Para 3.14
Er nad oedd y ffermwyr (ar wahân i rai o'u nifer yn ystod y camau diweddarach y gwrthryfel) wedi’u dadrithio’n wleidyddol, roedd eu beichiau gormesol yn eu llenwi â chasineb tuag at yr ynadon a’r tirfeddianwyr am fethu rhoi sylw i’w cwynion, am wrthod rhoi iddynt yr hyn a alwyd yn 'gyfiawnder' (3T) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ganddynt. Y diffyg hyder hwn y byddai'r ynadon yn gwrando ar eu cwynion, yn dewis ysbryd cymodlon ac yn rhoi cyfiawnder iddynt drwy gael gwared ar drethu gormesol, oedd, yn wir, un o brif achosion y terfysgoedd. Roedd eu hymarweddiad ffroenuchel a thrahaus tuag at y werin - eu trin 'fel cŵn' pan oeddent yn ymddangos gerbron y fainc – yn destun cwyno mawr (3U). Roedd anwybodaeth Ynadon ynghylch y gyfraith, gyda’u penderfyniadau dan ddylanwad eu barn wleidyddol, a'r dylanwad a roddwyd arnynt gan glercod annysgedig a oedd, beth bynnag, yn codi ffioedd gormesol, yn golygu na allai'r werin gael cyfiawnder priodol. Roedd modd cyfiawnhau llawer o'r gwaradwydd yn erbyn ymddygiad gormesol a mympwyol yr ynadon, ond nid oedd cyfiawnhad dros rai: wedi'r cyfan, hwy gawsai’r gwaith diddiolch o weithredu deddfwriaeth ddiweddar 'anffodus' nad oedd yn addas iawn i amodau cymdeithasol Cymru, gyda’r trethiant newydd yn pwyso’n arbennig o drwm ar werin dlawd Cymru; a chydag eu hystadau mewn dyled, yn syml, ni allent fforddio lleihau eu rhenti gymaint â thraean neu hanner yn unol â’r galw poblogaidd..
Para 3.13