Para 4.3

Fe wnaeth Harri a'i brif gynghorydd, Thomas Cromwell, fwrw ymlaen i fanteisio ar botensial ariannol yr oruchafiaeth drwy ddiddymu’r mynachlogydd a throsglwyddo eu hasedau i'r Goron. Rhwng 1536 a 1540 roedd pob un o’r deugain a saith o fynachlogydd a brodordai yng Nghymru wedi cael eu hatal. Fe wnaethant ddiflannu heb gofnod o unrhyw brotest neu wrthwynebiad; nid oherwydd eu bod yn ffeuau i anfoesoldeb, ond oherwydd eu bod yn ymddangos fel pe baent wedi mynd y tu hwnt i’w pwrpas. Roedd nifer y mynachod yn rhy fach i'w galluogi i gynnal cyfres lawn o addoliadau a gweddïau, gyda chyfartaledd o ddim ond saith neu wyth mewn tai mwy o faint fel Castell-nedd neu Gonwy, a thua thri mewn rhai llai fel Trefynwy neu Feddgelert (4F) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Er bod rhai mynachlogydd wedi cynnal mesur o ddysgu, lletygarwch ac elusen i’r tlodion, nid oeddent erbyn hynny’n gwneud cyfraniadau sylweddol yn hyn o beth fel yr oeddent wedi ei wneud ar un adeg. Nid oeddent chwaith yn arloeswyr gweithgar mewn menter economaidd fel yr oeddent yn flaenorol; roeddent erbyn hynny’n fodlon trosglwyddo’r gwaith o reoli eu hystadau a llawer o bethau eraill i leygwyr. Pan gafodd y mynachlogydd eu diddymu, cafodd rhai mynachod bensiwn, daeth eraill yn offeiriaid plwyf a dychwelodd rhai i fywyd lleyg. Cafodd adeiladau mynachaidd eu hysbeilio am eu cerrig, eu gwaith metel a’u pren, gan fynd yn adfail, er bod rhai eglwysi mynachaidd, fel y rhai yng Nghas-gwent a Hwlffordd, wedi cael caniatâd i aros fel eglwysi plwyf, tra bod adeiladau eraill wedi dod yn dai ar gyfer y bonedd, fel yn achos Ewenni neu Fargam. Er ei fod yn nodwedd amlwg yn hanes crefydd, digwyddodd y diddymu yn rhyfedd o ddigynnwrf. Roedd y mynachlogydd wedi mynd mor seciwlar a hen ffasiwn fel yr oedd modd cael eu gwared heb fawr o ofn ynghylch beth fyddai’r canlyniadau. Roedd y bonedd blaenllaw yn hynod awyddus i elwa ar eu diflaniad, gan gaffael eu heiddo yn hwyr neu'n hwyrach.