Para 3.15

Mae rhan sylweddol o’r diddordeb yn y terfysgoedd i’w briodoli i’r modd y cawsant eu gweithredu - dynion wedi eu gwisgo mewn dillad menywod - gynau gwyn yn aml – gyda’u hwynebau wedi’u duo neu’n gwisgo masgiau (ond weithiau dim ond rhai a fyddai'n gwisgo dillad menywod), ymosod ar dollbyrth yn ystod y nos i gyfeiliant digonedd o sŵn ac, yn y cyfnodau cynnar, treial ffug cyn i'r gwaith dinistrio ddechrau. Roedd nodweddion fel gwisg menywod, y duo, y sŵn a’r treialon ffug yn efelychiad uniongyrchol o arfer lleol y ceffyl pren, a oedd ar gynnydd yn sylweddol yn niwedd y 1830au (3V) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Roedd y ceffyl pren yn ffordd o frawychu a chosbi rhywun a oedd wedi troseddu yn erbyn gwerthoedd y gymuned, fel anffyddlondeb priodasol neu achwyn ar rywun arall. Roedd y ceffyl pren yn cael ei adlewyrchu yn y gwyliau swnllyd, dan fwgwd, mewn gwledydd eraill yn Ewrop, fel 'cerddoriaeth arw' ardaloedd penodol yn Lloegr, yn y charivaris, scampanate, katzenmusic a cencerrada - pob un yn ffurfio rhan o The Abbeys of Misrule – criwiau o ddynion a fyddai'n gwawdio camymddygiad cymdogion. Roedd hawl carnifal beirniadaeth a gwatwar weithiau yn troi’n brotest cymdeithasol o ddifrif ar draws Ewrop, Prydain ac Iwerddon yn y cyfnod modern cynnar, pan wisgai dynion ddillad menywod - yng Nghymru, gwelwn hyn yn digwydd ymysg glowyr de Cymru a fu ar streic rhwng 1830 a 1832, ac wrth gwrs, yn nherfysgoedd Beca. Roedd gwrthdroadau defodol a gwyliau yn cael eu rhoi ar waith mewn ffyrdd newydd.