Para 3.8

Roedd Deddf newydd y Tlodion 1834 hefyd yn atgas yng ngolwg y dosbarthiadau is. Yr hyn oedd yn peri i’r ffermwyr fod mor ddig am y ddeddfwriaeth oedd eu bod yn wynebu baich ariannol ychwanegol ar yr union adeg yr oedd prinder dybryd o arian, ac roedd yr amgylchiadau gwaethygol newydd yn cyferbynnu’n llym â’u profiad â'r arfer blaenorol o ganiatáu dyn dan bwysau ariannol i dalu treth y tlodion mewn nwyddau (3H) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Yn ogystal, mewn plwyfi gwledig roedd gweithredu’r Gyfraith yn golygu cynnydd yn swm y gyfraddau o'i gymharu â'r hen system (3I) (er y dylid gwerthfawrogi y byddai cynnydd mawr yn y cyfraddau wedi digwydd ym mlynyddoedd cynnar y 1840au hyd yn oed dan y system gynharach, oherwydd y dirwasgiad mewn ardaloedd amaethyddol a gweithgynhyrchu haearn). Roedd ffermwyr, hefyd, wedi cynhyrfu yn sgil cymalau bastardiaeth llym y Ddeddf, ar sail eu creulondeb ac, yn ôl y disgwyl, oherwydd y gost ychwanegol pan oeddent yn gweithredu. Er bod y tlodion mewn tloty yn ymddangos fel pe baent yn cael eu trin yn garedig gydag amodau glendid a bwyd da yn rhagori ar y rhai a oedd i'w cael y tu allan, roedd y dosbarthiadau llafurio yn casáu Deddf newydd y Tlodion - yn anad dim, oherwydd eu bod yn dadlau bod eu tlodi yn cael ei drin fel trosedd, a'u bod yn cael eu cloi mewn tŷ undeb a fyddai’n cael ei redeg yn greulon, yn debyg i garchar (3I). Yn ogystal, roeddent yn ddig wrth weld haerllugrwydd y swyddogion cymorth.