Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Thursday, 28 March 2024, 6:06 PM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2024 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Thursday, 28 March 2024, 6:06 PM

Uned 2 Diwylliant poblogaidd yng Nghymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd (1945–1995)

Rhagair (Gareth Elwyn Jones)

Mae 'Diwylliant poblogaidd' gan Peter Stead yn draethawd a gomisiynwyd ar gyfer y gyfrol yng nghyfres 'Hanes Cymru a'i Ffynonellau' a oedd yn ystyried agweddau ar hanes Cymru yn y cyfnod rhwng 1945 a chanol y 1990au. Pe bai'r llyfr wedi ei gynllunio dau ddegawd yn gynharach, mae'n annhebygol y byddai thema diwylliant poblogaidd wedi cael ei chynnwys. Yn wahanol i hanes gwleidyddol neu economaidd, ni fyddai wedi cael ei hystyried yn ddigon arwyddocaol. Byddai diwylliant poblogaidd, yn enwedig agweddau fel chwaraeon a cherddoriaeth boblogaidd, wedi cael eu cynnwys mewn triniaeth ehangach o gymdeithas Cymru, pe bydden nhw wedi cael eu crybwyll o gwbl mewn gwirionedd. Roedd hanes o'r fath, lle’r oedd i’w gael, yn tueddu i fod yn faes i haneswyr a newyddiadurwyr amatur a ysgrifennai, er enghraifft, hanes clybiau criced unigol neu deithiau rygbi, fel cofnod ardderchog y gohebydd chwaraeon J.B.G. Thomas o daith tîm rygbi Llewod Prydain i Dde Affrica, The Lions on Trek (1956).

Bu newid yn y sefyllfa yn sgil cyhoeddi Fields of Praise gan Dai Smith a Gareth Williams (1980), hanes swyddogol Undeb Rygbi Cymru. Rhoddodd dau o haneswyr cymdeithasol mwyaf blaenllaw Cymru hanes y gêm yn ei gyd-destun cymdeithasol ac economaidd i gynhyrchu gwaith arloesol ar hanes cymdeithasol. Ers hynny, mae diwylliant poblogaidd Cymru, ei chwaraeon, ei cherddoriaeth, ei ffilmiau, ei llenyddiaeth a'i chyfryngau, wedi denu sylw haneswyr academaidd fel na fyddai unrhyw un yn awr yn gwadu bod y pwnc hwn yn ganolog i hanes cymdeithasol Cymru. Mae haneswyr mewn prifysgolion ledled Cymru erbyn hyn yn arbenigo ar hanes chwaraeon a cherddoriaeth gymunedol yn ei gyd-destun cymdeithasol.

Mae Peter Stead wedi chwarae rhan bwysig o ran codi proffil agweddau ar ddiwylliant poblogaidd fel pynciau sy’n deilwng o astudiaeth gan haneswyr o bwys. Mae'n hanesydd academaidd, a oedd yn gweithio yn adran hanes Prifysgol Abertawe ac yn ddiweddarach a ddaeth yn athro allanol ym Mhrifysgol Morgannwg. Y mae yn y sefyllfa ffodus o allu cyfuno ei ddiddordebau proffesiynol fel hanesydd gyda’i ddiddordeb brwd mewn chwaraeon, ffilm a theatr. Mae'n cyfrannu’n rheolaidd ar y pynciau hyn ar y radio a’r teledu.

Y mae wedi ysgrifennu neu olygu llyfrau ar y cyd ar bwnc ffilmiau, gan gynnwys Richard Burton: So Much, So Little (1995), a cherddoriaeth, gan gynnwys Hymns and Arias: Great Welsh Voices (Herbert and Stead, 2001). Gan adlewyrchu ei ddiddordeb brwd ei hunan mewn chwaraeon, mae ei gyhoeddiadau wedi ymdrin â rygbi, pêl-droed a bocswyr enwog o Gymru. Ond ei ddull, yn ogystal â'r pwnc, sy'n arwyddocaol. Nid yw'n rhoi arolygon yn unig o ffilmiau o Gymru neu yrfaoedd enwogion chwaraeon Cymru i ni. Yn Acting Wales: Stars of Stage and Screen (2002), er enghraifft, mae Stead yn ymdrin â chymdeithaseg actio Cymru, gan werthuso’r ffordd y mae agweddau a nodweddion unigryw gymreig mawrion fel Stanley Baker, Anthony Hopkins a Siân Phillips wedi cael eu hadlewyrchu yn eu gwaith. Mae dull o'r fath wedi cyfoethogi hanesyddiaeth diwylliant poblogaidd yn fawr iawn.

Serch hynny, waeth pa mor enwog yw Stead yn ei faes, nid ef sy’n cael y gair olaf ar hanes diwylliannol y cyfnod. Byddai haneswyr eraill bron yn sicr yn rhoi pwyslais ar bethau gwahanol ac yn cyfeirio at ddiddordebau gwahanol. Er enghraifft, er bod Stead yn crwydro’n eang yn ei draethawd dros sawl agwedd ar ddiwylliant poblogaidd, efallai y gellid dadlau nad yw'n delio â rhai themâu, neu ei fod yn rhoi gormod o bwyslais ar rai agweddau ar ddiwylliant poblogaidd yn lle rhai eraill. Mae'n werth cadw mewn cof hefyd nad yw'n siarad Cymraeg, a’i fod wedi byw yn ne Cymru ar hyd ei oes. Gan hynny, efallai na fydd ei draethawd yn tynnu sylw digonol at y ddeuoliaeth y gellid dadlau sy'n bodoli rhwng diddordebau diwylliannol mewn ardaloedd Cymraeg yng nghefn gwlad Cymru ac ardaloedd trefol, er enghraifft.

Un o nodweddion unigryw'r traethawd hwn - a gellir ei weld naill ai fel cryfder neu fel gwendid - yw bod Stead wedi byw trwy gydol y cyfnod y mae'n ysgrifennu amdano, ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o rai o'r digwyddiadau y mae’n sôn amdanynt. Fel pob ffynhonnell, mae ei atgofion yn amhrisiadwy gan eu bod yn cynnig golwg unigryw - nid yn gymaint ar y ffeithiau, ond ar y profiad, yr awyrgylch a’r ymdeimlad o gyffro yn rhai o'r digwyddiadau y mae ef yn eu disgrifio. Ar yr un pryd, gall cof fod yn ffaeledig, a dylid gosod atgofion Stead ochr yn ochr â rhai ei gyfoeswyr.

Diwylliant Poblogaidd (Peter Stead)

Para 2.1

Yn 1945 rhagwelai pobl Cymru y byddai adferiad economaidd a'r wladwriaeth les yn creu hyder cymdeithasol newydd, a fyddai yn ei dro yn ysgogi adfywiad o ddiwylliant traddodiadol a nodedig. Roedd gwleidyddion Llafur a oedd newydd gael eu grymuso yn disgrifio eu gwaith fel 'adeiladu Jerwsalem newydd', ac eto yn anaml yr ystyriwyd eu bod yn llamu i’r tywyllwch. Pan siaradodd Aneurin Bevan am sut yr oedd ef a'i debyg 'yn gynnyrch gwareiddiad diwydiannol’ a sut yr oedd eu 'seicoleg yn cyfateb i’r ffaith honno', roedd yn gosod ei wleidyddiaeth ar sail yr hyn a ystyriodd ei fod yn ymdeimlad cyffredinol, ac wedi'i datblygu'n dda, o’r gymdeithas yng Nghymru. Roedd hon yn genhedlaeth a oedd wedi profi Hanes: roedd atgofion personol, teuluol a thorfol o streiciau, cau allan, diweithdra, esgeulustod, ac yna, yn fwy diweddar, gofynion rhyfel cyffredinol. Roeddent yn bobl a oedd yn ddiamynedd wrth feddwl am ddiosg eu cyflwr difreintiedig ac ymrwymo i adnewyddu a blodeuo yn helaeth y brwdfrydedd hwnnw a rennid, gyda nifer o’r pethau hyn wedi tarddu o amser a oedd yn cael ei gofio fel cyfnod cynharach o normalrwydd economaidd a chymdeithasol.

Para 2.2

Er yr holl sôn am 'Jerwsalem newydd', nid oedd pobl Cymru yn byw mewn dinas, ond yn hytrach mewn rhwydwaith o drefi bychan a phentrefi lled-drefol a oedd fel arfer wedi datblygu at ddibenion masnachol neu ddiwydiannol penodol, ac a oedd, i raddau eithaf rhyfeddol, yn rhannu unffurfiaeth a diwylliant trefol digamsyniol. Hanfod y diwylliant hwnnw oedd cyfranogiad torfol gweithwyr diwydiannol, ac i raddau llai eu teuluoedd, mewn rownd lawn o weithgareddau amser hamdden a oedd wedi’u trefnu. Roedd y patrwm wedi ei sefydlu yn y ddau neu dri degawd o dwf economaidd a chyflogau uchel ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac a oedd wedi cyrraedd uchafbwynt gwyllt yn y degawd diwethaf cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn ddiwylliant lle’r oedd cefnogaeth gref ar gyfer gwasanaethau enwadau crefyddol yn bodoli ochr yn ochr â chyfranogiad dwys a hynod gystadleuol mewn digwyddiadau cerddorol a chwaraeon. Yn anochel, parodd difrod y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd i’r diwylliant golli llawer o'i ddisgleirdeb, ei frys a’i falchder, ond serch hynny, yr oedd wedi hercio ymlaen. Roedd aildrefnu, newid pwyslais a hyd yn oed eiliadau o gyflawniad gwirioneddol. Roedd Cymru wedi dod yn fwy seciwlar; roedd llai o weinidogion a llai o gymunwyr, ac yn gynyddol roedd y corau, y bandiau a’r grwpiau operatig a dramatig amatur hynny a oroesodd neu a oedd newydd eu sefydlu yn cael eu rhedeg yn annibynnol gan bwyllgorau. Yn ogystal, daeth Cymru yn fwy goddefol, gyda llawer yn dewis adloniant neu hamdden fel unigolion yn hytrach na chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau wedi'u trefnu. Y sinema oedd testun brwdfrydedd mawr y cyfnod, ac roedd llawer o arweinwyr crefyddol a gwleidyddol yn synhwyro eu bod wedi colli cenhedlaeth i’r hyn yr oeddent yn ei ystyried fel amsugno difeddwl melodrama estron i raddau helaeth. Rhywbeth a oedd yn peri llawer mwy o bryder oedd y ffaith mai yn anaml y byddai llawer o bobl yn dod allan o'u cartrefi o gwbl, ac os oeddent yn gwneud hynny, dim ond i dreulio amser mewn tafarndai, clybiau a salwnau biliards y byddent yn gwneud hynny. Ychydig iawn o arweinwyr cymdeithasol oedd yn tybio mai difaterwch oedd un o ddrygau mwyaf y Dirwasgiad, ac yr oedd pob gobaith y byddai'r ymrwymiad o'r newydd i fywyd cyhoeddus yr oedd her rhyfel wedi ei ddangos yn caniatáu i'r Cymry fod yn frwdfrydig unwaith eto.

Para 2.3

Cafodd disgwyliadau eu cyflawni, ac yn fuan mewn cyfnod newydd o gyflogaeth lawn a nawdd cymdeithasol, roedd diwylliant traddodiadol Cymru yn symud yn ddidrafferth ar hyd llinellau cyfarwydd. Yr oedd, fel yn y gorffennol, yn eithaf amlwg yn ddiwylliant dosbarth gweithiol, yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hyn a wnâi gweithwyr llaw yn eu horiau hamdden. Nid oedd pobl yn meddwl yn nhermau dosbarth yn unig, fodd bynnag, oherwydd roedd y patrwm cyfoethog o hamdden yn gysylltiedig yn llwyr â synnwyr o gymuned leol a Chymreig; ac felly yn naturiol, ymunodd y dosbarthiadau clerigol, proffesiynol a busnes yn y gweithgarwch, gan helpu i arwain gweithgareddau poblogaidd yn aml. Y rhaniad cymdeithasol amlycaf oedd rhwng y rhai a oedd wedi bod mewn ysgol ramadeg a'r rhai nad oedd wedi bod drwy’r system honno, ond nid oedd y gwahaniaeth yn cyfrif am ryw lawer mewn gweithgarwch gyda’r hwyr a thros y Sul. Mewn cymunedau roedd ymdeimlad hynod ddatblygedig o gyfanrwydd y diwylliant a'i ryng-gysylltiadau: yn anaml y byddai unigolion yn wynebu dewisiadau pendant rhwng dau beth. Felly, mewn rhannau helaeth o Gymru, roedd y diwylliant ar hap ac yn ddifeddwl yn ddwyieithog: mewn cartrefi, ysgolion, tafarndai a chapeli, roedd y ddwy iaith yn gymysg. Am resymau cwbl ddilys, gallai’r hanesydd ddymuno gwahaniaethu rhwng sfferau crefyddol a seciwlar gweithgarwch, ond, hyd yn oed yn hyn o beth, nid oedd Kulturkampf dramatig o gwbl. Mor ddiweddar â'r 1950au roedd cecru mewn teuluoedd ynghylch arferion seciwlar yr ifanc, a lansiodd rhai eglwysi ymgyrch i gadw Saboth Cymru yn sanctaidd, yn amddifad o adloniant seciwlar, ond yn gyffredinol roedd y gweithgarwch yn cael ei dderbyn. Ar y lleiaf, roedd rôl cymdeithasu hanfodol yr ysgol Sul a brawdoliaethau pobl ifanc yn cael ei werthfawrogi’n eang. Roedd gan bob cymuned ei chalendr sefydledig o ddigwyddiadau cyhoeddus, ac roedd pobl yn rhydd i ddewis a dethol eu cysylltiadau a'u pleserau. Wrth gwrs, roedd hierarchaeth o barchusrwydd, gyda chrefydd a cherddoriaeth gorawl ar y brig, y dafarn a'r clwb ar y gwaelod, a chwaraeon a'r sinema yn gadarn yn y canol, ond un cliw hanfodol i’r diwylliant oedd y ffordd yr oedd yn meithrin ac yn gwerthfawrogi rhai a allai wneud bob dim. Gallai pobl ifanc a oedd wedi mynd i wylio ffilmiau ddydd Sadwrn ac yna ddawnsio gyda’r nos fynd i'r capel ar y Sul, ac yna yn ystod yr wythnos neilltuo amser ar gyfer y côr, y band, gêm o rygbi a hyd yn oed ychydig o oriau o snwcer.

Para 2.4

Rhywbeth yr un mor draddodiadol oedd ysbryd cystadleuol, yr angen am gyfle a chystadleuaeth i gynhyrchu pencampwyr, ac yna i’r pencampwyr hynny adlewyrchu a dyrchafu’n gyhoeddus yr ymdeimlad cyffredinol hwnnw o gymuned. Roedd llwyddiant yn cael ei rannu, a phencampwyr yn cael eu clodfori. Roedd hyn yn arbennig o wir am ganu corawl a chwaraeon tîm, a chwaraeodd rolau tebyg iawn ac a oedd yn tueddu i redeg ochr yn ochr â'i gilydd. Roedd gan lawer o gapeli a’r rhan fwyaf o bentrefi gorau, ond roedd corau meibion yn cael eu hystyried yn arbenigedd Cymreig, ac yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ystyriwyd goruchafiaeth corau o Dreforys a Threorci yng Nghymru fel cyflawniad o bwys rhyngwladol (2A). Enillodd Morgannwg bencampwriaeth criced y siroedd yn 1948, ond roedd cymaint o bleser, bron, yn y ffaith eu bod wedi datblygu batiwr mor gain ag unrhyw un ym Mhrydain yn Gilbert Parkhouse. O ran rygbi, enillodd Cymru y 'Gamp lawn' yn 1950 a 1952 (y cyntaf ers 1911), trechwyd 'Crysau Duon' Seland Newydd yn 1953, a thestun balchder mawr oedd mai Cliff Morgan oedd maswr gorau’r byd, fel y profwyd ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 1955. Symudodd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ôl i’r Adran Gyntaf yn 1952, gan ddenu 50,000 yn rheolaidd i Barc Ninian. Roedd torfeydd hyd yn oed mwy o faint yn mynd i weld Cymru, nid lleiaf oherwydd dau chwaraewr a anwyd yn Abertawe, John Charles, sy’n ddewis rheolaidd ar gyfer timau gorau’r byd sy’n cael eu dewis gan newyddiadurwyr, ac Ivor Allchurch, y mewnwr gorau ym Mhrydain. Does dim rhyfedd bod Cymru wedi gwneud mor dda yng Nghwpan y Byd 1958. Yn y cyfamser, roedd y radio yn sicrhau mai’r bocswyr oedd yn hawlio’r nifer fwyaf o ddilynwyr, yn enwedig pencampwyr Prydain Eddie Thomas a Dai Dower.

Para 2.5

Roedd yn ddiwylliant a oedd wedi datblygu arddull o ddathlu a hunan-longyfarch eithaf naturiol. Nid oedd ymwybyddiaeth gyffredinol o'r angen am ailfeddwl diwylliannol; roedd hwnnw’n fater a adawyd i arbenigwyr yn gyffredinol. Yn wir, am sawl degawd, roedd arweinwyr cymdeithasol Cymru wedi gweld yr angen am sefydliadau newydd (ac wedi dechrau eu sefydlu) i wrthsefyll y masnacheiddio, y seciwlareiddio a’r Seisnigo a oedd yn digwydd i’r diwylliant torfol, yn ogystal â materoliaeth y mudiad Llafur a difaterwch yr ifanc di-waith. Gyda dychweliad twf economaidd a brwdfrydedd dros gymryd rhan, ciliodd pryder arweinwyr cymdeithasol, ond, yn y cyfamser, roedd dau sefydliad wedi cael eu sefydlu a fyddai'n ddiweddarach yn cael dylanwad mawr. Hyd hynny, roedd y BBC wedi tueddu i adlewyrchu diwylliant traddodiadol Cymru yn unig, a'i brif gyfraniad oedd amlygu Cymru i safonau diwylliannol Llundain. Chwaraeodd y Third Programme rôl hanfodol wrth ehangu chwaeth gerddorol yng Nghymru, ond dim ond Welsh Rarebit, sioe gomedi yn bwydo ar stereoteipiau neuadd gerddoriaeth, a oedd yn cyffwrdd ar idiom poblogaidd y genedl. Gallai’r cylch hwnnw o ffrindiau a chysylltiadau a alwyd ynghyd yn ystod y Dirwasgiad gan Dr Thomas Jones honni eu bod wedi chwarae rhan anrhydeddus yn y ffordd y daeth y Cyngor Celfyddydau i'r amlwg yn sgil y profiad o ryfel, ac yn awr, gallai dyn y Cyngor yng Nghymru, Huw Wheldon, annog a chefnogi Cwmni Opera Cenedlaethol newydd Cymru a gwyliau celfyddydol lleol fel y rhai a gynhaliwyd yn Abertawe. Ond roedd 'diwylliant uchel', 'y celfyddydau' fel y'i deellir yn Llundain a Pharis, yn dal i gael ei ystyried fel moeth achlysurol, yn atodiad at y rheolweithiau prysur cynhenid.

Para 2.6

Mewn termau cymdeithasol, roedd addysg yn flaenoriaeth bwysig, ac er ei bod yn ymddangos yn rhyfedd, roedd y ffaith honno hefyd yn atal unrhyw angen ar gyfer mentrau diwylliannol. Roedd athrawon wedi cael eu nodi fel adnodd mwyaf y wlad, ac yn ychwanegol at gael disgyblion trwy arholiadau neu i feistroli'r sgiliau angenrheidiol, tybiwyd yn gyffredinol y byddai’n trwytho blas ar y pethau da mewn bywyd, nid lleiaf cerddoriaeth a chwaraeon. Ym mhob man, roedd disgyblion chweched dosbarth ysgolion gramadeg yn cael eu hystyried fel y meibion a’r merched a ffafriwyd, ond roedd problem yr holl ddisgyblion hynny a adawodd yr ysgol yn bymtheg oed yn parhau, am na ellid disgwyl iddyn nhw raddio yn awtomatig ac yn syth i fod yn aelodau o gorau a thimau. Yr ateb oedd ysgol - neu glybiau ieuenctid mewn canghennau YMCA, a’r gobaith oedd y byddai’n mwynhau rhywfaint o lwyddiant enfawr Urdd Gobaith Cymru, a oedd ers y 1920au wedi bod yn gweithredu ochr yn ochr â'r capeli yn cynnal diddordebau diwylliannol siaradwyr Cymraeg. Byddai’r clybiau ieuenctid hyn a drefnwyd gan yr awdurdod lleol yn mwynhau llwyddiant arbennig o ran rhedeg timau chwaraeon, ac i raddau llai, clybiau drama (gweler gyrfa Richard Burton), ond dim ond un llinyn oedden nhw mewn trefn lle’r oedd y sinema a'r neuadd ddawnsio yn ymddangos yn ddewisiadau mwy deniadol. Serch hynny, roedd athrawon ac arweinwyr ieuenctid yn hanfodol yn y diwylliant hwn. Nhw oedd yn meithrin doniau, ond yn gweld eu myfyrwyr mwyaf llwyddiannus yn mudo i Loegr; yn y cyfamser, roedden nhw’n chwarae rôl hanfodol yn sicrhau fod cymaint ag yr oedd modd o’r bobl ifanc hynny a arhosodd yn y gymuned yn parhau â’u brwdfrydedd pan ddeuent yn oedolion. Daeth gweithredwyr yn gyfrifoldeb pwyllgorau lleol ac, yn arbennig, pob ysgrifennydd er anrhydedd, arweinydd a hyfforddwr a oedd yn rhedeg diwylliant poblogaidd Cymru mewn gwirionedd. Fel y mae’r awduron Gwyn Thomas ac Alun Richards wedi cofnodi’n gofiadwy, y swyddogion hyn a etholwyd yn lleol oedd bendith a melltith y diwylliant. Roedd llawer ohonynt yn fodlon arwain a disgyblu brwdfrydedd poblogaidd yn unig; fe wnaeth lleiafrif, gan synhwyro cymeriad y diwylliant yn geidwadol ac amatur ei hanfod, ymuno â beirniaid ac academyddion wrth alw am repertoire ehangach, safonau uwch a mwy o uchelgais. Ar y pryd, roedd cynefindra a llwyddiant, law yn llaw â phoblogrwydd llwyr y calendr hirhoedlog o ornestau lleol, teithiau blynyddol, eisteddfodau, cyfarfodydd chwarterol, Messiah a Showboat yn atal diwygio.

Para 2.7

Roedd y diwylliant hwn yn parhau i wobrwyo ei weithredwyr a’i gefnogwyr, a diolch i ffyniant economaidd parhaus, mae'n ymddangos ei fod wedi cyflawni ei lwyddiannau mwyaf yn y 1960au a'r 1970au. Ar ôl 1964 roedd Llafur yn ôl mewn grym, ac roedd nifer o wleidyddion ifanc amlwg yn y blaid seneddol a oedd yn ymddangos eu bod ar eu ffordd at y swyddi uchaf ac a oedd yn eithaf amlwg yn gynhyrchion clasurol ysgolion gramadeg Cymru a diwylliant pentrefol. Roedd mathau tebyg iawn ar flaen y gad yn un o oesau aur chwaraeon Cymru: Tony Lewis oedd seren tîm Morgannwg a drechodd yr Awstraliaid ddwywaith ac a sicrhaodd ail bencampwriaeth sirol (2B, 2C, 2D); ac wedi’u hysbrydoli gan Barry John, Gareth Edwards a Gerald Davies, a oedd yn uchel eu parch gartref ac yn destun edmygedd ledled y byd, chwaraeodd Cymru ei rygbi gorau erioed. Yn 1964 fe wnaeth tîm pêl-droed Abertawe ddod yn agos at gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, ac yn 1971, ym Mharc Ninian, fe wnaeth Caerdydd guro Real Madrid 1-0 o flaen 47,500 o gefnogwyr. Roedd nifer o focswyr da iawn o Gymru o hyd, ac un mawr - Howard Winstone, a roddodd i’r wlad gyfan yn 1968 bencampwriaeth byd yr oedd wedi ysu amdani ers hanner canrif. Fe wnaeth yr holl bethau hyn gael eu mwynhau gyda'i gilydd a’u hadrodd yn gyhoeddus, yn yr un modd â champau sêr o Gymru, yn enwedig actorion ffilm fel Stanley Baker a Richard Burton, a oedd wedi graddio o'u hysgolion gramadeg lleol a’u clybiau ieuenctid i enwogrwydd ac amlygrwydd rhyngwladol. Mewn dull a oedd yn eithaf annodweddiadol o bobl gyda chyfoeth a ffordd o fyw fel y nhw, roeddent yn falch o frolio’r diwylliant a oedd wedi dylanwadu arnyn nhw, ac roeddent yn gwneud ymdrechion i gyfrannu ato. Cafodd ffilm Zulu Stanley Baker yn 1964 ei mabwysiadu ar unwaith fel ffilm gwlt gan ddosbarth gweithiol Cymru, ac er nad oedd ffilm Under Milk Wood yn 1971 gyda Richard Burton yn serennu lawn mor boblogaidd, fe’i cymerwyd fel tystiolaeth bellach o gymwysterau’r seren. Yn 1967 roedd Burton wedi ymuno â'r darlledwr John Morgan a’r seren opera enwog Geraint Evans mewn ymgais i sicrhau bod HTV, y cwmni teledu masnachol yng Nghymru, yn cynnal allbwn diwylliannol uchel a nodedig. Ychydig ddaeth o’r fenter hon, a oedd yn enghraifft daclus o gyfnod pan gymerwyd yn ganiataol y gallai enwau mawr warantu diwylliant, rywsut.

Para 2.8

Yr hyn a oedd wedi gwarantu a chynnal diwylliant traddodiadol yng Nghymru yn bennaf oedd deinameg cymuned a'r duedd i ragoriaeth a llwyddiant gronni yn y gymuned honno (2E).Yn sicr, nid oedd unigolion dan orfodaeth i wneud dewisiadau pendant, ond yr hyn sy’n taro’r hanesydd yw'r ffordd roedd gweithgareddau cerddorol a gweithgareddau Cymraeg uchaf eu parch yn gysylltiedig ag Anghydffurfiaeth gynhenid. Yn y cyfamser, roedd y rhan fwyaf o adloniant seciwlar yn cael ei drefnu gan entrepreneuriaid, ac yn adlewyrchu chwaeth a gwerthoedd Lloegr, a rhai Americanaidd hyd yn oed yn fwy. Am sawl degawd, roedd dwy asiantaeth wahanol iawn wedi trefnu gweithgareddau gwirioneddol boblogaidd a boddhaol, ond roedd strwythur trefniadaeth a rhannu cyfrifoldeb wedi cyfyngu ar yr amrywiaeth o ddewisiadau ac wedi ffurfio ffiniau artiffisial. Roedd yr asiantaethau hynny’n newid, ond nid mor gyflym â’r gymdeithas ei hun. Yng Nghymru yn y 1950au roedd egni newydd wedi datblygu, yn y lle cyntaf i herio a cythruddo’r consensws diwylliannol presennol, ac yna, yn y degawdau dilynol, er mwyn creu gollyngiad newydd lle’r oedd hen wahaniaethau yn pylu wrth i gyfleoedd newydd ddod i'r amlwg.

Para 2.9

Dyfodiad dramatig math gwahanol iawn o ddiwylliant ieuenctid a ddechreuodd awgrymu gyntaf bod cyfnod newydd ar y gorwel. Am tua deng mlynedd ar ôl y rhyfel, roedd ieuenctid Cymru wedi cadw’n ffyddlon i drefn sefydlog o glybiau ieuenctid, neuaddau dawnsio a ffilmiau, gyda’r arddull wedi ei osod gan genhedlaeth hŷn yr oedd y dirwasgiad a'r rhyfel wedi bod yn realiti mwyaf eu bywydau. Nid oedd 'Diwylliant poblogaidd', fel yr eglurodd Jeff Nuttall yn ei lyfr Bomb Culture (1968), yn perthyn i ni ar y pryd. Hwn oedd libart yr oedolyn ifanc ... diwylliant y jitterbug, y trilby ymyl snap. Yr hyn y dymunwyd ei weld oedd arddull newydd ac idiom newydd, ac fel y digwyddodd, roedd arian yn awr ym mhocedi pobl ifanc i dalu am y radio, y gramoffonau a'r tocynnau mynediad a fyddai'n effeithio ar y trawsnewid. Daeth y trobwynt yng Nghymru yn sgil rhyddhau’r ffilm Americanaidd Blackboard Jungle yn 1955, gyda’r credydau agoriadol wedi’u gosod i gyfeiliant cân Bill Haley and the Comets, ‘Rock Around the Clock' (2F, 2G). Mewn golygfeydd digyffelyb fe wnaeth pobl ifanc sefyll a dawnsio, cafodd rhai seddi sinema eu torri, a galwyd ar yr heddlu. Roedd yr oes fodern wedi cyrraedd Cymru. Roedd rhagor o dawnsio ym 1956 yn ystod y ffilm Rock Around the Clock, ac yna yn 1957, bron yn anhygoel, daeth Bill Haley i Gaerdydd i gynnal gig. Roedd y cyfnod hwnnw o edmygu Fred Astaire a Frank Sinatra ymhell o fod ar ben. Roedd y galw am roc a rôl yn anniwall, ac roedd pobl ifanc nid yn unig yn awyddus i wrando a dawnsio, ond roeddent yn awyddus i’w chwarae, hefyd. Ar hyd a lled Cymru cafodd grwpiau eu ffurfio, ac un o synau nodedig y cyfnod oedd drymwyr yn ymarfer mewn ystafelloedd ffrynt ac ystafelloedd gwely. Yn ôl unrhyw fesur, gall Cymru hawlio y byddai’n gwneud cyfraniad anrhydeddus i ddiwylliant newydd cerddoriaeth boblogaidd a roc a rôl, ac mae'r hanes safonol yn gwneud cyfiawnder llawn â Tom Jones, Spencer Davies, Andy Fairweather-Low, Dave Edmunds, Terry Williams, Bonnie Tyler, Shakin' Stevens, John Cale a'u grwpiau perthnasol. Daeth eu llwyddiannau mewn busnes rhyngwladol a oedd yn canolbwyntio yn bennaf ar Lundain ac Efrog Newydd, er bod datblygu stiwdios recordio llwyddiannus yng Nghymru yn y 1970au yn arwydd ynddo’i hunan bod egni entrepreneuraidd domestig newydd ar droed (2H). Ar y dechrau, efallai fod y gerddoriaeth boblogaidd newydd wedi ymddangos fel ffasiwn byrhoedlog, ac un oedd yn cael ei lywio o bell, ond mewn gwirionedd roedd yn newid Cymru yn eithaf sylfaenol. Yn fwy nag unrhyw gyfrwng arall, y gerddoriaeth newydd oedd yn dangos bod llawer o ynni heb ei gyffwrdd, anfodlonrwydd helaeth gyda thraddodiad a'r potensial nid yn unig ar gyfer hunanfynegiant ond hyd yn oed rhywfaint o hunangynhaliaeth.

Para 2.10

Ar yr un pryd roedd Cymru wedi datblygu gwleidyddiaeth newydd. Roedd y rhan fwyaf o bleidleiswyr a sylwebyddion yn meddwl o ran y dewis rhwng Torïaid a Llafur, ond, o ddiwedd y 1950au ymlaen, cefnogwyr ifanc Plaid Cymru a oedd yn newid natur Cymru. Roedd eu gwrthdystiadau yn erbyn gorlifo arfaethedig dyffryn Tryweryn yn 1958 yn rhagarweiniad i gyfnod newydd o wrthdaro lle mai’r iaith Gymraeg fyddai'r mater mwyaf dadleuol dan sylw. Y datblygiadau hanfodol oedd ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1963, y tactegau gweithredu uniongyrchol a ddefnyddiwyd yn y frwydr i'r Gymraeg gael statws swyddogol, a chyfres o isetholiadau seneddol yng nghanol y 1960au, a ddychrynodd y ddwy brif blaid i gydnabod eu bod mewn perygl gwirioneddol o golli Cymru yn gyfan gwbl. Roedd hwn yn gyfnod o wrthdystiadau gan fyfyrwyr yn fyd-eang a galw ar ragor o bobl i gymryd rhan. Yng Nghymru, yr unig bobl oedd wirioneddol yn profi synnwyr y cyfnod oedd cynnyrch ysgolion Cymraeg ac Urdd Gobaith Cymru, a oedd yn y bôn yn mynnu’r hawl i gynnal diwylliant llawn yn eu mamiaith. Roedd eu cyfoedion yn eu gweld fel grŵp pwyso gwleidyddol afresymol a oedd yn torri rheolau gwleidyddiaeth consensws. Gallwn weld nawr bod eu mudiad protest yn ei hanfod o arwyddocâd diwylliannol: eu nod oedd harneisio egni yng Nghymru ei hunan yn fwy effeithiol. Wedi’u hysgogi gan ymdeimlad o argyfwng a chyfle, aeth y garfan newydd o siaradwyr Cymraeg ifanc ymlaen i addasu eu traddodiadau presennol ar gyfer cyfnod newydd o roc, cerddoriaeth werin a dychan. Yna, wrth i’w galwadau gwleidyddol ganolbwyntio ar y posibilrwydd o ymestyn darlledu Cymraeg, sylweddolwyd bod yr hyn yr oedd wedi cael ei baratoi mewn gwersylloedd haf ac mewn eisteddfodau ieuenctid ac ymylol yn gallu cael ei ddatblygu i fod yn wasanaeth teledu llawn. Ar un adeg, roedd y diwylliant Cymraeg fel pe bai wedi ei reoli’n llwyr gan y capeli; ar ôl 1945, roedd wedi pasio i ddwylo athrawon ysgol, ac yn awr, ar ôl 1960, disgyblion yr athrawon hynny a dderbyniodd her wleidyddol, ac wrth wneud hynny ddod i sylweddoli maint eu doniau a faint o hunangynhaliaeth oedd yn bosibl. Ni welai’r Llundain ofnus fawr o berygl wrth roi consesiynau diwylliannol, ac felly roedd modd i siaradwyr Cymraeg gymryd rheolaeth o'u prifddinas yn effeithiol iawn a rhyddhau cyfnod newydd lle gallai pobl ifanc a oedd unwaith yn mynd i fod yn athrawon bellach fod yn gynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, dylunwyr a chyflwynwyr mewn diwydiant teledu a ffilm Cymraeg newydd. Roedd yn gamp syfrdanol ac yn ddealladwy yn un nad oedd y rhan fwyaf o ddinasyddion Cymru - heb sôn am y Deyrnas Unedig - yn ei deall.

Para 2.11

Roedd ymgyrchwyr Cymru wedi manteisio ar eu cyfle ac yna wedi rhannu’r ysbail. Roeddent wedi gwneud hynny ar adeg pan oedd hen gymunedau dosbarth gweithiol Cymru, gyda'u diwylliant traddodiadol, yn cwympo yn y bôn. Yn gyntaf daeth tranc Anghydffurfiaeth, a laddwyd mewn gwirionedd gan deledu a’r car teuluol. Yna daeth cau’r pyllau a'r diwydiannau eraill a oedd wedi cynnal trefi a phentrefi penodol. Ar yr un pryd, roedd sinemâu, theatrau a mannau adloniant eraill yn cau, ac roedd cludiant cyhoeddus hefyd yn cael ei dorri'n ôl. Yr unig ffordd o egluro derbyn newidiadau o'r fath yn oddefol oedd natur anochel ymddangosiadol y cyfan. Yn sicr, roedd y Gymru ddiwydiannol fel pe bai hi wedi derbyn ei thynged o'i chymharu â'r ffordd yr oedd cenedlaetholwyr ifanc o Gymru wedi brwydro. Ond fe wnaeth diwylliant o ddad-ddiwydiannu ddod i'r amlwg: fe wnaeth haneswyr, dramodwyr, nofelwyr, beirdd a chyfarwyddwyr ffilm ddygymod â’u hiraeth a galw am falchder newydd yn y Cymoedd wrth iddyn nhw fanteisio ar y strwythurau darlledu a gwneud ffilmiau newydd yr oedd eu cydweithwyr Cymraeg yn eu creu (2I). Cafodd un o'r llinynnau mwyaf deinamig yn y cyswllt hwn ei ddarparu gan fenywod. Roedd streic y glowyr 1984-5 wedi dangos bod menywod yr un mor alluog â dynion i amddiffyn y Cymoedd ac wedi’u hysbrydoli gan y profiad hwnnw, daeth cenhedlaeth newydd o awduresau, academyddion, gweithwyr cymdeithasol a gwneuthurwyr ffilm o Gymru i’r amlwg.

Para 2.12

Mae'r broses honno o drawsnewid hanesyddol a ddileodd ddiwydiant Cymru ac a danseiliodd gymaint o gymunedau lleol yn parhau i syfrdanu. Yn anochel, bu farw diwylliant ganrif oed, ond fe wnaeth hynny yn union fel roedd cenhedlaeth newydd yn ailgyfeirio ei hymdrechion. Mae’r ysgolion - yn ysgolion cyfun i raddau helaeth ers y 1960au - yn parhau i fod yr asiant mwyaf hanfodol, hyd yn oed yn fwy hanfodol nawr fod cyn lleied o swyddi ar gyfer y rhai sy'n terfynu eu hastudiaethau yn un ar bymtheg neu’n ddeunaw oed. Yn fwy nag erioed mae premiwm ar lwyddiant unigol, ac mae ffawd gyferbyniol yn wynebu disgyblion sy'n gadael heb gymwysterau o’u cymharu â'r rhai sy'n datblygu sgiliau academaidd, cerddorol, artistig, chwaraeon ac, yn gynyddol, sgiliau darlledu. Mae'n dal i fod yn gymdeithas sy'n crefu am arwyr, ond, er bod balchder ar y cyd yn parhau i fod yn rym pwerus, mae arwyr a phencampwyr heddiw yn cael eu gweld fel unigolion dawnus iawn yn hytrach na phersonoliad o gymuned. Mae sêr yn y mowld confensiynol, fel yr actor Syr Anthony Hopkins a’r canwr opera Bryn Terfel, yn rhannu'r penawdau gydag athletwyr gwych fel Ryan Giggs, Colin Jackson, Nigel Walker a Steve Robinson, pob un yn gynnyrch teuluoedd mewnfudwyr du. Ar bob lefel mae ymwybyddiaeth bod realiti cymdeithas ôl-ddiwydiannol yn eithaf amlwg, ac mae’r papurau newydd sy'n falch o roi gwybod am lwyddiannau academaidd, diwylliannol a chwaraeon dynion a menywod lleol hefyd yn dyst i galedi, trasiedïau a chamymddygiad y rhai sy'n dal i fyw yng nghregyn hen gymunedau.

Para 2.13

Bonws mawr diwylliant ôl-ddiwydiannol Cymru yw ei phrifddinas. Tan y 1950au, dim ond prifddinas answyddogol oedd Caerdydd, ac mewn gwirionedd nid oedd yn chwarae unrhyw rôl wleidyddol na diwylliannol fawr ym materion y dywysogaeth. Mae ei datblygiad fel canolfan weinyddol wedi cydredeg â'i chynnydd fel lleoliad pwysig ar gyfer digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm, ar gyfer gwyliau celfyddydol ac ar gyfer perfformiadau cerddorol ac operatig. Mae soffistigeiddrwydd Caerdydd yn fodd i Gymru gadw llawer o'i doniau. Mae'r wlad yn cyrraedd diwedd yr ugeinfed ganrif gyda diwylliant cyfan gwbl nodedig, seciwlar, dwyieithog, lle mae siaradwyr Cymraeg wedi gorfodi cyflymder a defnyddio’r pwysau cywir, ond sy'n caniatáu cyfleoedd enfawr i unrhyw un sy'n dewis gweithio yng Nghymru. Mae llawer i'w ddathlu, ond mae dau gwestiwn yn parhau i fod heb eu datrys. A yw hwn yn ddiwylliant y bydd ei resymeg yn arwain yn y pen draw at fesur o annibyniaeth wleidyddol? Ac a yw'n un sy'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr holl bobl hynny yn nhrefi a phentrefi Cymru nad ydynt yn gallu hawlio nad ydyn nhw erioed wedi ei chael hi mor dda, ac y mae eu diwylliant poblogaidd yn cael ei bennu i raddau helaeth gan gynhyrchwyr teledu Saesneg a fideos Americanaidd?

Uned 3 Protest y boblogaeth yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: Terfysgoedd Beca