Para 2.4
Rhywbeth yr un mor draddodiadol oedd ysbryd cystadleuol, yr angen am gyfle a chystadleuaeth i gynhyrchu pencampwyr, ac yna i’r pencampwyr hynny adlewyrchu a dyrchafu’n gyhoeddus yr ymdeimlad cyffredinol hwnnw o gymuned. Roedd llwyddiant yn cael ei rannu, a phencampwyr yn cael eu clodfori. Roedd hyn yn arbennig o wir am ganu corawl a chwaraeon tîm, a chwaraeodd rolau tebyg iawn ac a oedd yn tueddu i redeg ochr yn ochr â'i gilydd. Roedd gan lawer o gapeli a’r rhan fwyaf o bentrefi gorau, ond roedd corau meibion yn cael eu hystyried yn arbenigedd Cymreig, ac yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ystyriwyd goruchafiaeth corau o Dreforys a Threorci yng Nghymru fel cyflawniad o bwys rhyngwladol (2A [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Enillodd Morgannwg bencampwriaeth criced y siroedd yn 1948, ond roedd cymaint o bleser, bron, yn y ffaith eu bod wedi datblygu batiwr mor gain ag unrhyw un ym Mhrydain yn Gilbert Parkhouse. O ran rygbi, enillodd Cymru y 'Gamp lawn' yn 1950 a 1952 (y cyntaf ers 1911), trechwyd 'Crysau Duon' Seland Newydd yn 1953, a thestun balchder mawr oedd mai Cliff Morgan oedd maswr gorau’r byd, fel y profwyd ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 1955. Symudodd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ôl i’r Adran Gyntaf yn 1952, gan ddenu 50,000 yn rheolaidd i Barc Ninian. Roedd torfeydd hyd yn oed mwy o faint yn mynd i weld Cymru, nid lleiaf oherwydd dau chwaraewr a anwyd yn Abertawe, John Charles, sy’n ddewis rheolaidd ar gyfer timau gorau’r byd sy’n cael eu dewis gan newyddiadurwyr, ac Ivor Allchurch, y mewnwr gorau ym Mhrydain. Does dim rhyfedd bod Cymru wedi gwneud mor dda yng Nghwpan y Byd 1958. Yn y cyfamser, roedd y radio yn sicrhau mai’r bocswyr oedd yn hawlio’r nifer fwyaf o ddilynwyr, yn enwedig pencampwyr Prydain Eddie Thomas a Dai Dower.