ardaloedd o harddwch naturiol gwych. Daeth yr artist brodorol Richard Wilson yn enwog trwy ei baentiadau olew o olygfeydd fel ‘Llyn Peris a Chastell Dolbadarn’, ‘yr Wyddfa o Lyn Nantlle’, a ‘Llyn-y-Cae dan Gader Idris’. Daeth tirluniau Wilson mor enwog yn fuan ar ôl ei farwolaeth yn 1782 fel bod teithwyr yn cyfeirio at Lyn-y-Cae fel 'Pwll Wilson'. Gyda'i gilydd, creodd yr awduron teithio a’r arlunwyr ddelwedd newydd o Gymru fel gwlad o ddiddordeb hanesyddol mawr a harddwch naturiol, traddodiad sydd wedi aros hyd heddiw, ond sydd wirioneddol yn wahanol iawn i’r feirniadaeth lem iawn (a oedd yn aml yn feirniadaethau ymosodol) a gofnodwyd gan yr ychydig o deithwyr o Loegr a oedd wedi ymweld â Chymru yn gynharach yn y ganrif honno (1T).
Felly, dylid ystyried y mudiad tuag at adfer ac adfywio traddodiadau’r gorffennol fel rhan o ymgais i ddarparu'r ymdeimlad o hunaniaeth a chenedligrwydd i’r Cymry. Lle’r oedd yr adferiad hwnnw o draddodiad gwirioneddol yn annigonol neu'n annymunol, yna roedd gwladgarwyr Cymru yn barod i fywiogi'r stori drwy ychwanegu elfen o ffantasi neu ddyfais. Yn ei hanfod, yr oedd yn golygu addasu myth a thraddodiad i gyd-fynd â chwaeth cymdeithas, a oedd yn ymdrin ag ymgais anobeithiol i ddatgelu ei gwreiddiau.
Uned 2 Diwylliant poblogaidd yng Nghymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd (1945–1995)