Para 3.10

Roedd gan Beca ddiddordeb hefyd ym mater ymfflamychol tirddaliadaeth. Ni ddylai unrhyw un arall, mynnai Beca, fod yn anffyddlon drwy gymryd fferm a adawyd yn wag gan un arall oherwydd bod y rhent yn rhy uchel (3K) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   a gwnaed ymdrech drwy Undebau’r Ffermwyr (er efallai mai ychydig iawn o'r rhain oedd yn bod) a 'chenhadon' Beca (3L) i gael rhenti teg. Roedd Beca hefyd yn gwahardd ffermwyr cybyddlyd rhag dal mwy nag un fferm (3M). Roedd llythyrau bygythiol yn rhybuddio’r rhai ystyfnig, a dinistrio adeiladau a llosgi eiddo oedd cosb y rhai oedd yn mynd yn groes i ddeddfau Beca yr ymwelwyd â hwy (​​3K, 3L, 3M). Roedd hyn yn y bôn yn ymgais (rhannol lwyddiannus 3L) gan Beca i sefydlu sefydlogrwydd deiliadaeth fel yr argymhellwyd yn Iwerddon ar y pryd 3M.