Para 1.10
Agwedd arall ar yr adfywiad hwn mewn diddordeb yn nhraddodiad y gorffennol oedd ymddangosiad nifer o arwyr gwerin cenedlaethol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, rhai yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol cadarn, ac eraill ar ffantasi pur. Yn y 1770 au, darluniwyd Owain Glyndŵr gan yr ysgolheigion Evan Evans a Thomas Pennant am y tro cyntaf fel arwr cenedlaethol mawr yng Nghymru, nid fel y bradwr hanner call a gwrthryfelwyr yn erbyn coron Lloegr a bortreadwyd yn flaenorol. Erbyn diwedd y ganrif roedd twristiaid o Loegr yn cyfeirio at Ddyffryn Dyfrdwy fel 'Gwlad Glyndŵr', ac roedd lluniau ohono i’w gweld ar hysbysfyrddau tafarndai a gwestai yn yr ardal. Yn un o gerddi enwocaf y ddeunawfed ganrif, fe wnaeth y bardd o Loegr, Thomas Gray, boblogeiddio hanes y bardd o Gymru a daflodd ei hun o ben dibyn mawr i mewn i afon Conwy er mwyn dianc rhag y gyflafan lle lladdwyd ei gydweithwyr ar orchymyn Edward I yn fuan ar ôl 1282 (1N [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Er mai dychymyg llwyr oedd hyn, daeth ‘Bardd' Gray yn ffigwr poblogaidd yn y 1770au a'r 1780au, yn enwedig ymhlith twristiaid o Loegr a heidiai i'r bryniau uwchben Conwy i weld y fan lle dywedwyd fod hyn wedi digwydd (1O). Dyma hefyd oedd y thema ar gyfer nifer o baentiadau enwog gan Paul Sandby, Philippe de Loutherbourg a Thomas Jones, Pencerrig. Mewn ymgais ddigywilydd i annog twristiaid o Loegr i ymweld â gogledd Cymru, fe wnaeth un perchennog gwesty mentrus o Feddgelert ddyfeisio chwedl yn y 1780au fod y pentref wedi cael ei enw o fedd Gelert, milgi a oedd wedi cael ei ladd ar gam gan ei feistr, Llywelyn Fawr. Erbyn taith Michael Faraday o amgylch Cymru yn 1819, gallai gofnodi yn ei gylchgrawn fod stori Gelert yn gyfarwydd i bawb (1P), ac yn 1811 daeth yn destun cerdd enwog gan William Spencer. Heddiw, mae'n stori adnabyddus i bob plentyn ysgol yng Nghymru, ac mae'n enghraifft dda o ba mor hawdd y gellid camgymryd dyfais wyllt am draddodiad gwirioneddol.