Para 1.9
Aeth twristiaid, wedi eu hysbrydoli yn amlwg gan y syniadau Rowlands, i bob twll a chornel yn Ynys Môn i chwilio am olion derwyddol (1K [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , 1L), tra bod nifer wedi dod ag artistiaid gyda nhw, a gomisiynwyd i baentio golygfeydd o'r allorau a’r temlau adfeiliedig. Roedd hynafiaethwyr a haneswyr fel Richard Colt Hoare a Richard Fenton wrth eu bodd gyda delweddau o’r derwyddon hynafol, ac roeddent yn frwd dros gloddio tomenni claddu a beddau. Yn ei Historical Tour through Pembrokeshire (1811), mae Fenton yn cyfeirio'n aml at olion derwyddol, fel yn ei ddisgrifiad o bentref Drewson, er enghraifft (1M), yr honnodd ei fod yn llygriad o 'Druids town', ac a oedd ar un adeg yn cynnwys cylch meini’r Orsedd. Cyhoeddodd Edward Davies, a lysenwid 'Celtic Davies' ei Celtic Researches ym 1804 a The Mythology and Rites of the British Druids ym 1809, lle cyflwynodd syniadau ffansïol ar lên dderwyddol, ac eto ar yr un pryd amheuai ddilysrwydd Gorsedd y Beirdd Iolo.