Para 4.4

Rhywbeth a oedd yn achosi mwy o bryder i'r awdurdodau na diddymu'r mynachlogydd oedd yr ymateb posibl i ddiddymu creirfâu a chanolfannau pererindod yn gysylltiedig â mynachlogydd a'r eglwysi cadeiriol ym 1538. Pan oedd canolfan boblogaidd iawn cwlt y Forwyn Fair ym Mhen-rhys yn y Rhondda ar fin cael ei chau, rhoddwyd cyfarwyddiadau y dylid gwneud hynny yn y nos mor gyfrinachol â phosibl rhag peri terfysg neu aflonyddwch. Yn Nhyddewi, fe wnaeth Esgob William Barlow, y Protestant mwyaf brwd a anfonwyd i Gymru yn ystod teyrnasiad Harri VIII, wynebu gwrthwynebiad ystyfnig i’w ymosodiadau ar greirfa Dewi Sant a'i gynigion i symud ei gadeirlan i Gaerfyrddin (4G) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Ond ni wnaeth y mesurau hyn yn erbyn creirfâu gyffroi unrhyw wrthryfel agored, hyd yn oed. Efallai bod y bardd, Lewys Morgannwg, wedi mynegi teimladau nifer pan ganmolodd y Brenin am ddelio â'r Pab mor gadarn â’i elynion eraill (4H). Roedd ei ddeiliaid yn cymeradwyo rheolaeth gref a chadarnhaol Harri. Sut bynnag, ychydig o wahaniaeth wnaeth ei newidiadau i ddefodau crefyddol o ddydd i ddydd. Roedd yr eglwysi yn edrych yr un fath ag o'r blaen; prin oedd eu gwasanaethau wedi cael eu newid; a Lladin oedd iaith yr addoli o hyd. Gellid dweud fod y Brenin wedi cynnal Pabyddiaeth heb y Pab; ac os dienyddiodd y Cymro Edward Powell am gynnal awdurdod y Pab, llosgodd Thomas Capper o Gaerdydd hefyd am heresi Brotestannaidd (4L). Yn ystod ei deyrnasiad, roedd yr holl bwyslais ar gydlyniad gwleidyddol, nid arloesi athrawiaethol.