Para 1.5
Mae darlun tebyg o fytholeg ramantus i'w weld yn adfywiad yr eisteddfod yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Er bod gan y sefydliad hwn hanes hir y gellid ei olrhain i gyfarfod o'r beirdd proffesiynol yng Nghastell Aberteifi yn 1176, erbyn diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg roedd yr eisteddfod mewn cyflwr o ddirywiad difrifol. Yn 1694, bu farw'r olaf o'r beirdd cartref proffesiynol, ac nid oedd yr eisteddfodau bach plwyfol a ddaeth i'r amlwg ar ôl y dyddiad hwn yn fawr mwy na chynulliadau o lond llaw o feirdd amatur a oedd yn cyfarfod i adrodd eu cyfansoddiadau dros beint o gwrw yn y dafarn leol, ac yn sgil hynny daethant yn adnabyddus fel 'eisteddfodau’r Dafarn'. Roedd hysbysiadau am gyfarfodydd yn cael eu hargraffu weithiau mewn almanaciau Cymraeg, yn yr un modd â rhai o'r cyfansoddiadau buddugol. Pan aeth y bardd a’r cyhoeddwr oedrannus Siôn Rhydderch i eisteddfod yn Nolgellau yn 1734, roedd yn siomedig tu hwnt wrth weld mai ychydig iawn oedd yn bresennol (1D [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ), a rhoddodd y bai am hynny ar y diffyg nawdd gan y bonedd ac ar ddirywiad y Gymraeg. Yn ei farn ef, nid oedd llawer o obaith o unrhyw adfywiad oni bai y gellid gwrthdroi’r duedd gyfredol o ddirywiad, ac y gellid dod o hyd i ryw fath o nawdd ac anogaeth.