Para 3.16
Wrth gwrs, roedd yr wynebau duon a’r gwisgoedd benywaidd yn rhannol yn fater syml o guddio. Ond yr un mor bwysig, yn ôl Natalie Davis,1[MD1] oedd y gwahanol ffyrdd y mae'r persona benywaidd yn sancsiynu gwrthsafiad. Ar y naill law, roedd y cuddwisg yn rhyddhau dynion o’u cyfrifoldebau llawn am eu gweithredoedd, ac efallai hefyd o ofn dial gwarthus ar eu dyndod. Wedi'r cyfan, menywod oedd y rhain oedd yn gweithredu’n afreolus. Ar y llaw arall, roedd y dynion yn tynnu ar bŵer ac egni rhywiol y wraig afreolus ac ar ei thrwydded (a dybiwyd ers peth amser mewn carnifalau a gemau) i hybu ffrwythlondeb, i amddiffyn buddiannau a safonau cymunedol, ac i ddweud y gwir am anghyfiawnder. Yn yr un modd, mae haneswyr eraill fel Alun Howkins a Linda Merricks 2[MD2] yn cyfeirio at y modd yr oedd cymryd rhan yn y ddefod o dduo a gwisgo dillad menywod yn trawsnewid y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r gweithgarwch; nid mater o fod yn guddiedig oedd duo’r wyneb neu wisgo mwgwd. Yn wir, yr elfen go iawn o fod yn guddiedig oedd yn erbyn yr hunan, oherwydd y tu ôl i ddefod y mwgwd, y gwisgoedd menywod a’r actio 'pantomeim' o wrthwynebiad, gallai ffermwyr parchus (yn achos Beca) gael eu trawsnewid yn gydwybod y gymuned a chyflawni gweithredoedd o brotest cwbl groes i’w cymeriad mewn cymhariaeth â’u hymarweddiad parchus arferol. Mae'r cipolwg diddorol hwn ar symbolaeth rywiol a chwarae wyneb i waered sy'n ymwneud â thrawswisgo a’r ddefod o dduo yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o'r terfysgoedd. Cawn ein gadael yn pendroni tybed ai dim ond mater syml o guddio oedd troi cot tu chwith allan – dull a fabwysiadwyd o bryd i'w gilydd gan Ferched Beca.
Para 3.15