Uned 3 Protest y boblogaeth yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: Terfysgoedd Beca

Rhagair (Chris Williams)

Bu Dr David Howell, awdur 'Terfysgoedd Beca', yn dysgu drwy gydol ei yrfa yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Erbyn 1988, pan gyhoeddwyd y traethawd yn gyntaf, roedd wedi sefydlu ei hun fel y prif awdurdod ar amaethyddiaeth a chymdeithas cefn gwlad yng Nghymru yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig gyda'i fonograffau Land and People in Nineteenth-Century Wales (1977) a Patriarchs and Parasites (1986). Wedi hynny, adeiladodd ar y sylfaen hon gydag astudiaeth o Rural Poor in Eighteenth-Century Wales (2000), ac ef oedd cyd-awdur traethawd awdurdodol ar Gymru ar gyfer y Cambridge Social History of Britain, 1750–1950 (1990). Cafwyd Gwerthusiad gwreiddiol o gyfraniad pwysig Howell at hanesyddiaeth Cymru gan Matthew Cragoe yn A Companion to Nineteenth- Century Britain (2004).

Un o gydweithiwr agos Howell yn Abertawe oedd yr Athro David J.V. Jones. Os oedd arbenigedd Howell ym maes hanes economaidd a chymdeithasol amaethyddiaeth Cymru, roedd arbenigedd Jones yn y meysydd cyfagos o brotest a throsedd, ac yn 1989 cyhoeddodd astudiaeth fawr o derfysgoedd Beca, Rebecca’s Children. Roedd Jones (a fu farw yn 1994 yn 53 oed) ei hun yn un o gyn-fyfyrwyr yr Athro David Williams (Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth), yr ysgolhaig cyntaf i ysgrifennu'n helaeth ar y mudiad yn The Rebecca Riots: A Study in Agrarian Discontent (1986 [1955]). Cafodd yr unig hanes modern helaeth arall, And They Blessed Rebecca (1983), ei ysgrifennu gan Pat Molloy, cyn Dditectif Brif Uwch-arolygydd gyda heddlu Dyfed-Powys, a cheir hefyd driniaeth gynnar ‘wahanol’ gan Henry Tobit Evans, Rebecca and Her Daughters (1910).

Er bod cysylltiadau arwyddocaol eithaf amlwg rhwng haneswyr allweddol mudiad Beca, byddai'n gamarweiniol tybio o hyn bod ei hanes ysgrifenedig wedi parhau i fod yn berthynas ynysig neu’n hunan-gyfeiriadol. Bu i nodweddion hynod y terfysgoedd nid yn unig ysgogi llawer o ddiddordeb ar y pryd (digon i ysbrydoli The Times i anfon gohebydd arbennig, Thomas Campbell Foster, i dde-orllewin Cymru), ond maent wedi parhau i hudo pobl byth ers hynny. Mae'r terfysgoedd wedi bod yn destun dramâu, barddoniaeth, cyfansoddiadau cerddorol a nofelau, gan gynnwys The Rebecca Rioter gan y diwydiannwr o Abertawe Amy Dillwyn (2001 [1880]) a Hosts of Rebecca gan yr awdur poblogaidd Alexander Cordell (1975 [1960]); ac yn 1991 fe wnaeth hyd yn oed ysbrydoli ffilm nodwedd, Rebecca’s Daughters (cyf. Karl Francis), gyda Peter O'Toole a’r chwaraewr rygbi rhyngwladol enwog dros Gymru a aeth yn actor, Ray Gravell.

Mae haneswyr o'r tu allan i Gymru wedi cael eu swyno gan Beca, hefyd. Gan hynny, bu i’r hynod uniongred Geoffrey Elton alw’r mudiad yn 'fenter chwyldroadol arbennig Cymru ... achosion rhyfedd o drawswisgo lle’r oedd cwynion cyfiawn yn gymysg â throseddoldeb digamsyniol' (Elton, 1970, t.107), tra cyfeiriodd George Rudé ac Edward Thompson, haneswyr Marcsaidd blaenllaw yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, at Beca fel rhan o ystyriaethau ehangach am fudiadau poblogaidd - Rudé yn The Crowd in History (1981 [1964]), a Thompson yn Customs in Common (1991). Yn sicr, mae llawer i'w ddysgu o osod Merched Beca yng nghyd-destun protestiadau gwledig a diwydiannol tebyg ledled Cymru a Phrydain, gan gynnwys Ludiaeth, gwrthryfel 'Capten Swing' yn 1830 a Siartiaeth.

Mae ffyrdd newydd o edrych ar y digwyddiadau yn ne-orllewin Cymru yn y 1830au a'r 1840au wedi cael eu hysbrydoli gan yr hanesydd diwylliannol Americanaidd (o Ffrainc) Natalie Zemon Davis yn Society and Culture in Early Modern France (1975) a gan Alun Howkins a Linda Merricks, a ysgrifennodd ar hanes cymdeithasol Lloegr yn ‘“Wee be black as Hell”: ritual, disguise and rebellion’ (1993). Ac ymhlith ysgolheigion Cymru, mae Rosemary A.N. Jones wedi ysgrifennu ar y gydberthynas rhwng materion rhyw a defodau, yn fwyaf arbennig traddodiad y ceffyl pren yn ‘Popular culture, policing and the “disappearance” of the ceffyl pren in Cardigan, c.1837–1850’ (1988–9).

Yn ‘Riotous community: crowds, politics and society in Wales, c.1700–1840’, mae Sharon Howard (2001) wedi ceisio lleoli Terfysgoedd Beca mewn persbectif tymor hwy sy'n ymestyn yn ôl i’r Gymru fodern gynnar, ac yn fwyaf diweddar mae Rhian Jones wedi cymhwyso amrywiaeth o fewnwelediadau a ddeilliodd o waith mewn meysydd cytras yn hanes cymdeithasol a diwylliannol Lloegr ac Ewrop yn ei thesis M.Litt. ‘Rethinking Rebecca: popular protest and popular culture in nineteenth-century south-west Wales’ (2008). Er, fel y nodwyd uchod, fod yr astudiaeth fawr ddiwethaf o Derfysgoedd Beca tua ugain oed erbyn hyn, mae'r pwnc yn bell o fod yn segur. Eto i gyd, am drosolwg cryno o brif ddigwyddiadau Terfysgoedd Beca a’r themâu pennaf, ac am amlinelliad o'r cwestiynau allweddol sy'n ymwneud â'r mudiad, mae'n anodd rhagori ar draethawd Howell.

Terfysgoedd Beca (David Howell)