Para 2.9

Dyfodiad dramatig math gwahanol iawn o ddiwylliant ieuenctid a ddechreuodd awgrymu gyntaf bod cyfnod newydd ar y gorwel. Am tua deng mlynedd ar ôl y rhyfel, roedd ieuenctid Cymru wedi cadw’n ffyddlon i drefn sefydlog o glybiau ieuenctid, neuaddau dawnsio a ffilmiau, gyda’r arddull wedi ei osod gan genhedlaeth hŷn yr oedd y dirwasgiad a'r rhyfel wedi bod yn realiti mwyaf eu bywydau. Nid oedd 'Diwylliant poblogaidd', fel yr eglurodd Jeff Nuttall yn ei lyfr Bomb Culture (1968), yn perthyn i ni ar y pryd. Hwn oedd libart yr oedolyn ifanc ... diwylliant y jitterbug, y trilby ymyl snap. Yr hyn y dymunwyd ei weld oedd arddull newydd ac idiom newydd, ac fel y digwyddodd, roedd arian yn awr ym mhocedi pobl ifanc i dalu am y radio, y gramoffonau a'r tocynnau mynediad a fyddai'n effeithio ar y trawsnewid. Daeth y trobwynt yng Nghymru yn sgil rhyddhau’r ffilm Americanaidd Blackboard Jungle yn 1955, gyda’r credydau agoriadol wedi’u gosod i gyfeiliant cân Bill Haley and the Comets, ‘Rock Around the Clock' (2F [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , 2G). Mewn golygfeydd digyffelyb fe wnaeth pobl ifanc sefyll a dawnsio, cafodd rhai seddi sinema eu torri, a galwyd ar yr heddlu. Roedd yr oes fodern wedi cyrraedd Cymru. Roedd rhagor o dawnsio ym 1956 yn ystod y ffilm Rock Around the Clock, ac yna yn 1957, bron yn anhygoel, daeth Bill Haley i Gaerdydd i gynnal gig. Roedd y cyfnod hwnnw o edmygu Fred Astaire a Frank Sinatra ymhell o fod ar ben. Roedd y galw am roc a rôl yn anniwall, ac roedd pobl ifanc nid yn unig yn awyddus i wrando a dawnsio, ond roeddent yn awyddus i’w chwarae, hefyd. Ar hyd a lled Cymru cafodd grwpiau eu ffurfio, ac un o synau nodedig y cyfnod oedd drymwyr yn ymarfer mewn ystafelloedd ffrynt ac ystafelloedd gwely. Yn ôl unrhyw fesur, gall Cymru hawlio y byddai’n gwneud cyfraniad anrhydeddus i ddiwylliant newydd cerddoriaeth boblogaidd a roc a rôl, ac mae'r hanes safonol yn gwneud cyfiawnder llawn â Tom Jones, Spencer Davies, Andy Fairweather-Low, Dave Edmunds, Terry Williams, Bonnie Tyler, Shakin' Stevens, John Cale a'u grwpiau perthnasol. Daeth eu llwyddiannau mewn busnes rhyngwladol a oedd yn canolbwyntio yn bennaf ar Lundain ac Efrog Newydd, er bod datblygu stiwdios recordio llwyddiannus yng Nghymru yn y 1970au yn arwydd ynddo’i hunan bod egni entrepreneuraidd domestig newydd ar droed (2H). Ar y dechrau, efallai fod y gerddoriaeth boblogaidd newydd wedi ymddangos fel ffasiwn byrhoedlog, ac un oedd yn cael ei lywio o bell, ond mewn gwirionedd roedd yn newid Cymru yn eithaf sylfaenol. Yn fwy nag unrhyw gyfrwng arall, y gerddoriaeth newydd oedd yn dangos bod llawer o ynni heb ei gyffwrdd, anfodlonrwydd helaeth gyda thraddodiad a'r potensial nid yn unig ar gyfer hunanfynegiant ond hyd yn oed rhywfaint o hunangynhaliaeth.