Para 2.7

Roedd y diwylliant hwn yn parhau i wobrwyo ei weithredwyr a’i gefnogwyr, a diolch i ffyniant economaidd parhaus, mae'n ymddangos ei fod wedi cyflawni ei lwyddiannau mwyaf yn y 1960au a'r 1970au. Ar ôl 1964 roedd Llafur yn ôl mewn grym, ac roedd nifer o wleidyddion ifanc amlwg yn y blaid seneddol a oedd yn ymddangos eu bod ar eu ffordd at y swyddi uchaf ac a oedd yn eithaf amlwg yn gynhyrchion clasurol ysgolion gramadeg Cymru a diwylliant pentrefol. Roedd mathau tebyg iawn ar flaen y gad yn un o oesau aur chwaraeon Cymru: Tony Lewis oedd seren tîm Morgannwg a drechodd yr Awstraliaid ddwywaith ac a sicrhaodd ail bencampwriaeth sirol (2B [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , 2C, 2D); ac wedi’u hysbrydoli gan Barry John, Gareth Edwards a Gerald Davies, a oedd yn uchel eu parch gartref ac yn destun edmygedd ledled y byd, chwaraeodd Cymru ei rygbi gorau erioed. Yn 1964 fe wnaeth tîm pêl-droed Abertawe ddod yn agos at gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, ac yn 1971, ym Mharc Ninian, fe wnaeth Caerdydd guro Real Madrid 1-0 o flaen 47,500 o gefnogwyr. Roedd nifer o focswyr da iawn o Gymru o hyd, ac un mawr - Howard Winstone, a roddodd i’r wlad gyfan yn 1968 bencampwriaeth byd yr oedd wedi ysu amdani ers hanner canrif. Fe wnaeth yr holl bethau hyn gael eu mwynhau gyda'i gilydd a’u hadrodd yn gyhoeddus, yn yr un modd â champau sêr o Gymru, yn enwedig actorion ffilm fel Stanley Baker a Richard Burton, a oedd wedi graddio o'u hysgolion gramadeg lleol a’u clybiau ieuenctid i enwogrwydd ac amlygrwydd rhyngwladol. Mewn dull a oedd yn eithaf annodweddiadol o bobl gyda chyfoeth a ffordd o fyw fel y nhw, roeddent yn falch o frolio’r diwylliant a oedd wedi dylanwadu arnyn nhw, ac roeddent yn gwneud ymdrechion i gyfrannu ato. Cafodd ffilm Zulu Stanley Baker yn 1964 ei mabwysiadu ar unwaith fel ffilm gwlt gan ddosbarth gweithiol Cymru, ac er nad oedd ffilm Under Milk Wood yn 1971 gyda Richard Burton yn serennu lawn mor boblogaidd, fe’i cymerwyd fel tystiolaeth bellach o gymwysterau’r seren. Yn 1967 roedd Burton wedi ymuno â'r darlledwr John Morgan a’r seren opera enwog Geraint Evans mewn ymgais i sicrhau bod HTV, y cwmni teledu masnachol yng Nghymru, yn cynnal allbwn diwylliannol uchel a nodedig. Ychydig ddaeth o’r fenter hon, a oedd yn enghraifft daclus o gyfnod pan gymerwyd yn ganiataol y gallai enwau mawr warantu diwylliant, rywsut.