Para 1.6
Fel mae’n digwydd, ni ellir canfod unrhyw adfywiad ar raddfa fawr tan 1789, ac yn y flwyddyn honno cynhaliwyd tair eisteddfod bwysig yng ngogledd ddwyrain Cymru. Ymgymerodd dau wladgarwr lleol â’r fenter, sef y bardd Jonathan Hughes o Langollen a’r ecseismon Thomas Jones o Gorwen, ond roedd llwyddiant cyffredinol y fenter yn ganlyniad i anogaeth a chymorth ariannol a dderbyniwyd gan Gymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain, a oedd yn fath o glwb diwylliannol a llawen i rai o ogledd Cymru oedd yn byw yn y brifddinas. Ym mis Ionawr 1789, trefnodd Hughes eisteddfod yn Llangollen, ond oherwydd y tywydd gaeafol dim ond ychydig o feirdd a fu yno, ac yn y mis dilynol ysgrifennodd at Gymdeithas y Gwyneddigion yn apelio am eu cefnogaeth i helpu i drefnu cyfarfod pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn (1E [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ).Ymatebodd y Gwyneddigion i'r her, ac roedd yr eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghorwen ym mis Mai ac yn y Bala ym mis Medi yn llwyddiant mawr, a nododd ddechrau cyfnod newydd a llewyrchus i’r sefydliad (1F). Er mwyn denu cynulleidfa ehangach, mabwysiadwyd dulliau newydd a threfnwyd cystadlaethau ar gyfer cantorion ac offerynwyr - pethau nad oedd wedi cael eu llwyfannu ers cyfnod y Tuduriaid - yn ychwanegol at y cystadlaethau barddoniaeth traddodiadol. Yn Eisteddfod Llanelwy yn 1791, roedd y gystadleuaeth canu penillion yn para tua thair awr ar ddeg, er mawr ddifyrrwch i’r gynulleidfa. Darparwyd medalau, a gynlluniwyd yn arbennig gan y cerflunydd enwog o Ffrainc, Dupré, gan y Gwyneddigion. Felly, roedd yr hyn a ‘ail-ddarganfuwyd' yn 1789 yn gyfuniad bwriadus o'r hen a'r newydd, yn draddodiad hynafol a seremonïau yn cyfuno â myth ac arloesi mewn ymgais i adfywio'r sefydliad a sicrhau dilyniant mwy poblogaidd.