Para 3.9

Er bod nifer o ffermwyr yn dymuno dychwelyd i rywbeth tebyg i’r hen system o roi cymorth i’r tlodion, roedd sawl un, yn enwedig y rhai mwy gwybodus, yn gwrthwynebu hyn yn gryf, ac yn lle hynny yn dymuno diwygio'r Ddeddf. Cafwyd protestiadau yn erbyn Deddf newydd y Tlodion ar ffurf llythyrau a anfonwyd at feistri tlotai’r undeb yn eu rhybuddio i ryddhau tlodion o’r safle (3J) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Er bod wyrcws Caerfyrddin wedi cael ei anrheithio ar 19 Mehefin 1843, cafodd yr ymosodiad eang y dymunwyd ei weld ar y tlotai atgas ei lesteirio gan eu bod wedi eu gwarchod yn drylwyr. Protestiwyd hefyd yn erbyn Deddf newydd y Tlodion mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn ystod y dydd ac mewn cân Beca hir yn y Gymraeg. (Lleisiai caneuon Beca gwynion eraill, hefyd.)