Para 3.7

Cafodd cwynion yn erbyn y degwm eu lleisio o fis Mehefin 1843. A llawer o'r bariau tollau wedi cael eu dinistrio neu eu diddymu erbyn diwedd mis Awst, dechreuodd gwrthwynebiad i’r degwm, rhenti uchel a Deddf newydd y Tlodion gael blaenoriaeth yn rhaglen Beca o'r amser hwnnw. O fis Mehefin ymlaen, cynhaliwyd ffug arwerthiannau o gasglwyr degwm (3F) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   ac anfonwyd llythyrau bygythiol (3G); cafwyd ymgais (aflwyddiannus) i anafu’n ddifrifol yr asiant degwm atgas, John Edwards o Gelliwernen House ger Llannon (Sir Gaerfyrddin), yn ystod noson 22-23 Awst gan dorf fawr o Ferched Beca; o ddechrau Awst 1843 bu protestiadau yn erbyn baich degymau, ymhlith cwynion eraill, mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn ystod y dydd; ac, fel rhagflas o Ryfel y Degwm yn yr 1880au (er bod mater y degwm erbyn hynny wedi dod yn fwy gwleidyddol ac wedi ei drwytho ag angerdd cenedlaetholgar, a oedd trwy hynny yn esbonio’r lefel uwch o gynddaredd), yn niwrnod talu’r degwm yn Llandeilo ar 27 Awst, 1843, fe wnaeth y rhan fwyaf o'r ffermwyr wrthod talu, ar ôl gofyn am ostyngiad y diwrnod blaenorol.