Para 4.11
Angen mwyaf dybryd yr Eglwys yng nghyfnod Elisabeth, fodd bynnag, oedd fersiwn Gymraeg o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Cyflawni cyfieithiad o'r fath oedd ei buddugoliaeth bendant. Fe wnaeth Deddf Seneddol yn 1563 awdurdodi’r cyfieithiad a mynnu ei fod yn cael ei ddefnyddio ym mhob plwyf lle’r oedd y Gymraeg yn cael ei siarad fel arfer (4U) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Ymddangosodd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Cymraeg, gwaith William Salesbury a Richard Davies yn bennaf, ym 1567, a Beibl cyflawn William Morgan ym 1588 (4V). I ganlyn hynny cyfieithwyd y catecism, y Llyfr Homilïau, a chlasuron crefyddol eraill i'r Gymraeg. Fe wnaeth cyhoeddi'r llenyddiaeth hon, er bod llai wedi ei wneud nag yr oedd y Diwygwyr wedi ei obeithio’n wreiddiol, sicrhau llwyddiant y Diwygiad yng Nghymru. Hebddo, byddai addysgu Protestannaidd wedi bod yn ffars ddiystyr yng nghanol poblogaeth uniaith Gymraeg. Nid oedd gwasanaethau Saesneg yn fwy dealladwy na'r rhai Lladin, yn yr hyn y cyfeiriodd George Owen ato fel 'cyfnod dallineb' (4W). Fe wnaeth gwneud y Gymraeg yn iaith addoli cyhoeddus roi statws gwell i’r iaith a sicrhau ei bod yn goroesi. Fe wnaeth y Beibl Cymraeg, gan gyfuno egni a phurdeb iaith glasurol y beirdd gyda hyblygrwydd ac amrediad estynedig, osod y sylfaen ar gyfer holl lenyddiaeth Gymraeg yn dilyn hynny. Cafodd ei hebrwng gan ailddehongliad hanesyddol dramatig a wrthododd yn bendant y syniad bod y Diwygiad yn heresi ffasiwn newydd ac yn gredo Saesneg estron. I’r gwrthwyneb, fe'i cyflwynwyd fel adfywiad o’r Eglwys Brydeinig gynharaf ac adfywiad Oes Aur cyndadau Prydeinig y Cymry (4X). Fel y cyfryw, profodd yn ffactor hynod o gryf wrth gadw ac ysgogi gwladgarwch Cymreig.
Uned 5 Mudo yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif
Para 4.10