Para 3.6
Cafodd llunio Deddf Cymudo'r Degwm 1836 ei hawlio gan Gomisiynwyr Beca a oedd yn ymchwilio i’r terfysgoedd fel yr ail ffactor yn unig i'r system dyrpeg fel un o achosion yr anfodlonrwydd. Roedd gwrthwynebiad o'r fath i gymudo degwm yn unigryw i dde Cymru, oherwydd mewn mannau eraill ym Mhrydain roedd y gwaith cymudo yn weddol ddidrafferth. Roedd yr amgylchiadau yn wahanol yn ne Cymru, lle’r oedd tâl rhent y degwm yn cael ei ysgwyddo gan y meddiannydd, ond mewn ardaloedd yn Lloegr y landlord oedd yn dwyn y baich, a thrwy ymgymryd ag ef, roedd y gwaith o’i gasglu yn hawdd ac roedd modd iddo wedyn osod ei dir yn rhydd o ddegwm. Yn ddiau oherwydd hyn roedd tirfeddianwyr yn ne Cymru yn ddiofal wrth roi sylw i'r broses gymudo, ac felly gadawsant i’w tenantiaid ddioddef drwy ganiatáu i symiau uwch gael eu pennu nag a fyddai wedi digwydd fel arall. Roedd y Ddeddf yn golygu bod taliad degwm yn ne Cymru wedi cynyddu 7 y cant, ac roedd yn sylweddol fwy felly yn ne-ddwyrain Cymru. Er bod y cynnydd yn ddigon real, roedd y ffermwyr wedi camddeall egwyddorion sylfaenol cymudo, gan roi’r bai ar gam ar y Ddeddf am bennu cynnydd annheg a thrwm yn eu taliad. Y caledi go iawn oedd yn codi o waith y ddeddfwriaeth newydd oedd bod pris ŷd yn 1843 yn isel, fel bod pris cyfartalog ŷd am saith mlynedd yr oedd rhent-dâl blynyddol y degwm yn seiliedig arno yn uwch na phris cyfredol 1843. Yn wahanol i'r sefyllfa dan yr hen system, ar ôl cymudo, ychydig iawn o amrywiaeth blynyddol oedd yn bosibl yn swm y taliad, waeth pa mor amhroffidiol oedd y tymor i'r ffermwr, ac roedd y taliad yn cael ei hawlio’n rheibus erbyn hynny. Ac, effaith allweddol ar gyflwr meddwl y ffermwyr dan warchae oedd fod y degwm yn awr i gael ei dalu mewn arian, a hwythau’n brin iawn o arian parod (3E) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .Roedd y gwyn hon ynghylch baich ariannol y degwm, o’i ychwanegu at ffactorau eraill, a oedd yn neilltuol o lym yng Nghymru, fel y graddau helaeth yr oedd degymau wedi trosglwyddo ddwylo lleygwyr a thwf cyflym Anghydffurfiaeth, yn golygu bod talu’r degwm yn 1843 yn cael ei gasáu â chas perffaith.