Para 4.10
Er gwaetha’r buddiannau yr oedd Protestaniaid yn eu mwynhau fel cefnogwyr yr Eglwys a sefydlwyd gan y Frenhines, a bod ganddynt fonopoli bron â bod ar fynediad at y wasg a'r pulpud, sef y ddau brif gyfrwng ar gyfer dylanwadu ar farn y cyhoedd, bu anawsterau hefyd. Er bod tri ar ddeg o’r un ar bymtheg o esgobion Cymru yn oes Elisabeth yn Gymry, gan gynnwys dau neu dri o allu eithriadol, a’r rhan fwyaf ohonynt yn Brotestaniaid selog ac yn byw yn eu hesgobaethau, roedd llawer o'u clerigwyr yn ddynion difater eu sêl a’u hansawdd. Roedd y rhan fwyaf o blwyfi Cymru yn rhy anfuddiol i ddenu, gan fod eu deiliaid yn ddynion a oedd wedi cael eu haddysgu mewn ysgolion gramadeg neu brifysgol, ac o’u rhengoedd hwy’n unig y gellid recriwtio pregethwyr trwyddedig (4R) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Roedd bywoliaethau tlawd, ar ben hynny, wedi arwain at amlblwyfaeth (mwy nag un fywoliaeth ar y tro) ac absenoldeb. Dim ond yn araf y gallai'r Eglwys yng nghyfnod Elisabeth obeithio weld cefn ar y clerigwyr israddol yr oedd wedi eu hetifeddu a cheisio recriwtio gwell olynwyr iddynt. Erbyn diwedd y deyrnasiad, fodd bynnag, roedd wedi llwyddo i ryw raddau o ran codi’r safon yn gyffredinol. Roedd nifer yr offeiriaid oedd wedi cael addysg uwch wedi cynyddu'n sylweddol, ac ymhlith y clerigwyr uwch cafwyd dynion o fri ac ymrwymiad go iawn, fel Edmwnd Prys neu Edward James. Nid dim ond offeiriaid oedd yn destun cwynion esgobion a beirniaid eraill; daeth y lleygwyr hefyd dan eu llach. Cafwyd adroddiadau am anwybodaeth eang, ofergoeliaeth a goroesiad arferion Catholig ar bob lefel gymdeithasol (4Si, 4Sii, 4Siii). Roedd nifer o'r bonedd yn slac wrth weithredu eu dyletswydd i orfodi setliad crefyddol, ac roedd gan rai cydymdeimlad cynnes â Chatholigiaeth (4T). Bu eraill yn dilyn yn ddiymdroi'r arweiniad a roddwyd iddynt gan fwy nag un weinyddiaeth Duduraidd yn ysbeilio a manteisio ar eiddo a refeniw’r Eglwys. Er tegwch i'r lleygwyr, serch hynny, dylid cofio bod rhai o'r diwygwyr ac awduron mwyaf gweithgar a'u noddwyr wedi dod i’r amlwg o blith eu rhengoedd - dynion fel William Salesbury, Morus Kyffin a Humphrey Toy. Roedd hyn yn dystiolaeth huawdl i newid ym mhwyslais y Diwygiad Protestannaidd at fwy o rôl ym mywyd crefyddol i leygwyr dysgedig a duwiol. Ymhellach, erbyn 1603 roedd llawer o'r sgweieriaid wedi dod i weld yr Eglwys Wladol fel un o wrthgloddiau cadarnaf trefn a sefydlogrwydd gwleidyddol a chymdeithasol, a dyna yn ôl pob tebyg oedd y ffactor tyngedfennol oedd yn gyfrifol am eu cefnogaeth.