Para 3.13
Nid newid gwleidyddol oedd yn gyrru Beca yn wreiddiol (3P) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .Eto i gyd, roedd ysbryd radical yn hysbysu'r werin yng ngorllewin Cymru a oedd yn deillio o'u Anghydffurfiaeth. Roedd atgasedd tuag at drethi’r eglwys, a’r degwm yn neilltuol, yn amlwg. Roedd arweinwyr Anghydffurfiaeth, fodd bynnag, yn gyffredinol yn anghymeradwyo gweithgarwch Beca oherwydd y trais. Ond ychydig yn is na rhengoedd yr arweinyddiaeth swyddogol, mae'n debygol y byddai gweinidogion anghydffurfiol yn darparu cyfiawnhad ysgrythurol i’w gwrandawyr am eu gweithrediadau, hyd yn oed os nad oeddent mewn gwirionedd yn eu hysgogi i ddefnyddio trais, fel y mynnai gohebydd papur newydd The Times, ag yntau’n bapur teg (fel arfer) ym mhob ffordd (3Q).Er bod y werin yn ymwybodol o syniadau’r Siartwyr (drwy’r wasg a chenhadon y Siartwyr a oedd yn teithio cefn gwlad), a bod Beca a Siartwyr Merthyr ill dau yn eu tro wedi gwahodd y llall i ymuno â'u rhengoedd, mae'n ymddangos (yn groes i hyn a gredai rhai, yn enwedig y bonedd) na chafodd cenhadon y Siartwyr na’u syniadau lawer o gefnogaeth ymhlith gwerin Beca, efallai oherwydd eu bod yn Saesneg eu hiaith (3R, 3S 3S). Er, gyda chyfarfodydd torfol yn disodli’r terfysgoedd o ddiwedd Awst 1843 ymlaen, roedd modd i syniadau’r Siartwyr gael eu lledaenu’n haws, ac yn wir digwyddodd hynny, yn enwedig dan ofal Hugh Williams, Siartydd Caerfyrddin, ac fe wnaeth y digwyddiadau torfol yn sicr gymeradwyo galwad i ddiddymu’r senedd (anghydnaws) oedd ohoni, ac ymestyn masnachfraint a'r bleidlais. Yn ei chyfnodau diweddarach, arddangosodd mudiad Beca fwy nag arlliw o anfodlonrwydd gwleidyddol. Er gwaethaf hynny i gyd, tlodi annioddefol ac nid anfodlonrwydd gwleidyddol a arweiniodd at weithgarwch Beca, tlodi a adlewyrchwyd yn ingol yn amgylchiadau dirdynnol gwraig fferm yn ei dagrau’n gwerthu ei modrwy briodas yng Ngorffennaf 1843 gan nad oedd yr arwerthiant ŷd wedi codi digon o arian i dalu ei threthi - amgylchiad y gellid dadlau ei fod yr un mor drymlwythog o bathos â’r orfodaeth enwog i werthu Beibl Ymneilltuwr (yn mhlwyf Penbryn, Sir Aberteifi) na wnâi neu na allai dalu ei ddegwm.
Para 3.12