Para 4.2

Roedd aflonyddwch dwys, serch hynny, yn aros ymhlith rhai eneidiau anfodlon. O 1517 ymlaen, mynegodd athrylith crefyddol chwyldroadol, Martin Luther, nid yn unig amheuon a barodd i lawer gwestiynu’r drefn ond a gyflwynodd hefyd ateb hyderus iddynt yn seiliedig ar ei brofiad ei hun. Cyhoeddodd mai ffydd y crediniwr ei hun yng Nghrist yn unig oedd yn dod ag iachawdwriaeth, ac nad oedd angen unrhyw gyfryngwr rhwng ef a Duw, ac mai’r Beibl oedd y ffynhonnell unigryw o wirionedd crefyddol. Roedd ef a Diwygwyr eraill wedi lansio Diwygiad Protestannaidd ar Ewrop yr oedd llawer ar fin ei gofleidio. Fe wnaeth y wasg argraffu gario’r syniadau hyn, oedd mor chwyldroadol yng ngolwg yr awdurdod ac addysg grefyddol sefydledig, ymhell, yn gyflym ac yn helaeth. Cafodd rhai rheolwyr seciwlar hefyd eu temtio i'w derbyn er mwyn dod â'r Eglwys a'i heiddo yn fwy cadarn dan eu rheolaeth (4B) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Ni chafodd Harri VIII, brenin Cymru a Lloegr, ei berswadio felly ar y dechrau. Ond o 1527 ymlaen roedd yn dymuno cael ei briodas â Catherine o Aragon wedi ei dirymu, yn rhannol am resymau gwleidyddol ac yn rhannol am resymau personol. Dim ond gan y Pab oedd yr awdurdod i wneud hyn, a gwrthododd ei gais. Felly, ceisiodd Harri a'i weinidogion ei orfodi i newid ei feddwl. Fe wnaeth y senedd basio nifer o Ddeddfau, yn berthnasol i Gymru a Lloegr, gan arwain at drosglwyddo awdurdod y Pab i'r Brenin, a gwneud Harri yn Bennaeth Goruchaf yr Eglwys yn Lloegr (4C). Nid oedd hwn yn Ddiwygiad Protestannaidd, ond hwn oedd y cam cyntaf pendant tuag ato. Cyn belled ag yr oedd Cymru yn y cwestiwn, yn wahanol i rannau o dde a dwyrain Lloegr, nid oedd fawr o gydymdeimlad – neu ddim o gwbl – ag athrawiaeth Brotestannaidd. Y ffaith ganolog am y Diwygiad yng Nghymru oedd nad gwaith y bobl a’i creodd. Cafodd ei osod arnynt oddi uchod ac o'r tu allan drwy awdurdod y Brenin a'r Senedd. Mynnai’r llywodraeth y dylai lleygwyr mewn awdurdod a'r holl offeiriaid dyngu llw o deyrngarwch i Harri fel y Pen Goruchaf. Yng Nghymru, bron yn ddieithriad, fe wnaethant hynny (4D). Roedd rhai yn anesmwyth wrth weld gweithredoedd y Brenin, ac roedd llawer o gydymdeimlad tuag at y Frenhines Catherine (4E). Ond dim ond dau offeiriad, y naill na’r llall o Gymru, y gwyddys eu bod wedi gwrthod y llw, er bod o leiaf bedwar clerigwr o Gymru, a oedd yn byw yn Lloegr, wedi cael eu dienyddio am ei wrthod.