Para 2.11

Roedd ymgyrchwyr Cymru wedi manteisio ar eu cyfle ac yna wedi rhannu’r ysbail. Roeddent wedi gwneud hynny ar adeg pan oedd hen gymunedau dosbarth gweithiol Cymru, gyda'u diwylliant traddodiadol, yn cwympo yn y bôn. Yn gyntaf daeth tranc Anghydffurfiaeth, a laddwyd mewn gwirionedd gan deledu a’r car teuluol. Yna daeth cau’r pyllau a'r diwydiannau eraill a oedd wedi cynnal trefi a phentrefi penodol. Ar yr un pryd, roedd sinemâu, theatrau a mannau adloniant eraill yn cau, ac roedd cludiant cyhoeddus hefyd yn cael ei dorri'n ôl. Yr unig ffordd o egluro derbyn newidiadau o'r fath yn oddefol oedd natur anochel ymddangosiadol y cyfan. Yn sicr, roedd y Gymru ddiwydiannol fel pe bai hi wedi derbyn ei thynged o'i chymharu â'r ffordd yr oedd cenedlaetholwyr ifanc o Gymru wedi brwydro. Ond fe wnaeth diwylliant o ddad-ddiwydiannu ddod i'r amlwg: fe wnaeth haneswyr, dramodwyr, nofelwyr, beirdd a chyfarwyddwyr ffilm ddygymod â’u hiraeth a galw am falchder newydd yn y Cymoedd wrth iddyn nhw fanteisio ar y strwythurau darlledu a gwneud ffilmiau newydd yr oedd eu cydweithwyr Cymraeg yn eu creu (2I [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Cafodd un o'r llinynnau mwyaf deinamig yn y cyswllt hwn ei ddarparu gan fenywod. Roedd streic y glowyr 1984-5 wedi dangos bod menywod yr un mor alluog â dynion i amddiffyn y Cymoedd ac wedi’u hysbrydoli gan y profiad hwnnw, daeth cenhedlaeth newydd o awduresau, academyddion, gweithwyr cymdeithasol a gwneuthurwyr ffilm o Gymru i’r amlwg.