Para 1.13

Fe wnaeth y twristiaid o Loegr, a ymwelodd â Chymru yn gynyddol o tua 1770 ymlaen, hefyd helpu i greu delwedd newydd o Gymru fel gwlad o harddwch hyfryd, swyn rhamantus a hynodrwydd. Roedd y Parchedig William Gilpin, a fu ar daith o gwmpas de Cymru ym 1770 a’r gogledd ym 1773, wrth ei fodd gyda’r golygfeydd hardd a welodd ar ei deithiau (1S [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ), tra dechreuodd arlunwyr tirwedd bortreadu rhanbarthau mynyddig Cymru fel ardaloedd o harddwch naturiol gwych. Daeth yr artist brodorol Richard Wilson yn enwog trwy ei baentiadau olew o olygfeydd fel ‘Llyn Peris a Chastell Dolbadarn’, ‘yr Wyddfa o Lyn Nantlle’, a ‘Llyn-y-Cae dan Gader Idris’. Daeth tirluniau Wilson mor enwog yn fuan ar ôl ei farwolaeth yn 1782 fel bod teithwyr yn cyfeirio at Lyn-y-Cae fel 'Pwll Wilson'. Gyda'i gilydd, creodd yr awduron teithio a’r arlunwyr ddelwedd newydd o Gymru fel gwlad o ddiddordeb hanesyddol mawr a harddwch naturiol, traddodiad sydd wedi aros hyd heddiw, ond sydd wirioneddol yn wahanol iawn i’r feirniadaeth lem iawn (a oedd yn aml yn feirniadaethau ymosodol) a gofnodwyd gan yr ychydig o deithwyr o Loegr a oedd wedi ymweld â Chymru yn gynharach yn y ganrif honno (1T).